🚀 Newid's February Newsletter

🚀 Newid's February Newsletter

Welcome to this month's Newid newsletter.

This is where we share information on digital training, support and resources to help third sector organisations with digital. 

If you have any content suggestions or feedback, get in touch at lucyp@promo.cymru

This is a bilingual newsletter; scroll down for the Welsh.


🧑‍🏫 Upcoming Training and Support

Make Your Data Work Harder for Your Charity

Learn about Microsoft Fabric

Learn about Microsoft Fabric Bring together data from your CRM, fundraising tools and other systems to create clear, connected insights.

When: 5 February, 10 am to 11 am

Learn about Microsoft Purview

Strengthen data governance, meet GDPR requirements and protect donor and beneficiary information with confidence.

When: 12 February, 10 am to 11 am

Get Started with Microsoft 365 Copilot and AI Agents

Curious about AI but not sure where to begin? This 90-minute, instructor-led session introduces Microsoft 365 Copilot Chat, prompt engineering and AI agents in a practical, beginner-friendly way.

You’ll learn how to use AI to:

  • Draft content
  • Summarise documents
  • Generate ideas
  • Save time on everyday tasks

You’ll also explore how AI agents can automate processes and retrieve information for you.

When: 12 February, 11 am -12:30 pm

Are You Ready for a Cyber Incident?

As part of Cyber Scotland Week, SCVO are running a DigiShif​​t, focusing on cyber exercising.

This session includes a hands-on demo of TTX Gym, a free online cyber exercise platform. It’s a practical way to test your incident response plan, involve your team and spot gaps before a real incident happens.

When: 25 February, 10 am - 11 am

Welshifying Your Social Media

Want your bilingual content to go further online? This session explores how to create engaging Welsh and English social media content, including tools, tagging tips and best practice.

When: 4 March, 10 am to 11 am


A white woman’s hand gesturing to a post-it note on a piece of paper titled ‘How might we…’.

✍️ Tools to Make Digital Easier for Your Team

Designing Accessible Digital Services in Wales

See how a North Wales charity used service design to transform their member information system. This short video shares practical insights into involving people with learning disabilities to create more accessible, inclusive digital services.

Tackling Barriers to Digital Change

Change can be hard, especially when it affects people and ways of working. This practical guide from NCVO helps you understand and address common barriers to digital change within your organisation.

If you’re planning digital improvements but aren’t sure how to bring people along with you, this is a useful starting point.


A woman vibe coding using Claude (AI)

🧳 Case Studies

Using AI to Understand Information Needs

Scope has researched how disabled people and their families use AI tools to look for information and advice, offering valuable insights for anyone designing digital services.

Designing Inclusive Digital Tools with Mural

Discover how Brook used Mural to co-design an inclusive contraception tool, putting user needs at the centre of the process.


🗞️ News

AI Landscape Survey for Wales

The Centre for Digital Public Services and the Welsh Government’s Office for AI have launched a national survey to map how AI is being used across public services in Wales.

The survey will:

  • Identify which tools are being used
  • Highlight where innovation is happening
  • Show what support is needed next

It will also help create a national baseline for future policy and investment.

The survey takes 30–60 minutes to complete and can be saved and returned to later.


📬 Care to share?

If you’ve found this newsletter helpful, why not send it on to a colleague? We appreciate all of the support.

If you've had this email forwarded to you and you'd like to join our mailing list, click the button below.

👋 Hwyl am y tro!


🚀 Cylchlythyr Mis Chwefror Newid

Croeso i gylchlythyr Newid y mis hwn.

Yma, rydyn ni’n rhannu gwybodaeth am gymorth, adnoddau a hyfforddiant digidol er mwyn helpu sefydliadau’r trydydd sector i ddefnyddio technoleg ddigidol. 

Os oes gennych chi adborth, neu unrhyw awgrymiadau am y cynnwys, cysylltwch â lucyp@promo.cymru


🧑‍🏫 Hyfforddiant a Chymorth ar y Gweill

 

Gwnewch i’ch Data Weithio’n Galetach ar gyfer Eich Elusen 

Dysgwch am Microsoft Fabric 

Cyfle i ddwyn ynghyd data o’ch CRM, adnoddau codi arian a systemau eraill er mwyn cael golwg eglur, gysylltiedig ar bethau. 

Pryd: 5 Chwefror, 10am i 11am

Dysgwch am Microsoft Purview 

Atgyfnerthu llywodraethiant data, bodloni gofynion GDPR ac amddiffyn gwybodaeth rhoddwyr a chymyndderbynwyr yn hyderus. 

Pryd: 12 Chwefror, 10am i 11am

Rhoi Cychwyn Arni gyda Microsoft 365 Copilot ac Asiantaethau AI 

Chwilfrydig ynghylch AI ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Mae’r sesiwn 90 munud yma sy’n cael ei harwain gan hyfforddwr yn cyflwyno Sgwrs Copilot Microsoft 365, peirianneg gyflym ac asiantaethau AI mewn ffordd ymarferol sy’n addas i ddechreuwyr. 

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio AI er mwyn: 

  • Llunio cynnwys 
  • Crynhoi dogfennau 
  • Cynhyrchu syniadau 
  • Arbed amser gyda thasgau o ddydd i ddydd 

Byddwch hefyd yn archwilio sut y gall asiantaethau AI awtomeiddio prosesau ac adfer gwybodaeth i chi. 

Pryd: 12 Chwefror 11am - 12:30pm 

Ydych Chi’n Barod am Ddigwyddiad Seiber? 

Fel rhan o Wythnos Seiber yr Alban, mae SCVO yn cynnal DigiShift, gan ganolbwyntio ar ymarferion seiber. 

Mae’r sesiwn yn cynnwys arddangosiad ymarferol o TTX Gym, sef llwyfan ymarfer seiber ar-lein am ddim. Mae’n ffordd ymarferol o brofi eich cynllun ymateb i ddigwyddiad, sicrhau bod eich tîm yn cymryd rhan ac adnabod bylchau cyn i ddigwyddiad go iawn ddigwydd. 

Pryd: 25 Chwefror, 10am - 11am

Cymreigio eich cyfrifon cymdeithasol

Ydych chi am i’ch cynnwys dwyieithog fynd ymhellach ar-lein? Mae’r sesiwn yma’n archwilio sut i greu cynnwys cyfryngau cymdeithasol sy’n apelgar yn Gymraeg a Saesneg, gan gynnwys adnoddau, cynghorion ynghylch tagio ac arfer gorau. 

Pryd: 4 Mawrth, 10am i 11am


Llaw dynes yn pwyntio at nodyn post-it ar ddarn o bapur gyda'r teitl 'Sut gallwn ni...'

✍️ Offerynnau i Wneud y Byd Digidol yn Haws i’ch Tîm

Cynllunio Gwasanaethau Digidol Hygyrch yng Nghymru 

Cyfle i weld sut mae elusen yng ngogledd Cymru wedi cymryd camau i gynllunio gwasanaeth er mwyn trawsnewid eu system wybodaeth i aelodau. Mae’r fideo byr hwn yn rhannu sylwadau craff ymarferol ynghylch ymwneud â phobl gydag anableddau er mwyn creu gwasanaethau digidol mwy hygyrch a chynhwysol.

Mynd i’r Afael â Rhwystrau i Newid Digidol 

Gall newid fod yn anodd, yn arbennig pan mae’n effeithio pobl a ffyrdd o weithio. Mae’r canllaw ymarferol hwn gan NCVO yn eich helpu i ddeall a mynd i’r afael gyda rhwystrau cyffredin i newid digidol o fewn eich sefydliad. 

Os ydych chi’n cynllunio gwelliannau digidol ond nad ydych yn sicr sut i ddod â phobl efo chi, mae hwn yn fan cychwyn defnyddiol. 


🧳 Astudiaethau Achos

Defnyddio AI Er Mwyn Deall Anghenion Gwybodaeth 

Mae Scope wedi ymchwilio i sut mae pobl anabl a’u teuluoedd yn defnyddio adnoddau AI er mwyn chwilio am wybodaeth a chyngor, gan gynnig golwg graff werthfawr i unrhyw un sy’n cynllunio gwasanaethau digidol.

Cynllunio Adnoddau Digidol Cynhwysol gyda Mural 

Darganfyddwch sut mae Brook wedi defnyddio Mural i gyd-gynllunio adnodd cynhwysol ar gyfer dulliau atal cenhedlu, gan roi anghenion defnyddwyr wrth wraidd y broses.


🗞️ Newyddion

Arolwg Tirwedd AI ar gyfer Cymru 

Mae’r Ganolfan ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol a Swyddfa Llywodraeth Cymru ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial wedi lansio arolwg cenedlaethol er mwyn mapio sut mae AI yn cael ei ddefnyddio ar draws y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. 

Bydd yr arolwg yn: 

  • Adnabod pa adnoddau sy’n cael eu defnyddio 
  • Tynnu sylw at lle mae arloesi’n digwydd 
  • Dangos pa gefnogaeth sydd ei angen nesaf 
     

Bydd hefyd yn helpu i greu llinell sylfaen genedlaethol ar gyfer buddsoddiad a pholisi yn y dyfodol. 

Mae’r arolwg yn cymryd 30-60 munud i’w gwblhau a gellir ei safio a dychwelyd ato yn nes ymlaen. 


📬 Hoffet ti rannu?

Os yw’r cylchlythyr hwn wedi bod yn ddefnyddiol i chi, beth am ei anfon at gydweithiwr? Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth.  

Os yw’r e-bost hwn wedi cael ei anfon atoch a’ch bod yn awyddus i ymuno â’n rhestr bostio, cliciwch y botwm isod.

👋 Hwyl am y tro!

Like this post? Click below to share: