Sut y bu i Scope ddefnyddio dylunio cynnwys ac adeiladu cymuned ar-lein er mwyn gwella cysylltiad ar gyfer rhieni i blant anabl

Mam yn chwythu swigod ar gyfer ei merch ifanc sy’n gwenu, ac sy’n eistedd mewn cadair olwyn.

Golwg newydd ar gefnogi rhieni ar-lein 

Pan ymunodd aelod o’r tîm Scope gyda’r Cwrs Dylunio Gwasanaethau Digidol, fe wnaethant ddechrau gyda’r nod o annog mwy o rieni plant anabl i ymgysylltu gyda’u cymuned ar-lein. 

Ond wrth iddynt symud drwy’r broses ddylunio gwasanaeth, fe esblygodd y nod hwnnw. Yn lle canolbwyntio ar ddod â phobl i mewn, aethant ati i ddechrau chwilio am ffyrdd o wella cynnwys er mwyn bodloni anghenion rhieni oedd eisoes yn ymgysylltu ymhellach.


Darganfod a Diffinio: deall beth mae rhieni ei angen 

Dechreuodd y tîm drwy fapio’r hyn roeddent yn ei wybod a’r hyn nad oedden nhw’n ei wybod gan ddefnyddio bwrdd gwybodaeth. 

Roedden nhw’n gwybod bod: 

  • Gan rieni plant anabl lai o amser gan fod cyfrifoldebau gofalu yn aml yn dod ar ben gwaith a bywyd teuluol. 
  • Mae yna lawer o gefnogaeth allan yna, ond mae’n amrywio a gall fod yn anodd dod o hyd iddo. 

Roedden nhw’n meddwl eu bod yn gwybod bod: 

  • Rhieni’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i gysylltu ag eraill. 
  • Maent angen cymorth ond gallant fod yn ansicr ble i chwilio amdano. 

Roeddent angen ymchwilio ymhellach: 

  • P’un a yw rhieni’n gwybod am gymuned Scope. 
  • Sut aeth rhieni ati i ddefnyddio fforymau ar-lein er mwyn cymharu gyda’r cyfryngau cymdeithasol. 

 

Ymchwil y defnyddiwr 

Er mwyn llenwi’r bylchau hyn aeth y tîm ati i gynnal ymchwil y defnyddiwr drwy gynnal arolwg di-enw gan ddefnyddio SurveyMonkey, wedi’i rannu ar draws grwpiau Facebook, Mumsnet, a Chymuned Ar-lein Scope.

Canfyddiadau allweddol: 

  • Niwroamrywiaeth oedd yr anabledd mwyaf cyffredin a grybwyllwyd. 
  • Roedd yn well gan rieni grwpiau cyfryngau cymdeithasol wedi’u rhedeg gan rieni eraill, gan werthfawrogi profiad bywyd a chysylltiad rhwng cymheiriaid. 
  • Roeddent eisiau cefnogaeth berthnasol, wedi’i theilwra gan weithwyr proffesiynol. 
  • Roedd y rhan fwyaf yn hyderus yn ddigidol ond nid oeddent bob amser yn ymwybodol o ble i fynd am gymorth.  

Bu i’r sylweddoliad hwn helpu Scope i weld nad dim ond am ymgysylltu gyda mwy o bobl oedd ymgysylltu, ond yn hytrach ei fod ynghylch gwneud cefnogaeth ddigidol yn fwy defnyddiol ac apelgar ar gyfer rhai a oedd eisoes yno.


Datblygu: profi datrysiadau digidol 

Profodd Scope ffyrdd newydd o ddarparu gwybodaeth gan ddefnyddio adnoddau digidol a gyflwynwyd yn ystod y cwrs. Roeddent yn archwilio sut allai AI helpu i gadw gwybodaeth wedi’i ddiweddaru ac yn hygyrch.  

Rhoesant gynnig ar sawl adnodd, a phenderfynu ar ddau ohonynt

  • NotebookLM, offeryn wedi’i yrru gan AI ar gyfer crynhoi a threfnu gwybodaeth. 
  • Notion, ar gyfer adeiladu cronfa adnoddau a rennir a chynllunio cynnwys.

Roeddent hefyd wedi creu podlediadau byr gan ddefnyddio Notebook LM ar bynciau poblogaidd a drafodwyd yn y grŵp WhatsApp cymunedol a’u postio ar-lein er mwyn derbyn adborth.  

Roedd y profion hyn yn dangos beth oedd yn gweithio, beth oedd ddim yn gweithio, a ble roedd angen mwy o amser er mwyn mireinio’r dull.


Beth wnaeth newid 

Newidiodd ffordd o feddwl y tîm yn ystod y cwrs, o ddwyn mwy o rieni i mewn i newid y ffordd roeddent yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i’r gymuned yn gyffredinol. 

Erbyn y diwedd roedd ganddynt

  • Gronfa newydd o adnoddau addysgiadol a adeiladwyd yn Notion, fyddai’n cael eu defnyddio’n fuan i hyfforddi a chefnogi gwirfoddolwyr. 
  • Hyder y gallai AI gael ei ddefnyddio mewn ffordd bositif i wneud cynnwys yn fwy eglur ac yn haws i’w reoli. 
  • Gwell dealltwriaeth o’r ffaith y gellid bod angen marchnata a hysbysebu er mwyn tyfu cyrhaeddiad ond y gallai dylunio cynnwys a’i ddarparu wneud ymgysylltu’n fwy ystyrlon.

Tasgau dilynol allweddol ar gyfer sefydliadau eraill 

  • Dechreuwch gyda’r hyn mae defnyddwyr ei angen, nid beth rydych chi’n feddwl y maen nhw eisiau. 
  • Newidiadau digidol bach - fel rhoi cynnig ar offer neu fformatau newydd - gallant gael traweffaith mawr. 
  • Gall offer AI gefnogi hygyrchedd a chreadigrwydd, nid cymryd lle cysylltiad dynol. 
  • Ailadrodd a phrofi: mae mireinio syniadau dros amser yn arwain at ddeilliannau cryfach.

“Roedd hwn yn gwrs da, ac wedi’i drefnu’n dda. Roedd gennym ni ddigon o amser i dreialu a phrofi. Mae’r gefnogaeth wedi bod yn wych, ac mi fyddaf yn bendant yn ei argymell.”

Ymunwch yn y cwrs nesaf 

Wedi’ch ysbrydoli gan brofiad Scope? Gallwch archwilio sut y gall offer digidol drawsnewid gwasanaethau eich sefydliad chi hefyd. Ymunwch gyda’r garfan nesaf o’r Cwrs Dylunio Gwasanaethau Digidol a dechreuwch arbrofi, dysgu a phrofi syniadau er mwyn bodloni anghenion eich defnyddwyr yn well.  

Mae llefydd yn gyfyngedig, felly ymunwch gyda’r rhestr aros heddiw er mwyn sicrhau eich lle a chymryd y cam cyntaf tuag at ailfeddwl am eich gwasanaethau.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu