Mentora digidol am ddim i sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru
Ynglŷn â’r Rhaglen
Rhaglen bartneriaeth yw Newid, sydd yn cael ei rhedeg gan, WCVA, Cwmpas a ProMo Cymru a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Rydyn ni’n helpu trydydd sector Cymru i ddefnyddio arferion digidol yn dda. Mae hyn yn cynnwys cynnig hyfforddiant ymarferol, cyngor, ac adnoddau. Mae’r cymorth yn helpu mudiadau i deimlo’n fwy hyderus ac i weithio’n fwy effeithiol gan ddefnyddio offer digidol.
Ynglŷn â’r ‘Galwad Agored’ hwn
Mae Rhaglen Newid yn chwilio am nifer cyfyngedig o fudiadau Trydydd Sector Cymru, (Fentrau Cymdeithasol, elusennau, a Mudiadau Cymunedol) i gymryd rhan yn ein cymorth mentora. Mae’r cynnig yma i archwilio sut all eich mudiad chi, ddefnyddio technoleg, gweithio’n fwy effeithiol, arbed amser, a gwneud newidiadau i alli wella prosesau gweithredol.
Pa gymorth fyddwch yn ei gael?
Bydd sefydliadau llwyddiannus yn derbyn hyd at 35 awr o gymorth mentora wedi’i deilwra, yn dibynnu ar drosiant ac angen a nodwyd. Bydd y cymorth hwn yn cynnwys:
Bydd y cymorth hwn yn cynnwys:
- Asesiad o’ch arferion gweithredol presennol a’ch ffyrdd o weithio
- Mentora personol i archwilio gwelliannau digidol ymarferol a chyfleoedd moderneiddio
- Arweiniad ar nodi a gweithredu prosesau gwell (yn y tymor byr a’r tymor hir)
- Cymorth i adeiladu capasiti mewnol a hyder i gynnal newid
- Datblygu cynlluniau gweithredu clir a realistig i helpu eich sefydliad i symud ymlaen
Mae’r cymorth wedi’i deilwra i’ch anghenion a gall gynnwys meysydd fel deallusrwydd artiffisial (AI), rheoli data, llifoedd gwaith, ac offer digidol.
Pwy all wneud cais?
Rydym yn chwilio am sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru (gan gynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol a grwpiau cymunedol) sydd:
- Yn barod i wella sut maent yn gweithio drwy ddulliau digidol
- Yn gallu ymrwymo amser a chapasiti i’r broses fentora
- Bod â throsiant blynyddol o dros £20,000 y flwyddyn
Sut mae’n gweithio
Bydd y cymorth yn cael ei ddarparu mewn dau garfan:
- Dechrau Mehefin 2026 (Carfan 1) – ar gyfer sefydliadau sy’n barod i ddechrau’n fuan
- Dechrau Medi 2026 (Carfan 2) – ar gyfer sefydliadau sydd angen mwy o amser i baratoi
Gofynnir i chi nodi pa garfan sydd orau i chi fel rhan o’r cais.
Dyddiadau allweddol
- Agor ceisiadau: 7 Mai 2026
- Dyddiad cau: 12 Mehefin 2026 (5pm)
- Dyddiadau dechrau: Mehefin 2026 neu Medi 2026
- Cyswllt ar gyfer ymholiadau: newid@cwmpas.coop
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cysylltu ym mis Mehefin.
Gofynnir i sefydliadau lofnodi cytundeb cyfranogwr byr i gadarnhau eu hymrwymiad i’r rhaglen.
Yn anffodus, oherwydd capasiti cyfyngedig y cynnig hwn, ni fydd pob cais yn llwyddiannus.
Lle bo modd, bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn derbyn adborth a gwybodaeth am opsiynau cymorth amgen. Byddwn hefyd yn cadw rhestr wrth gefn rhag ofn i unrhyw sefydliadau llwyddiannus dynnu’n ôl o’r broses.
Mentora Newid Cwestiynau Cyffredin
CC Mentora Newid
Perthynas gefnogol yw mentora lle mae unigolyn profiadol (y mentor) yn helpu eich sefydliad i feddwl drwy heriau ac archwilio syniadau newydd. Byddant yn rhannu mewnwelediadau ac arweiniad.
Chi sy’n cadw’r awenau o ran cyfeiriad a chamau gweithredu.
Pa mor hir yw’r broses fentora?
Ar gyfartaledd, mae ein mentoriaid yn gweithio gyda phob sefydliad am tua 21–28 awr. Mae hyn yn cynnwys asesiad cychwynnol, ymchwil i opsiynau wedi’u teilwra, a sesiynau cefnogi gyda chi neu’ch tîm.
A oes cost i’r gwasanaeth?
Nac oes, mae’r mentora’n hollol rad ac am ddim, wedi’i ariannu gan Uned y Trydydd Sector Llywodraeth Cymru.
A fydd y mentor yn gwneud y gwaith i ni?
Na fydd, nid yw mentoriaid yn gwneud y gwaith i chi. Fodd bynnag, byddant yn eich cefnogi i:
- Flaenoriaethu opsiynau
- Magu hyder
- Cynllunio camau nesaf ymarferol
Er mwyn sicrhau newid cynaliadwy go iawn, mae angen i’ch tîm arwain y ffordd, ac mae’r mentoriaid yma i helpu hynny i ddigwydd.
Beth os oes angen cyngor arbenigol arnom (e.e. codio cyfrifiadurol)?
Mae gan ein tîm brofiad eang, ond nid ydym yn arbenigwyr ym mhob maes technoleg. Os yw eich anghenion y tu hwnt i’n harbenigedd, er enghraifft, datblygu meddalwedd wedi’i haddasu, byddwn yn eich helpu i archwilio’r opsiynau ac yn eich cyflwyno i weithwyr proffesiynol dibynadwy o’n rhwydweithiau ledled y DU.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu