10 Cam i Feistroli Ymgysylltu Digidol (ar gyllideb dynn): Adnodd Rhyngweithiol Newydd gyda Fideos I cefnogi pob Pennod

10 Cam i Feistroli Ymgysylltu Digidol (ar gyllideb dynn): Adnodd Rhyngweithiol Newydd gyda Fideos I cefnogi pob Pennod
Cynyddwch eich hyder, ehangwch eich cyrhaeddiad, a chymerwch gam ymlaen gyda’ch ymgysylltu digidol. Dilynwch y canllaw a defnyddiwch y fideos esboniadol byr i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd. 

Mae’r canllaw 10 cam am ddim gan Newid wedi’i gynllunio ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol yng Nghymru sy’n dymuno gwella’r ffordd maen nhw’n ymgysylltu ar-lein – drwy frandio gwell, gwefannau, cyfryngau cymdeithasol, e-byst a fideo. 

  • Lawr-lwythwch y canllaw heddiw i gychwyn ar eich taith o welliant.
  • Yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr neu dimau prysur sydd eisiau manteisio i’r eithaf ar offer digidol cost isel neu am ddim. 
  • Mae’r canllaw yn eich helpu i osod nodau sy’n cyd-fynd â’ch gallu a’ch uchelgais. 
  • Defnyddiwch y rhestrau gwirio enghreifftiol i osod eich nodau, a dilynwch y fideos byr i feithrin eich sgiliau a’ch hyder. 
  • Dechreuwch gyda’r bennod sydd fwyaf perthnasol i’ch anghenion presennol, a datblygwch ar eich cyflymder eich hun. 
  • Yn berffaith ar gyfer elusennau, mentrau cymdeithasol  a grwpiau cymunedol gwraidd. 
"Mae'r canllaw hwn yn dwyn ynghyd lawer o'r hyn rydym wedi'i ddysgu o weithio'n ymarferol gyda grwpiau trydydd sector ledled Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf drwy Newid. Rwy'n hyderus bod rhywbeth ynddo i bawb. Byddwn yn annog unrhyw sefydliad i edrych o'r newydd ar sut maen nhw'n gweithio a defnyddio'r adnodd hwn i ddechrau canolbwyntio ar feysydd lle rydych chi'n teimlo y gellid eu gwella.” 
"Mae hyd yn oed y daith hiraf yn dechrau gyda cham cyntaf, felly cymerwch y cam hwnnw heddiw a lawr lwythwch y canllaw hwn. Beth sydd gennych chi i'w golli?" 

Marc Davies 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu