Cymhorthfa Ddata am ddim gyda Data Cymru
Mae Data Cymru yn cydweithio â Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector i gynnig hyd at bedair awr o gymorth ymarferol gyda’ch problem sy’n ymwneud â data.

Rydym yn gyffrous i’ch gwahodd chi i wneud cais am gymorth, arweiniad a/neu gyngor wedi’u cyllido’n llawn yn ein Cymhorthfa Ddata. Mae Data Cymru yn cydweithio â Newid: digidol ar gyfer y trydydd sector i gynnig hyd at bedair awr o gymorth ymarferol gyda’ch problem sy’n ymwneud â data. Rydym yn croesawu’n arbennig gyflwyniadau sy’n ymwneud â dylunio, cyflwyno neu ddadansoddi arolygon. Byddwch yn cael y cyfle i weithio gyda’n harbenigwyr mewnol i gael y gorau posibl o’ch data.
Trosolwg o’r Gymhorthfa Ddata
- Amcan: Hyd at bedair awr o gymorth, arweiniad a chyngor ymarferol sy’n ymwneud ag ymholiad data
- Pryd: Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 8 Awst 2025. Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am ganlyniad eu cais erbyn 20 Awst. Bydd cymorth ar gael rhwng mis Awst a mis Tachwedd.
- Lleoliad: Ar-lein, dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb i’r rheini sy’n gallu dod i’n swyddfa yng Nghaerdydd.
- Cymhwysedd: Yn agored i mudiadau trydydd sector.
- Lleoedd: Mae gennym tair lle ar gael.
Pan fydd nifer y ceisiadau yn fwy na’r tair lle sydd gennym, byddwn yn dewis yr ymgeiswyr llwyddiannus o’r meini prawf canlynol:
- Bydd cais gan ymgeiswyr a fynychodd hyfforddiant Newid Data Cymru ym mis Chwefror, Mawrth a Mehefin 2025 yn cael blaenoriaeth.
- Blaenoriaeth yn cael ei rhoi i gyflwyniadau sy’n edrych ar ddylunio a dadansoddi arolygon neu gyflwyno data.
- Dichonoldeb y cyflwyniad o fewn yr amser a ganiateir.
- Lledaeniad daearyddol o fudiadau ledled Cymru.
- Cymysgedd o fudiadau gwahanol faint neu fudiadau sy’n gweithio mewn meysydd gwahanol (e.e. ieuenctid, iechyd, tai).
- A yw'r cymorth ar gael drwy wasanaethau eraill fel DigiCymru.
Eich cais
Rydym yn croesawu cyflwyniadau ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â data, fodd bynnag, rhoddir blaenoriaeth i gyflwyniadau sy’n ymwneud ag arolygon a chyflwyno data.
Dyma rai rhesymau enghreifftiol dros ofyn am gymorth:
- Rydym wedi cynnal arolwg yn ddiweddar sy’n cynnwys data meintiol (graddio profiadau) a data ansoddol (disgrifiwch eich profiad/blychau testun rhydd). Hoffem gael cymorth i ddysgu sut i ddadansoddi’r data ansoddol mewn modd y gallwn ei gyflwyno’n gryno, gan nodi themâu cyffredin ac, o bosibl, ei fapio neu ei gyflwyno mewn ffordd wahanol i ddyfyniadau hir. Mae 10 cwestiwn yn yr arolwg, ac rydym wedi derbyn 54 o ymatebion.
- Rydym wedi cwblhau arolwg yn ddiweddar yn defnyddio dulliau ar bapur ac ar-lein. Mae gan y ddau fformat wallau neu atebion nad ydym yn gwybod a allwn neu a ddylem eu cynnwys. Beth allwn ni ei wneud, os unrhyw beth, i safoni neu wella’r canlyniadau?
- Rydym yn cyflwyno adroddiad ar gyfer cais cyllido – rydym eisiau deall pa siartiau fyddai’n fwyaf effeithiol a sut i gyflwyno ein ffeithiau a’n ffigurau mewn modd diddorol ac ystyrlon.
Cwestiynau cais
- Amlinellwch y rheswm yr hoffech ddod i’r gymhorthfa ddata. Beth hoffech gael cymorth ag ef?
- A ydych chi’n defnyddio unrhyw systemau neu adnoddau penodol mewn cysylltiad â hyn? e.e. Survey Monkey, Canva, Excel, system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid CRM ac ati.
- Beth hoffech chi ei gyflawni erbyn diwedd y gymhorthfa ddata?
- A oes unrhyw gyfyngiadau amser neu ystyriaethau yn gysylltiedig â’ch cais (e.e. mae angen i ni lansio’r arolwg erbyn dyddiad penodol, mae gennym ddyddiad cau ar gyfer adroddiad).
- Pwy fydd yn gysylltiedig â’r gymhorthfa ddata?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â digital@wcva.cymru, neu i drafod a yw eich cais yn addas, cysylltwch â Roisin.Roberts@data.cymru
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu