Sesiynau hyfforddi am ddim gyda Data Cymru yn ystod mis Mehefin
Sesiynau hyfforddi am ddim i fudiadau trydydd sector yng Nghymru ym mis Mehefin.

Gallwch chi gael sesiynau hyfforddi am ddim ar ddylunio a chynnal arolgon gyda Data Cymru unwaith eto ym mis Mehefin eleni. Mae’r sesiynau hyfforddiant ar gael yn Gymraeg a Saesneg, a byddant yn cael eu darparu gan Data Cymru, mae’r rhain yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol.
Mae’r sesiynau yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac maent wedi ei anelu at gynulleidfa ddechreuwr. Ni thybir na bod unrhyw wybodaeth flaenorol am gasglu neu ddadansoddi data yn ofynnol.
Cyflwyniad i ddylunio a chynnal arolygon
Dydd Mercher 4 Mehefin 2025 | 10am – 12:30pm | Ar-lein |Saesneg
Dydd Iau 12 Mehefin 2025 | 10am - 12:30pm | Ar-lein |Cymraeg
Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn eich cyflwyno i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i'ch helpu i ddylunio a chynnal arolygon. Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i bobl sydd angen paratoi, cynhyrchu a dylunio arolygon a dadansoddi’r data canlyniadol.
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:
- dylunio arolygon
- y technegau samplo mwyaf cyffredin
- sut i lunio cwestiynau arolwg
- sut i beilota a chynnal arolwg
- sut i ddadansoddi a chyflwyno’r canlyniadau.
Cymhorthfa Ddata
Bydd unrhyw un sy’n mynychu’r hyfforddiant hefyd yn gymwys i wneud cais am gynllun peilot Cymhorthfa Ddata. Mae Data Cymru yn cydweithio â Newid i gynnig hyd at 4 awr o gymorth ymarferol ar fater sy’n ymwneud â data. Bydd manylion llawn yn cael eu rhannu gyda phawb sydd wedi mynychu un o sesiynau hyfforddi Data Cymru a drefnwyd eleni drwy Newid.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu