[Wedi cau] Mentora Digidol Am Ddim i Sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru

[Wedi cau] Mentora Digidol Am Ddim i Sefydliadau’r Trydydd Sector yng Nghymru
Llun gan ProMo Cymru
Ydy’ch sefydliad chi’n barod i fabwysiadu dulliau digidol mwy effeithlon o weithio? Mae Rhaglen Newid yn cynnig mentora wedi’i deilwra ac wedi’i ariannu’n llawn i helpu elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol ledled Cymru i foderneiddio’u dulliau gwaith. Ceisiadau ar agor tan 5 pm ar 30 Mehefin 2025.

Ynglŷn â’r Rhaglen

Rhaglen bartneriaeth yw Newid, sydd yn cael ei rhedeg gan, WCVA, Cwmpas a ProMo Cymru a’u hariannu  gan Lywodraeth Cymru.

Rydyn ni’n helpu trydydd sector Cymru i ddefnyddio arferion digidol yn dda. Mae hyn yn cynnwys cynnig hyfforddiant ymarferol, cyngor, ac adnoddau. Mae’r cymorth yn helpu mudiadau i deimlo’n fwy hyderus ac i weithio’n fwy effeithiol gan ddefnyddio offer digidol.

Rydyn ni’n barod i ddysgu a rhannu profiadau eraill i helpu elusennau a grwpiau cymunedol i ddefnyddio ffyrdd digidol da a ffyrdd modern o weithio. Rydyn ni hefyd yn dweud wrth bobl am safonau’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CGGD). Rydyn ni’n hyrwyddo dylunio gwasanaethau sy’n rhoi pobl yn gyntaf i helpu i greu gwasanaethau gwell i bawb.

Ynglŷn â’r ‘Galwad Agored’ hwn

Mae Rhaglen Newid yn chwilio am nifer cyfyngedig o fudiadau Trydydd Sector Cymru, (Fentrau Cymdeithasol, elusennau, a Mudiadau Cymunedol) i gymryd rhan yn ein cymorth mentora. Mae’r cynnig yma i archwilio sut all eich mudiad chi, ddefnyddio technoleg, gweithio’n fwy effeithiol, arbed amser, a gwneud newidiadau i alli wella prosesau gweithredol.

Beth yw Cymorth Mentora?

  • Edrych ar sut mae eich mudiad yn gweithio ar hyn o bryd a beth yw’r weledigaeth/ uchelgais.
  • Help mentora perthnasol i chi. Byddwn yn trafod defnydd ymarferol technoleg i foderneiddio fel mae’r mudiad yn gweithredu.
  • Cymorth i ystyried a thrafod ffyrdd gwell o weithio yn y tymor bur ac yn y dyfodol.
  • Cefnogaeth i ddatblygu gallu mewnol eich tîm i barhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.
  • Creu cynlluniau clir a syml. Bydd yn helpu eich timau i wneud i newid effeithiol.

Pwy all wneud cais?

I gymryd rhan, rhaid i’ch mudiad:

  • Fod yn fudiad trydydd sector cofrestredig sy’n gweithio yng Nghymru, gyda throsiant ariannol yn fwy na £20,000 y flwyddyn.
  • Dangos eich bod yn barod i gymryd rhan yn llawn yn y rhaglen.
  • Gallu i weithredu newidiadau gydag adnoddau mewnol
  • Fod yn barod i fod yn rhan o’r broses mentora am yr holl amser

Sut byddwn ni’n dewis?

Mae cyfleoedd mentora yn gyfyngedig. Byddwn yn dewis pwy sy’n cymryd rhan drwy broses sgorio deg ac agored. Byddwn yn edrych ar eich atebion i gwestiynau allweddol ac yn hefyd rhoi’r cyfleoedd i fudiadau o bob rhan o Gymru.

Gwybodaeth Bwysig

  • Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5:00yp o’r gloch Mehefin 30, 2025
  • Hyd y Rhaglen: Mehefin 2025 – Mawrth 2026
  • Cysylltwch â ni am Holimarc.davies@cwmpas.coop

Y Camau Nesaf

Byddwn yn cysylltu efo ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 15ed Gorfennaf 2025.

Yn anffodus, oherwydd y capasiti cyfyngedig staff o fewn y cynnig hwn, ni fydd pob ymgeisydd yn llwyddiannus. Lle bo modd, bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael adborth a gwybodaeth am opsiynau arall. Byddwn hefyd yn cadw rhestr wrth gefn rhag ofn y bydd rhai ymgeiswyr llwyddiannus yn tynnu’n ôl o’r broses.

Mentora Newid Cwestiynau Cyffredin

CC Mentora Newid

Perthynas gefnogol yw mentora lle mae unigolyn profiadol (y mentor) yn helpu eich sefydliad i feddwl drwy heriau ac archwilio syniadau newydd. Byddant yn rhannu mewnwelediadau ac arweiniad.

Chi sy’n cadw’r awenau o ran cyfeiriad a chamau gweithredu.

Pa mor hir yw’r broses fentora?

Ar gyfartaledd, mae ein mentoriaid yn gweithio gyda phob sefydliad am tua 21–28 awr. Mae hyn yn cynnwys asesiad cychwynnol, ymchwil i opsiynau wedi’u teilwra, a sesiynau cefnogi gyda chi neu’ch tîm.

A oes cost i’r gwasanaeth?

Nac oes, mae’r mentora’n hollol rad ac am ddim, wedi’i ariannu gan Uned y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru. 

Beth yw ‘gweithle modern’?

Mae gweithle modern yn defnyddio offer digidol a dulliau diweddara i wneud tasgau bob dydd yn haws, arbed amser, a gwella’r gwasanaeth.

A fydd y mentor yn gwneud y gwaith i ni?

Na fydd, nid yw mentoriaid yn gwneud y gwaith i chi. Fodd bynnag, byddant yn eich cefnogi i:

  • Flaenoriaethu opsiynau
  • Magu hyder
  • Cynllunio camau nesaf ymarferol

Er mwyn sicrhau newid cynaliadwy go iawn, mae angen i’ch tîm arwain y ffordd, ac mae’r mentoriaid yma i helpu hynny i ddigwydd.

Beth os oes angen cyngor arbenigol arnom (e.e. codio cyfrifiadurol)?

Mae gan ein tîm brofiad eang, ond nid ydym yn arbenigwyr ym mhob maes technoleg. Os yw eich anghenion y tu hwnt i’n harbenigedd, er enghraifft, datblygu meddalwedd wedi’i haddasu, byddwn yn eich helpu i archwilio’r opsiynau ac yn eich cyflwyno i weithwyr proffesiynol dibynadwy o’n rhwydweithiau ledled y DU.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu