AI ar gyfer Arweinwyr: Hyfforddiant am ddim i'r Trydydd Sector yng Nghymru

Mae yna angen amlwg am sgyrsiau ar lefel arweinwyr ynghylch AI. Nid dim ond ynghylch beth sy’n bodoli, ond sut maent yn gallu bod yn rhan o’ch cenhadaeth, sut i’w defnyddio’n gyfrifol, a sut i adeiladu hyder yn fewnol.
Yr hydref hwn, rydym yn cynnig dau fodiwl am ddim ar-lein wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer arweinwyr elusen, ymddiriedolwyr a staff uwch yng Nghymru. Dros y ddau fodiwl, byddwn yn cwmpasu trosolwg o AI, enghreifftiau ymarferol, astudiaethau achos Trydydd Sector, llywodraethiant, risg a defnydd cyfrifol.
Mae croeso i chi gofrestru ar y ddau fodiwl neu’r un sy’n fwyaf perthnasol i chi.
Modiwl 1 - AI ar gyfer Arweinwyr: AI ar gyfer y Trydydd Sector
Pryd: 29ain Hydref 2025, 10am
Gyda’r cynnydd cyflym ym maes Deallusrwydd Artiffisial a chyflymder ei ddatblygiad, gall fod yn heriol i sefydliadau gadw fyny gyda hyn.
Yn y modiwl hwn, bydd ProMo Cymru yn eich arwain chi drwy gymwysiadau ymarferol AI ar gyfer eich sefydliad a rhannu astudiaethau achos o’r trydydd sector.
Mae’r modiwl hwn wedi’i fwriadu ar gyfer arweinwyr er mwyn eich helpu i ddeall sut y gall AI gefnogi eich gwaith.
Drwy’r modiwl ymarferol lle cewch brofiad eich hun o wneud pethau byddwn yn cwmpasu
- Cefndir AI: Beth ydyw a sut mae’n gweithio
- Adnodd AI i ddechreuwyr megis ChatGPT ac Otter.ai
- Adnoddau AI uwch, megis NotebookLM, Claude a Firebase Studio
- Enghreifftiau o AI yn y trydydd sector
- Dyfodol AI: Pa rôl allai AI ei chwarae yn nyfodol eich sefydliad?
Modiwl 2 - AI ar gyfer Arweinwyr: Polisi, Llywodraethiant a Strategaeth
Pryd: 26ain Tachwedd 2025, 10 am
Yn y modiwl hwn, bydd ProMo Cymru yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer mewnosod Deallusrwydd Artiffisial ar draws eich sefydliad.
Byddwn yn ystyried strategaethau ar gyfer cefnogi eich staff, gan ddelio gydag ystyriaethau moesegol gyda hyder, ysgrifennu polisïau defnydd priodol, a chyfathrebu eich gweledigaeth ar gyfer mabwysiadu AI yn gyfrifol.
P’un a ydych chi yn y camau cyntaf o archwilio AI neu ddatblygu strategaeth, bydd y sesiwn hon yn rhoi mewnwelediadau ymarferol i chi er mwyn arwain eich sefydliad ymlaen i’r dyfodol gyda Deallusrwydd Artiffisial.
Drwy’r modiwl hwn, byddwn yn cwmpasu
- Sut i ysgrifennu polisïau defnyddio AI eglur ac ymarferol
- Ffyrdd o gefnogi eich staff ac adeiladu hyder gydag AI yn fewnol
- Dulliau o reoli ystyriaethau moesegol a risgiau
- Sut i gyfathrebu gweledigaeth eich sefydliad ar gyfer AI cyfrifol strategaethau i sicrhau bod mabwysiadu AI yn cryfhau eich cenhadaeth a’ch gwerthoedd
Mae’r sesiynau hyn wedi’u bwriadu ar gyfer
- Uwch Arweinwyr, Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r Bwrdd sydd eisiau deall y cyfleoedd y mae AI yn eu darparu yn well.
- Arweinwyr digidol, arweinwyr cyfathrebu, rheolwyr gwasanaeth neu staff Trydydd Sector arall sydd, p’un ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, yn chwarae rhan yn llywio cyfeiriad digidol
Gwybodaeth bwysig
- Cymhwysedd: Mae’n rhaid i chi fod yn rhan o Sefydliad Trydydd Sector sydd wedi’i leoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yma.
- Un lle am bob sefydliad: Gan fod llefydd yn gyfyngedig, byddwn yn cynnig un lle am bob sefydliad.
- Y broses ddethol: Rydym yn awyddus i weithio gydag amrywiaeth eang o sefydliadau trydydd sector ledled Cymru felly byddem yn mynd drwy broses o ddewis.
- Iaith: Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.
- Dyddiad cau:
Cadw ar flaen y newydd
Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu