Beth yw rhai o'r dewisiadau eraill yn lle Jamboard ar gyfer y Trydydd Sector yng Nghymru?

Beth yw rhai o'r dewisiadau eraill yn lle Jamboard ar gyfer y Trydydd Sector yng Nghymru?
Llun gan Kvalifik / Unsplash
Gyda’r cyhoeddiad diweddar fod y Google Jamboard poblogaidd yn cau, mae llawer yn chwilio am ddewis arall dibynadwy. Yn yr erthygl hon, byddwn yn edrych ar fyrddau gwyn digidol eraill, a sut gall y rhain wella eich gwaith fel mudiad trydydd sector.

1. Mural

The Mural Logo.

Beth yw Mural?

Mae Mural yn fan gwaith digidol sydd wedi’i ddylunio ar gyfer cydweithio gweledol. Mae’n darparu cynfas rhithwir lle gall timau daflu syniadau, lluniadu a threfnu eu meddyliau mewn amser real.

Sut gallwch chi ei ddefnyddio yn y Trydydd Sector?

Yn yr achos hwnnw, gall Mural wella eich cydweithio drwy ddefnyddio rhestrau, siartiau llif, lluniadau, neu un o’i amrywiol dempledi. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer sesiynau taflu syniadau gyda gwahanol asiantaethau, er enghraifft.

Gellir defnyddio Mural i ddylunio a chynllunio ymgyrchoedd ac i amlinellu themâu, negeseuon a gweithgareddau. Gall hefyd fapio teithiau rhoddwyr, a datblygu asedau i gefnogi ymgyrchoedd.

Enghraifft o fan gwaith Mural, sy’n canolbwyntio ar dîm yn taflu syniadau – gyda nodiadau gludiog, a thasgau'n cael eu rhoi i bobl benodol.

Manteision/Anfanteision

Mae sawl mantais i Mural, gan gynnwys ei ryngwyneb hawdd ei ddefnyddio, templedi helaeth, a'r gallu i integreiddio’n ddi-dor ag offer eraill.

Ond, efallai y bydd rhai defnyddwyr yn teimlo bod ei strwythur prisio yn llai defnyddiol ar gyfer timau mwy – yn enwedig yng nghyswllt mudiad Trydydd Sector llai.

Prisio

Mae Mural yn cynnig haen am ddim, gyda nifer anghyfyngedig o aelodau a thri bwrdd i'w defnyddio. Ar gyfer nifer anghyfyngedig o fyrddau, mae’r prisiau’n dechrau ar £8 y mis.

Fodd bynnag, mae Mural yn cynnig atodiad ar gyfer mudiadau nid-er-elw ac yn darparu Man Gwaith am ddim i unrhyw fudiad sy’n gymwys, yn ogystal â buddiannau ychwanegol a chyfle i gael gostyngiad ar gynlluniau eraill y mae’n rhaid talu amdanynt.

2. Miro

The Miro logo.

Beth yw Miro?

Yn debyg i Mural, mae Miro yn cynnig llwyfan bwrdd gwyn ar-lein sydd wedi’i anelu at gydweithio gweledol.

Sut gallwch chi ei ddefnyddio yn y Trydydd Sector?

Drwy Miro, gallwch greu a rhannu byrddau gwyn digidol, mapio llifoedd gwaith, a dylunio o bell yn rhwydd.

Gall mudiadau trydydd sector ddefnyddio Miro i ddatblygu ac i gyflwyno deunyddiau hyfforddi, gweithdai neu adnoddau dysgu ar gyfer staff, gwirfoddolwyr neu bartneriaid. Gellir creu canllawiau gweledol neu fodiwlau rhyngweithiol i hwyluso dysgu a datblygu ar y cyd mewn modd difyr.

Enghraifft o fwrdd gwaith Miro, gydag amrywiaeth o nodiadau gludiog, siartiau cylch, a siartiau llif.

Manteision/Anfanteision

Mae gan Miro nodweddion defnyddiol fel nodiadau gludiog, adnodd mapio meddwl, a dyfeisiau integreiddio ag offer poblogaidd fel Slack a Google Drive. Mae hyn yn golygu bod modd symleiddio prosiectau lawer mwy.

Fodd bynnag, efallai y bydd rhai defnyddwyr yn teimlo bod cromlin ddysgu'r rhaglen ychydig yn serth ar gyfer newydd-ddyfodiaid.

Prisio

Mae Miro yn cynnig tri bwrdd y gellir eu golygu yn ei haen am ddim, gyda nifer anghyfyngedig o fyrddau yn dechrau ar oddeutu £7 y mis.

Ond, mae Miro hefyd yn cynnig gostyngiad i unrhyw sefydliad nid-er-elw neu fudiad trydydd sector cymwys. Os yw eich mudiad yn bodloni gofynion Miro, gallwch ddisgwyl gostyngiad o 30% ar unrhyw gynlluniau Miro y mae’n rhaid talu amdanynt.

3. ClickUp

Y logo ClickUp.

Beth yw ClickUp?

Mae hwn yn cael ei adnabod yn bennaf fel adnodd rheoli prosiect. Mae ClickUp yn cynnig nodweddion cydweithio gwych, gan gynnwys aseinio tasgau, rhannu dogfennau, a sgwrsio amser real.

Sut gallwch chi ei ddefnyddio yn y Trydydd Sector?

Gydag adnoddau cyfyngedig ac amserlenni tynn, mae ClickUp yn caniatáu i ddefnyddwyr gategoreiddio tasgau ar sail brys, pwysigrwydd, neu feini prawf amrywiol eraill.

Mae ClickUp hefyd yn hwyluso cydweithio, drwy ddarparu adnoddau ar gyfer cyfathrebu a rhannu ffeiliau. Gall aelodau’r tîm adael sylwadau, tagio cydweithwyr, ac atodi ffeiliau’n uniongyrchol i dasgau, gan wella cydweithio’r tîm.

Enghraifft o swyddogaeth bwrdd gwyn ClickUp, gyda lluniadau defnyddwyr, syniadau tîm, a braslun o gynllun masnachol.

Manteision/Anfanteision

Mae hyblygrwydd ClickUp yn ei wneud yn addas ar gyfer timau sy’n chwilio am gydweithio cynhwysfawr, a’r gallu i addasu.

Fodd bynnag, gall rhyngwyneb ClickUp fod yn llethol i rai defnyddwyr, yn enwedig os mai dim ond nodweddion sylfaenol sydd eu hangen arnynt.

Prisio

Mae cynllun am ddim ClickUp yn caniatáu tasgau anghyfyngedig i ddefnyddwyr ac aelodau cynllun-rhydd. Ar gyfer nodweddion uwch, mae’r prisiau’n dechrau tua £7 y mis fesul cynllun.

Er hynny, mae ClickUp yn cynnig gostyngiadau i unrhyw Fudiad Trydydd Sector neu fudiad nid-er-elw cymwys, sy’n golygu eich bod yn gallu defnyddio nodweddion premiwm y rhaglen heb wneud tolc yng nghyllid eich sefydliad.

Casgliad

Er ei bod yn bosibl bod cau Jamboard wedi gadael llawer o Fudiadau Trydydd Sector yn y tywyllwch, mae amryw o opsiynau eraill ar gael sy’n cyd-fynd â gofynion a heriau eich tîm.

O ClickUp i Miro, rydyn ni wedi rhoi rhai enghreifftiau o’r amrywiaeth o offer bwrdd gwyn sydd ar gael i chi eu defnyddio i helpu i symleiddio eich prosiectau.

Yn dibynnu ar eich cyllideb, eich profiad gyda byrddau gwyn, a beth yw eich pwrpas wrth eu defnyddio, mae llwyfannau ar gael y gall eich mudiad eu defnyddio i ddiwallu unrhyw angen.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu