Sut i Gynllunio Ymgyrch gan ddefnyddio’r model OASIS: Pecyn Cymorth Ymgyrch Am Ddim ar gyfer Elusennau

Bydd ein hadnodd yn eich arwain drwy hanfodion ymgyrch, yn diffinio’r model OASIS, yn trafod pam fod cynllunio’n bwysig, a sut y gallwch chi ddefnyddio ein Pecyn Cymorth Ymgyrch OASIS i ddod â’ch syniadau ymgyrchu yn fyw.
Beth yw Ymgyrch?
Cyfres o weithgareddau wedi’u cynllunio i gyflawni nod penodol yw ymgyrch. Gallai hynny fod yn godi ymwybyddiaeth, newid ymddygiad, hyrwyddo gwasanaeth, neu ddylanwadau ar bolisi.
Yn y trydydd sector, defnyddir ymgyrchoedd yn aml i dynnu sylw at fater, ymgysylltu â’r cyhoedd, denu cyllid neu gefnogaeth, neu ysgogi newid cadarnhaol. Gallant gynnwys digwyddiadau, lobïo, adrodd stori, allgymorth cymunedol, cynnwys ar-lein, a mwy.
Yr hyn sy’n gwneud ymgyrch yn wahanol i gyfathrebu dydd-i-ddydd yw ei ffocws a’i strwythur. Mae ganddi fan cychwyn a gorffen clir, cynulleidfa neilltuol, ac amcan mesuradwy. P’un a yw’n parhau am wythnos neu am flwyddyn, bydd ymgyrch sydd wedi’i chynllunio’n dda yn eich cynorthwyo i ddefnyddio’ch amser a’ch adnoddau yn fwy effeithiol. Mae hefyd yn opsiwn gwych os ydych yn brin o amser i gynnal ychydig o ymgyrchoedd â ffocws go iawn mewn blwyddyn yn hytrach na phostio’n achlysurol i ledaenu’ch neges.
Pam Cynllunio Ymgyrch?
Mae ymgyrchoedd yn ffordd ddefnyddiol o ddylanwadau ar newid, codi ymwybyddiaeth, ysgogi camau, ac ymgysylltu â chymunedau. Ond nid yw ymgyrchoedd llwyddiannus yn digwydd ar hap fel arfer. Mae angen strwythur arnynt, eglurdeb, a ffocws.
Mae cynllunio yn eich cynorthwyo
- Ganfod eich nod a’ch cynulleidfa
- Gosod amcanion clir, mesuradwy
- Defnyddio amser ac adnoddau’n effeithlon
- Bod yn gyson yn eich negeseuon
- Addasu i heriau a chyfleoedd
Beth yw’r model OASIS?

OASIS yw Amcan, Cynulleidfa, Strategaeth, Gweithrediad a Sgorio (Objective, Audience, Strategy, Implementation and Scoring).
Mae pob cam yn eich cynorthwyo i greu ymgyrch sydd â ffocws, yn gyraeddadwy ac yn cyd-fynd â’ch gwerthoedd.
Dyma ddadansoddiad cyflym
Amcan
Beth hoffech chi ei gyflawni?
Dylai’ch amcan fod yn glir, yn benodol ac yn fesuradwy. Gallai hyn fod yn gynnydd mewn cofrestriadau am wasanaeth, ymwybyddiaeth gynyddol o fater, neu’n ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Y peth allweddol yw gwybod sut beth yw llwyddiant o’r cychwyn.
Cynulleidfa
Pwy hoffech chi eu cyrraedd?
Meddyliwch am bwy all eich cynorthwyo i gwrdd â’ch amcan. Gallai fod yn ddefnyddwyr gwasanaeth, cymunedau lleol, cyllidwyr, neu wleidyddion. Ystyriwch yr hyn sydd o bwys iddyn nhw, ble maen nhw, a sut maent yn dymuno derbyn gwybodaeth. I ddeall eich cynulleidfa’n well, gallwch greu persona cynulleidfa. Golyga hyn greu cymeriadau ffuglennol i gynrychioli’ch cynulleidfaoedd targed, gan gynnwys eu demograffeg, ymddygiad a nodau. I roi cynnig ar hyn, defnyddiwch dempled persona Media Trust.
Strategaeth
Sut fyddwch chi’n cyflawni’ch amcan?
Eich dull trosfwaol chi yw hwn. Mae’n cynnwys eich negeseuon allweddol, tôn llais, sianeli cyfathrebu, ac unrhyw bartneriaethau neu gynghreiriau. Dylai eich strategaeth fod yn un realistig ac yn canolbwyntio ar yr hyn a wna’r gwahaniaeth mwyaf.
Gweithrediad
Beth fyddwch chi'n ei wneud a phryd?
Dyma lle mae’ch cynllun yn dod yn fyw. Manylwch ar eich gweithgareddau a’ch cynnwys, gosodwch amserlenni a chyfrifoldebau, a byddwch yn barod i ddarparu. Bydd bod yn drefnus ar y cam hwn yn arbed amser ac yn osgoi straen funud olaf.
Sgorio
Sut fyddwch chi’n mesur llwyddiant?
Adolygwch eich canlyniadau yn erbyn eich amcan gwreiddiol. Beth am gasglu adborth, dadansoddi’r ymgysylltu, a myfyrio ar yr hyn a weithiodd. Bydd y cam hwn yn sicrhau eich bod yn dysgu ac yn gwella gyda phob ymgyrch.
Gosod amcanion yr ymgyrch

Nod penodol, mesuradwy y mae ymgyrch farchnata neu hysbysebu yn gobeithio’i gyflawni yw amcan. Mae’n arfer orau i osod amcanion SMART.
Penodol (Specific)
Canlyniad clir a mesuradwy. Osgowch ddefnyddio nodau cyffredin fel ‘beth am gael mwy o roddion’. Byddwch yn benodol am yr hyn yr chhoffe ei gyflawni.
Mesuradwy (Measurable)
A allai rhanddeiliaid anghytuno ynghylch a gyflawnwyd eich amcan neu beidio? Os felly, nid yw’n ddigon mesuradwy. I wneud hyn, meddyliwch am rifau neu amcanion gydag atebion ‘ie neu na’. Yn ogystal, gwnewch yn siŵr fod yr adnoddau angenrheidiol gennych i’w fesur.
Cyraeddadwy (Attainable)
Dylai’ch nod fod yn un realistig, yn seiliedig ar eich amser, adnoddau, a chynulleidfa. Gallwch edrych ar dargedau a chyflawniadau blaenorol i osod nod sy’n gyraeddadwy ond heb ei warantu. Mae bod yn uchelgeisiol yn beth da, ond gall targedau amhosibl arwain at rwystredigaeth.
Perthnasol (Relevant)
A yw eich nodau yn cyd-fynd â’ch strategaeth farchnata a sefydliadol yn gyffredinol? Os nad ydynt, mae’n debyg nad yw’n berthnasol.
Cyfyngiad amser (Time-bound)
Gosodwch ddyddiadau targed a cherrig milltir allweddol i gadw’ch ymgyrch ar y trywydd cywir. Maent yn eich cynorthwyo i drefnu a rhoi strwythur i’ch ymgyrch.
Pam Defnyddio'r Model OASIS?
Mae’r model OASIS yn eich cynorthwyo i
- Gadw ffocws a phwrpas i ymgyrchoedd
- Alinio’ch tîm a’ch rhanddeiliaid
- Osgoi gwastraffu amser ar weithgaredd aneglur neu adweithiol
- Ychwanegu gwerthuso o’r cychwyn
- Dangos effaith a gwerth i gyllidwyr a chefnogwyr
Mae’r llywodraeth, elusennau a grwpiau cymunedol yn ymddiried ynddo, ac mae’n gweithio ar unrhyw raddfa.
Cyflwyno’r Pecyn Cymorth Ymgyrch OASIS
I’ch helpu i ddechrau arni, rydym wedi datblygu Pecyn Cymorth Ymgyrch OASIS ymarferol, wedi’i deilwra ar gyfer sefydliadau trydydd sector.
Mae’n cynnwys
- Tudalen wybodaeth allweddol am ymgyrch
Cadwch eich holl wybodaeth am eich ymgyrch mewn un lle. O’r teitl, i’r negeseuon allweddol, cyllideb oes a dyddiadau allweddol. Bydd cael gwybodaeth mewn man canolog yn arbed amser i chi yn y pen draw.
- Cynllun ymgyrch yn defnyddio’r model OASIS
Defnyddiwch y model OASIS i greu cynllun ymgyrch clir a chyson. Mae’n cynnwys pum cam sy’n eich cynorthwyo i greu ymgyrch drylwyr.
- Calendr cynnwys pythefnos
Cynlluniwch eich holl gynnwys ar gyfer ymgyrch pythefnos. Mae’n cynnwys pwy sy’n postio, ble caiff y cynnwys ei bostio, a phryd. Yn ychwanegol, gellir mesur perfformiad y postiadau er mwyn asesu beth sy’n gweithio gyda’ch cynulleidfa.
Sut i Ddefnyddio’r Pecyn Cymorth
- Cychwynnwch gyda’ch amcanion
Defnyddiwch y Cynllun Ymgyrch i ddiffinio’r hyn yr hoffech ei gyflawni. Cadwch hwn yn benodol ac yn fesuradwy.
- Meddyliwch am eich cynulleidfa
Pwy sydd angen clywed eich neges? Ystyriwch eu hanghenion, ysgogiadau ac ymddygiadau.
- Meithrin eich strategaeth
Diffiniwch eich dull. Beth yw eich negeseuon allweddol? Sut fyddwch chi’n eu cyfathrebu? A ble fyddwch chi’n cyrraedd eich cynulleidfa darged? Ystyriwch hefyd eich galwad i weithredu - beth ydych chi’n awyddus i’ch cynulleidfa ei wneud?
- Cynlluniwch eich gweithgaredd
Llenwch y calendr cynnwys gyda phostiadau, digwyddiadau a gweithredoedd yr ydych wedi’u cynllunio. Ystyriwch yr amseru a’r amrywiaeth.
- Mesur a myfyrio
Gosodwch Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPIau) i’ch cynorthwyo i werthuso llwyddiant eich ymgyrch. Ar ddiwedd eich ymgyrch, defnyddiwch yr adran sgorio i asesu’r perfformiad. Beth weithiodd? Beth ellid ei wella? Beth fyddwch chi'n ei wneud yn wahanol y tro nesaf?
Enghraifft o Gynllun Ymgyrch: Pride Caerdydd: Mwy na Mis
I’ch helpu i ddechrau arni, rydym wedi creu enghraifft go iawn o Becyn Cymorth Ymgyrch OASIS wedi’i gwblhau.
Mae ProMo Cymru yn rhedeg TheSprout, llwyfan blogio, gwybodaeth ac ymgyrchu a grëwyd gyda phobl ifanc yng Nghymru ac ar eu cyfer. Fel rhan o’r prosiect, maent yn cynnal pedair ymgyrch ymwybyddiaeth ddigidol y flwyddyn, gan ganolbwyntio ar y materion sydd o’r pwys mwyaf i bobl ifanc.
Rhai blynyddoedd yn ôl, aethant i Pride Cymru i gasglu lluniau, fideos a chyfweliadau ar gyfer ymgyrch yn dathlu profiadau pobl ifanc LHDTC+.
Rydym wedi defnyddio’r ymgyrch hon i gwblhau enghraifft o gynllun OASIS, gan ddangos sut mae pob cam o’r model yn gweithio’n ymarferol.
Mae croeso i chi ei defnyddio fel cyfeirnod neu ysbrydoliaeth wrth greu eich cynllun ymgyrch eich hun.
Awgrymiadau Ardderchog ar gyfer Ymgyrchu Trydydd Sector
- Cadwch bethau'n syml: Dylech osgoi jargon a chanolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i’ch cynulleidfa.
- Byddwch yn ddynol: Mae straeon a lleisiau go iawn yn meithrin ymddiriedaeth ac empathi.
- Cydweithio: Gweithiwch gyda phartneriaid, cymunedau a chynghreiriaid i amlygu’ch neges.
- Byddwch yn gyson: Mae ailadrodd yn meithrin cydnabyddiaeth. Glynwch at eich negeseuon craidd.
- Cychwynnwch drwy wneud y pethau bychain: Does dim angen cyllideb fawr arnoch i greu effaith sylweddol. Cychwynnwch â’r hyn sydd gennych.
Canllaw Fideo
I gyd-fynd a’r templed, rydym wedi creu canllaw fideo sy’n:
- Trafod pwysigrwydd cynllunio ymgyrchoedd mewn ffordd strwythuredig.
- Esbonio egwyddorion y Model OASIS.
- Darparu arweiniad cam wrth gam ar ddefnyddio’r templed yn effeithiol.
Dechreuwch Gynllunio Eich Ymgyrch Heddiw
Lawrlwythwch ein templed am ddim a gwyliwch y canllaw fideo i ddatblygu eich sgiliau cynllunio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol.
Angen mwy o help?
Am gymorth ychwanegol, gallwch drefnu sesiwn DigiCymru lle byddwch yn cael eich tywys drwy’r adnodd ac yn cael arweiniad ar sut i gynllunio eich ymgyrch.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu