Argymhellion Gliniaduron i Sefydliadau'r Trydydd Sector

Grŵp o bobl yn defnyddio gliniaduron mewn sesiwn prototeipio Cynllunio Gwasanaethau Digidol Newid.
Llun gan ProMo Cymru
Yn y canllaw yma, rydym yn argymell ein dewis o liniaduron o ansawdd dda i sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru.

Bwriad y canllaw yw rhoi cymorth i sefydliadau trydydd sector wrth iddynt wneud y dewis pwysig yma am galedwedd. Efallai na fydd unrhyw ddarpar gyllidwyr eitemau cyfalaf yn cytuno gyda'r hyn mynegir yma. Ond, rydym o'r farn bod darparu tystiolaeth o'r hyn sydd yn edrych yn dda o ran gwneud dewisiadau caledwedd pwysig yn ddefnyddiol i'r sector.

Pam bod angen prynu’r gliniadur cywir

 I'r mwyafrif o sefydliadau trydydd sector, yr ateb i'r cwestiwn:

'Pa liniadur dylwn i'w gael i'r elusen?'

Fel arfer yw:

'Y rhataf'.

Mae sawl rheswm dilys am wneud hyn, gan gynnwys diffyg cyllid a sefydliadau yn gorfod gwneud dewisiadau anodd wrth gydbwyso amrywiaeth o anghenion pwysig. Weithiau, yr unig opsiwn yw dewis y gliniadur rhataf. Ond, fel canlyniad o'n gwaith Darganfod yn sefydlu Newid, clywsom am yr angen am wybodaeth i gyflwyno achos i brynu gliniadur da.

 

Yr ymchwil

"Mae pawb yn cael gliniadur. Nid ydym byth yn cyllidebu digon i gael gliniadur rhesymol." 
"Beth yw gliniadur rhesymol a pwy allem holi am hyn?" 

Cawsom wybod bod prynu’r gliniadur rhataf hefyd yn dod gyda chostau cudd, fel:

  • Gorfod newid y gliniadur yn fuan wrth iddo ddod yn rhy araf, yn anodd ei ddefnyddio, neu'n torri
  • Anodd cysylltu gliniadur i offer arall
  • Ddim yn gallu uwchraddio caledwedd y gliniadur

  

Sut mae da yn edrych pan ddaw at liniaduron?

Mae sefydliadau wedi dweud wrthym nad oedd ganddynt wybodaeth ddigonol ar ba liniaduron oedd o ansawdd dda y gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth wrth wneud cais am gyllid. Felly, fel cam cyntaf, rydym wedi creu rhestr o liniaduron da.

Pan rydym yn defnyddio'r gair 'da' dyma yw'r ystyr: 

1. Mae'r eitem wedi cael ei adeiladu i ansawdd digonol ar gyfer tasgau dyddiol cyffredin

  1. Gellir uwchraddio a thrwsio'r gliniadur yn hawdd neu bydd yn parhau am oes sylweddol yn ôl manyleb bresennol dda
  2. Mae'r gwneuthurwyr yn dangos ymrwymiad i gyfarfod safonau amgylcheddol

Os yw eich gliniadur presennol yn araf iawn, ac yn gallu cael ei drwsio neu ei uwchraddio am gost resymol, yna efallai mai dyma yw'r dewis gorau i chi.

Yn yr erthygl, mae yna ddolenni i brynu gliniaduron newydd, ond ar gyfer effeithiolrwydd cost a phryderon amgylcheddol, byddai'n syniad ystyried gliniaduron wedi'u hadnewyddu hefyd.

 

Y gliniaduron

 Mae'r rhestr hon wedi ei chadw'n fyr yn fwriadol er mwyn gallu diweddaru yn hawdd. Ni fwriedir iddo fod yn rhestr derfynol. Rydym wedi dewis gliniaduron sydd yn gallu rhedeg o leiaf un o'r systemau gweithredu (OS) mawr yma: Windows, MacOS, Linux, ChromeOS. 

Rydym wedi darparu dolenni i wefannau’r manwerthwyr, ond mae posib y bydd chwiliad sydyn ar-lein yn gallu darparu pris rhatach gyda manwerthwr arall.

Acer Aspire Vero 3 15.6" Laptop - Intel® Core™ i7, 512 GB SSD

 Mae'n werth ystyried yr Acer Aspire Vero, yn cynnig cymysgedd o berfformiad, defnyddioldeb, a chynaliadwyedd.

 Gwefan y cwmni 

Prif Nodweddion

Cynaliadwyedd: Mae'r Acer Aspire Vero wedi ei greu o blastig ailgylchu ôl-ddefnyddiwr, gyda 30% o'r ffrâm a 50% o'r capiau bysell wedi'u creu o'r deunydd yma. Gellir ailgylchu 100% o'r pecynnu, wedi ei greu o bron i 100% o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.

Perfformiad: Mae yna brosesydd gyda phŵer eithaf da sydd yn sicrhau ei fod yn gweithio'n llyfn pan ddaw at dasgau swyddfa gyffredinol. 

Dull-eco: Yn cynnig pedwar dull perfformio i gydbwyso defnydd ynni a pherfformiad.

Arddangosfa a sain: Mae sgrin a seinyddion da iawn ar y gliniadur, sydd yn ddefnyddiol ar gyfer cyfarfodydd a chyflwyniadau rhithiol. Mae dyluniad cyffredinol y ddyfais yn gadarn ond yn ddeniadol.

Manteision 

  • Ecogyfeillgar: wedi ei greu o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu a meddalwedd sydd yn arbed ynni
  • Sain a gweledol: yn cynnig ansawdd sain a fideo gwych (da ar gyfer cyflwyniadau)
  • Posib uwchraddio: yn caniatáu i chi uwchraddio'r caledwedd a thrwsio i ymestyn oes y gliniadur 

Anfanteision

  • Mae'r ffan yn gallu bod yn swnllyd a gallai dynnu sylw
  • Mae maint mawr y gliniadur yn gallu bod yn broblem i rai sydd eisiau rhywbeth gellir ei gludo'n hawdd

Casgliad

Mae hwn yn opsiwn dichonol i sefydliadau'r trydydd sector sydd yn awyddus i fuddsoddi mewn gliniadur sydd yn cyd-fynd â'u nodau. Mae ei adeiladwaith ecogyfeillgar, y nodweddion perfformio, ac ymrwymiad y gwneuthurwyr at gynaliadwyedd yn golygu bod hwn yn ddewis gwerth ei ystyried. Fodd bynnag, dylid ystyried y pwysau a sŵn y ffan.

Framework Laptop 13

 Mae'r Framework Laptop 13 yn eithaf unigryw gan ei fod yn blaenoriaethu uwchraddio a chynaliadwyedd hirdymor tra bod yn opsiwn perfformiad da.

 Gwefan y cwmni

Prif Nodweddion

Diogelu'r dyfodol: Mae'r Framework Laptop 13 wedi cael ei ddylunio fel y gellir uwchraddio a thrwsio yn hawdd, sydd yn sicrhau oes hirach a'r gallu i addasu i anghenion technolegol sy'n esblygu.

Caledwedd hawdd i'w ddiweddaru: Mae'r Framework yn caniatáu i ddefnyddwyr newid y caledwedd yn y gliniadur yn hawdd yn ôl eu hanghenion. Mae'n darparu fideos syml a chlir ar sut i gyflawni hyn.

Perfformiad uwch: Mae gan y gliniadur un o'r prosesyddion diweddaraf, sydd yn gallu ymdopi gyda thasgau heriol.

Manteision

  • Addasu: Mae'r caledwedd yn hawdd i'w ddiweddaru fel y gallech chi deilwro eich gliniadur i'ch anghenion penodol, gan sicrhau amlbwrpasedd
  • Cynaliadwyedd: Wedi ei greu o alwminiwm a phlastig wedi'u hailgylchu, mae'r gliniadur yn ecogyfeillgar. Mae'n syml i'w uwchraddio.

Anfanteision

  • Oes batri: Gallai'r oes batri fod yn well ond mae'n dderbyniol yn gyffredinol

Casgliad

Mae'r gliniadur Framework wedi ei ddylunio fel y gellir ei uwchraddio i esblygu gydag anghenion y sefydliad, gan leihau'r amlder sydd angen ei newid ac felly'n cyfrannu at gynaliadwyedd. Er bod pethau y gellir eu gwella, fel oes batri, mae'n unigryw ym mha mor hawdd ydyw i'w uwchraddio a'i drwsio gan wneud hwn yn fuddsoddiad gwerthfawr i rai sydd eisiau cydbwyso perfformiad, eco gyfeillgarwch a'r gallu i addasu.

 

Acer Chromebook Plus 515

Mae'r Acer Chromebook Plus 515 yn Chromebook cost effeithiol sydd yn gallu cyflawni tasgau swyddfa ddyddiol yn effeithiol.

Gwefan y cwmni

Prif Nodweddion

Perfformiad: Gyda phrosesydd Intel Core i3 mae'n cydbwyso perfformiad ac effeithlonrwydd pŵer.

 Arddangos: Sgrin di-gyffwrdd 15.6 modfedd HD llawn, yn darparu delweddau clir a siarp ar gyfer tasgau amrywiol. 

Storio: Mae posib storio 128GB sydd yn addas ar gyfer y mwyafrif o anghenion swyddfa ddyddiol.

Manteision

  • Gwydnwch: Mae'r bysellfwrdd yn gallu gwrthsefyll colli dŵr ar ddamwain, ac mae corff y gliniadur yn wydn, sydd yn golygu y gall wrthsefyll defnydd dyddiol
  • Cysylltedd: Gyda Wi-Fi 6E ac amrywiaeth o dyllau porthi gan gynnwys USB-C a HDMI, mae'r opsiynau cysylltedd yn gadarn
  • Ansawdd gwe-gamera: Gwe-gamera 1080p sydd â fideo clir

Anfanteision

  • Disgleirdeb: Mae disgleirdeb y sgrin yn ddigonol ond gall fod yn anodd mewn rhai llefydd gyda golau llachar

Casgliad

 Mae'r Acer Chromebook Plus 515 yn opsiwn da pan ddaw at y Chromebook mwyaf effeithiol o ran cost ac o ansawdd canolig. I'r rhai sydd â phrofiad o Chrome OS eisoes neu sydd yn gweithio lot yn Google Workspace, mae'n opsiwn da.

Apple MacBook Air M1 (2020)

Yn gyffredinol, nid yw cynnyrch Apple yr opsiwn rhataf o ran prynu yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, mae dibynadwyedd, diweddariadau hirdymor ac ansawdd adeiladu cyffredinol yn golygu bod gliniaduron fel Apple MacBook Air M1 yn gallu bod yn gost-effeithiol iawn o gymharu â gliniaduron Windows dros eu hoes gweithredu.

Mae'n werth cofio, rhaid dibynnu ar fwy nag staff a gwirfoddolwyr i fod yn sefydliad trydydd sector effeithiol, mae'r offer sydd yn cael ei ddefnyddio yn bwysig hefyd. Yn y cyd-destun yma, mae'r Apple MacBook Air M1 (2020) yn sefyll allan fel esiampl dda o ran perfformiad, effeithlonrwydd, a bod yn fforddiadwy.

 Gwefan y cwmni

 Prif Nodweddion

Prosesydd: Er bod yr M1 yn bodoli ers ychydig flynyddoedd bellach, mae'n parhau i fod yn hynod o alluog yn rhedeg tasgau swyddfa ddyddiol yn rhwydd. 

Arddangosfa: Sgrin 13.3 modfedd, gyda lliwiau llachar a delweddau rhagorol.

Oes batri: Gyda 18 awr o oes batri, mae wedi ei gynllunio at ddefnydd estynedig.

Manteision

  • Perfformiad: Wedi'i bweru gan y M1 chip, mae'n gallu ymdopi gydag amrywiaeth o dasgau yn hawdd
  • Ansawdd adeiladu: Mae'r adeiladwaith metel cadarn yn sicrhau gwytnwch
  • Gweithredu tawel: Mae'r dyluniad heb ffan yn golygu ei fod yn rhedeg yn dawel, sydd yn hyrwyddo amgylchedd gweithio tawel

Anfanteision

  • Ansawdd gwe-gamera: Efallai bod rhai yn teimlo cyfyngiadau gyda'r gwe-gamera 720p
  • Dewis tyllau porthi: Wedi'i gyfyngu i ddau dwll porthi Type-C a jac clustffonau, bydd angen addaswr ychwanegol os ydych chi eisiau cysylltu mwy o bethau 

Casgliad

Mae'r Apple MacBook Air M1 (2020) yn ddewis cadarn i elusennau sydd yn chwilio am gymysgedd o berfformiad a bod yn fforddiadwy, yn enwedig wrth gymharu gyda'r modelau M2 a M3 diweddaraf sydd yn ddrytach. Er bod yna fân gyfyngiadau, ni ellir gwadu ei gryfderau pan ddaw at berfformiad, ansawdd adeiladu, ac oes batri. I sefydliadau'r trydydd sector sydd wedi arfer gweithio gyda MacOS, argymhellir y Macbook Air M1 yn gryf.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu