Cwrs am ddim: Cynllunio Gwasanaethau Digidol

Rydym yn cynnal cwrs am ddim ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru.

Chwech o bobl yn gwneud gwaith grŵp mewn swyddfa.
Llun gan ProMo Cymru

Rydym yn cynnal cwrs am ddim ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru.

🚀
Mae cofrestru ar gyfer y cwrs yma wedi cau. Cofrestrwch i'n cylchlythyr i gael gwybod am y cwrs nesaf, neu e-bostiwch lucyp@promo.cymru i fynd ar y rhestr aros.

Bwriad y cwrs yw darparu’r cyfranogwyr gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i gynllunio gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y defnyddwyr, a’u hysbrydoli nhw i gymryd mantais o ddulliau digidol i gael yr effaith gymdeithasol gorau posib.

Dynes yn edrych ar ddatganiadau 'Sut Gallwn Ni', yn gwenu.

Yn ystod y cwrs, bydd y cyfranogwyr yn:

  • Cael y cyfle i ddatrys her go iawn sy’n wynebu eu sefydliad
  • Ymroi amser a gofod i brofi syniadau a dulliau newydd
  • Dysgu pethau newydd am ddefnyddwyr eu gwasanaeth a’u hanghenion
  • Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol
  • Dysgu sut i ddatblygu gwasanaethau digidol sy’n canolbwyntio ar y person wrth ddefnyddio’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth
  • Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd
  • Cael mynediad i offer ac adnoddau digidol
Dysgais nas y syniadau sydd gennym, a'r rhai rydym yn credu sy'n dda, yw'r gorau bob amser ar gyfer ein cynulleidfa. Mae'n fuddiol cwestiynu ein hunain am yr hyn y gymharu â'r hyn rydym yn credu y gwyddom.

Beth yw trefn y cwrs?

Mae’r cwrs yn cynnwys 2 ran. Y rhan cyntaf yw gweminar yn cyflwyno’r fethodoleg Cynllunio Gwasanaeth a pham ei fod yn gweithio ar gyfer gwasanaethau digidol. Gallech ddewis i fynychu’r modiwl cyntaf yn unig, neu os oes gennych chi brosiect cynllunio gwasanaeth i weithio arni, gallech chi gwblhau’r ail ran lle darparir cefnogaeth i ddatblygu eich gwasanaeth digidol.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu