Deallusrwydd Artiffisial er Lles: Tasglu Deallusrwydd Artiffisial Elusennol Newydd wedi’i Lansio i Hyrwyddo Deallusrwydd Artiffisial Moesegol yn Sector Cymdeithasol y DU

Deallusrwydd Artiffisial er Lles: Tasglu Deallusrwydd Artiffisial Elusennol Newydd wedi’i Lansio i Hyrwyddo Deallusrwydd Artiffisial Moesegol yn Sector Cymdeithasol y DU
Llun gan ProMo Cymru
Mae menter newydd ar draws y UK, sef y Tasglu Deallusrwydd Artiffisial Elusennol, wedi cael ei lansio er mwyn sicrhau bod deallusrwydd artiffisial (AI) yn cael ei ddatblygu a’i ddefnyddio’n gyfrifol, yn gynhwysol ac yn gydweithredol ar draws y sector elusennol. Sefydlwyd y tasglu ym mis Chwefror 2025 gan CAST (Centre for the Acceleration of Social Technology) a Zoe Amar Digital

Pwy ydyn nhw? 

Wedi’i gadeirio ar y cyd gan Dan Sutch (Cyfarwyddwr CAST) a Zoe Amar (Sylfaenydd Zoe Amar Digital), mae’r Tasglu Deallusrwydd Artiffisial Elusennol yn dwyn ynghyd gynghrair o dros 50 o sefydliadau sy’n aelodau. Mae’r rhain yn cynnwys Bank Foundation for England and Wales, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, SCVO, Charity Digital a CharityComms. 

 

Beth yw eu pwrpas?  

  • Cynrychioli a chefnogi’r sector elusennol yn y DU wrth lywio traweffeithiau Deallusrwydd Artiffisial. 
  • Rhoi arweiniad i elusennau ar ddefnydd diogel, teg a moesegol o Ddeallusrwydd Artiffisial a gwneud penderfyniadau ynghylch Deallusrwydd Artiffisial sy’n seiliedig ar wybodaeth. 
  • Gwrando ar wahanol grwpiau a gweithio gyda hwy i sicrhau safbwyntiau amrywiol a chynhwysol. 
  • Datblygu, canfod a rhannu argymhellion ymarferol, adnoddau ac ymdrechion er mwyn cefnogi ymateb elusennau i Ddeallusrwydd Artiffisial.
  • Adeiladu partneriaethau, cydweithrediad a rhannu gwybodaeth rhwng elusennau, arbenigwyr technegol, y llywodraeth a busnesau. 


Beth yw eu nod?  

Mae’r tasglu’n canolbwyntio ar bedwar prif nod: 

  • Gweithredu fel llais ar y cyd ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial yn y sector elusennol, gan wneud yr achos am gefnogaeth a phartneriaethau a hyrwyddo ein mewnwelediadau. 
  • Dylanwadu ar ddefnydd cyfrifol, moesegol (gan gynnwys un sy’n gyfeillgar tuag at yr amgylchedd) a chynhwysol o Ddeallusrwydd Artiffisial oddi mewn ac oddi allan i’r sector. 
  • Annog cydweithredu rhwng grwpiau allweddol h.y. arianwyr, rheoleiddwyr, elusennau mawr a bach, busnesau a’r sector gyhoeddus. 
  • Alinio ymdrechion er mwyn sicrhau cefnogaeth well a chyflymach i’r sector.

Mae’r tasglu hefyd yn ceisio anelu i helpu elusennau ddeall yr ystyriaethau moesegol a’r goblygiadau ymarferol o ddefnyddio technolegau Deallusrwydd Artiffisial. 

Sut allwch chi gymryd rhan? 

Gwahoddir elusennau, arianwyr, ymchwilwyr ac eraill sydd â diddordeb mewn Deallusrwydd Artiffisial yn y trydydd sector i gyfranogi.  

Mae ychydig o ffyrdd y gallwch gymryd rhan:  

  • Ymuno gydag un o’r grwpiau gweithio sy’n benodol i’r sector (ar gyfer elusennau bach, arianwyr a.y.y.b.). 
  • Cyfranogi mewn byrddau crwn neu grwpiau ffocws.
  • Rhannu mewnwelediadau, ymchwil neu astudiaethau achos ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial.

Er mwyn mynegi diddordeb neu gyfrannu, cysylltwch gyda’r tasglu drwy ebostio taskforce@wearecast.org.uk

Ceir rhagor o wybodaeth ar dudalennau Tasglu Deallusrwydd Artiffisial Elusennol sy’n cael eu cynnal gan CAST

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu