Cwrs am ddim: Deallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio ar gyfer Cynnydd Effeithiolrwydd
![Llun o ddynes wen wrth ddesg yn chwerthin, yn dal ffôn.](/content/images/size/w2000/2023/12/Arielle-smiling-1.jpg)
Eisiau arbrofi gydag AI ac Awtomeiddio gydag arbenigwyr digidol?
Mae gennym gyfle cyffrous i 10 Sefydliad Trydydd Sector Cymru i ymuno â ni ar her cynllunio i archwilio sut y gall Deallusrwydd Artiffisial (AI) ac Awtomeiddio helpu eich sefydliad i arbed amser.
Byddem yn eich cefnogi i ymchwilio, profi a gwerthuso sut gall yr adnoddau arbed amser yma eich buddio chi.
Fformat y cwrs:
Gweminar Cyflwyno, 24ain Ionawr, 10yb - 1yp, ar-lein
Mae'r cwrs yn digwydd dros 8 wythnos, gan gychwyn gyda gweminar hanner diwrnod ble bydd cyflwyniad i'r fethodoleg cynllunio gwasanaeth, sut mae'r broses yn edrych, a sut i ddeall eich anghenion digidol yn well.
Cyfnod Darganfod:
Cewch bedair wythnos i gwblhau darn o ymchwil darganfod yn canolbwyntio ar ddeall ble gallech chi arbed amser. Awgrymir i chi ganiatáu 2-3 awr yr wythnos i gwblhau'r ymchwil yma.
Gweithdy cynllunio wyneb i wyneb, 21ain Chwefror, 9:30yb - 4:30yp, Gogledd Cymru
Yn y gweithdy wyneb i wyneb rhyngweithiol yma, byddech yn cael eich tywys trwy weithgareddau i ddiffinio maes i ganolbwyntio arno ac archwilio ffyrdd y gall AI ac awtomeiddio arbed amser i chi. Byddech yn llunio cynllun o sut yr ewch ati i brofi eich syniad arbed amser a chasglu'r canlyniadau.
Byddem yn ad-dalu costau teithio.
Cyfnod profi:
Cewch pedair wythnos i brofi eich datrysiad a chasglu canlyniadau.
Sesiwn cloi, 20fed Mawrth, 10yb - 12yp, ar-lein
Ar ddiwedd yr 8 wythnos, byddech yn mynychu gweminar cloi i roi adborth ar eich prosiect a'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu. Mae'n gyfle hefyd i ddysgu o brofiadau'r sefydliadau eraill ar y cwrs.
Mentora 1-1: Byddech yn derbyn cymorth, arweiniad a mentora dros yr 8 wythnos.
![Chwech o bobl yn gwneud gwaith grŵp mewn swyddfa.](https://www.newid.cymru/content/images/2023/12/Newid-course-pic-1.jpg)
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu