Beth yw taliadau digidol?

Llun o berson yn defnyddio cerdyn credyd i brynu rhywbeth ar eu gliniadur
Photo by rupixen.com / Unsplash

Taliadau digidol yw’r broses o drosglwyddo gwerth o un cyfrif talu i un arall dros y rhyngwyd a sianeli symudol. Gallant fod ar lawer o ffurfiau gwahanol, fel ffôn symudol, cyfrifiadur man gwerthu, cyfryngau cymdeithasol, neges destun neu SWIFT (Cymdeithas Telathrebu Ariannol Rhwng Banciau Byd-eang), ond mae hwn mwy ar gyfer gwneud taliadau rhyngwladol diogel.

Er mwyn gwneud taliadau digidol, rhaid i’r anfonwr gael cyfrif banc, bod yn gofrestredig i wneud bancio ar-lein, a chyda dyfais (ffôn, oriawr, cyfrifiadur, carden neu ddarllenydd carden) y gallant wneud y taliad ohoni.

Pam maen nhw’n bwysig?

Nid arian yw’r prif gyfrwng mwyach, ac mae sut mae pobl yn rhoi arian yn newid. Mae angen i fudiadau trydydd sector ymateb i’r newid ymddygiad hwn er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i dderbyn rhoddion ac yn ei gwneud hi’n hawdd i bobl roi i’w hachos. Mae’r newid mewn dulliau talu wedi bod yn gyflym (ac wedi’i gyflymu mwy fyth gan bandemig Covid-19) ac nid oes arwydd ei fod yn arafu, felly mae’n bwysig bod mudiadau yn gweithredu mor gyflym â phosibl.

Canfu Adroddiad Rhoi'r DU gan y Sefydliad Cymorth Elusennol (2021) (Saesneg yn unig), mai dim ond 38% o roddwyr a roddodd mewn arian parod yn 2020, o’i gymharu â 51% yn y flwyddyn flaenorol. Gwnaeth cyn lleied â 7% o roddwyr ddefnyddio arian parod ym mis Ionawr 2021, o’i gymharu â 30-40% mewn Ionawr arferol cyn y pandemig.


Mathau gwahanol o ddulliau talu digidol

Man gwerthu symudol les

Systemau Man Gwerthu Symudol yw dyfeisiau fel cyfrifiaduron llechen, ffonau clyfar neu ddyfeisiau diwifr eraill sy’n defnyddio ap a darllenydd carden i brosesu taliad. Gallant fod yn ddigyswllt neu’n defnyddio darllenydd carden lle rydych chi’n gosod y cerdyn talu, Maen nhw’n rhoi’r hyblygrwydd i fynd â’ch system dalu i ddigwyddiad codi arian heb boeni am sut y gallwch chi dderbyn rhoddion / cymryd taliadau (y tu hwnt i wneud yn siŵr bod gan y lleoliad signal Wi-Fi da).  Y cwbl sydd angen i roddwyr ei wneud yw sweipio’u cerdyn gan ddefnyddio darllenydd carden sy’n gysylltiedig â’ch dyfais, a gallant roi arian ar unwaith.

Graffeg o ffôn symudol yn cael ei ddefnyddio i wneud taliad.

Mae hyn yn cynnwys pwyntiau casglu digidol, fel Platiau Casglu digidol, sef dyfais hunanwasanaeth hawdd ei defnyddio sy’n casglu rhoddion drwy fodd digyswllt neu Sglodyn a Rhif Adnabod Personol (Chip & PIN). Gall rhoddwyr hyd yn oed gyflwyno datganiad Rhodd Cymorth. Mae Dona a Goodbox (gwefannau Saesneg yn unig) yn darparu gwasanaethau o’r fath.

Dyfeisiau sy’n cynnwys dilysu biometrig

Fel arfer, mae dilysu biometrig yn defnyddio sganwyr ôl bys, neu ddull adnabod wyneb, ond gall hefyd ymestyn i ffyrdd mwy datblygedig fel dull adnabod iris, a hyd yn oed dadansoddiad o guriad y galon. Mae’r rhain yn bethau cyffredin bellach ar lawer o ffonau â waledi digidol (cardiau sydd wedi’u storio’n ddigidol ar ffôn), fel Apple Pay a Google Pay, sy’n defnyddio dull adnabod ôl bys neu wyneb i ddilysu ac awdurdodi trafodiad ariannol.

Seinyddion clyfar

Mae llawer o seinyddion clyfar, fel Amazon Echo/Alexa, Google Home/Nest neu’r Apple HomePod yn galluogi rhoddwyr i roi gorchymyn â’u llais i wneud taliad ar unwaith.

SMS – Rhoi trwy neges destun

Mae rhoddion trwy neges destun i’w gweld yn eang bellach, gyda llawer o ddarparwyr yn cynnig gwasanaethau, ac maen nhw’n parhau i fod yn boblogaidd. Y systemau mwyaf cyffredin yw’r rheini lle y caiff rhodd ei ychwanegu at fil ffôn y rhoddwr; sydd felly’n osgoi’r angen i nodi unrhyw fanylion talu a chyda’r fantais o fod yn gyflym a hawdd iawn eu gwneud. Mae’r system amgen yn anfon neges at y rhoddwr gyda dolen y gallant ei dilyn i wneud taliad. Er nad yw mor gyflym/cyfleus i’r rhoddwr, mae’n rhoi’r cyfle i chi roi gwybodaeth ychwanegol i’r rhoddwr am waith eich mudiad gyda dolenni i’ch gwefan ac ati.

Graffeg o ffôn symudol yn dangos enghraifft o rhoi trwy neges destun. Testun yn darllen "Tecstiwch BFN i 70085 i gyfrannu £3"

Mae’r darparwyr yn cynnwys Donr, Donate ac instaGiv (gwefannau Saesneg yn unig). Fel arfer, codir tâl am bob rhodd, ac mae opsiynau i dderbyn rhoddion untro neu reolaidd.

Codau QR

Mae codau QR yn cynnig ffordd gost-effeithiol iawn i elusennau ddefnyddio taliadau digidol. Maen nhw’n hawdd a hyblyg i’w defnyddio, felly gellir eu defnyddio yn unrhyw fan bron â bod, o ffenestr siop, poster ac ar ddilledyn i negeseuon e-bost a phostiadau ar gyfryngau cymdeithasol. Unwaith y bydd cod yn cael ei sganio gan ffôn clyfar neu lechen, bydd y ddolen yn mynd â’r rhoddwr i dudalen dalu lle gall dapio’r sgrin a rhoi. Mewn rhai ffyrdd, maen nhw fel y fersiwn fodern o’r hen fwced codi arian.

Graffeg yn dangos ffôn symudol yn sganio cod QR

Mae budd ychwanegol i godau QR, sef eu bod ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ac yn ddi-arian, felly dim perygl o ladrata. Gellir arddangos cod rhoi mewn ffenestr, waeth beth yw oriau agor y siop.

Opsiynau talu cyfryngau cymdeithasol

Mae cael presenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol wedi dod mor bwysig a chael gwefan. Mae’n rhoi eich mudiad ar-lein yn yr un lle â’ch rhoddwyr/cefnogwyr. Fodd bynnag, nid yw cael presenoldeb ar-lein yn unig yn ddigon i gynhyrchu incwm, mae angen i chi hybu pobl i roi arian. Mae llawer o blatfformau yn eich galluogi i gynnwys dulliau talu digidol o fewn safleoedd cyfryngau cymdeithasol, drwy ychwanegu botwm rhoi ar dudalen broffil y safleoedd. Mae Facebook, er enghraifft, wedi gosod botymau rhoi i elusennau eu defnyddio ar eu tudalennau proffil, ac mae gan Instagram lle rhoi amlwg o fewn y Storïau. Rydyn ni eisiau ei gwneud hi mor hawdd â phosibl i’n cefnogwyr roi arian, ac mae defnyddio’r dulliau hyn yn golygu nad oes angen iddynt adael y platfform y maen nhw arno.

Rhoddion arian mân

Mae defnyddio llai o arian parod yn ein hannog i ddatblygu dulliau casglu arian gwahanol i’r fwced draddodiadol ar ddesg dalu’r siop.  Mae llawer o Apiau ar gael sy’n talgrynnu ceiniogau yn awtomatig i’r bunt agosaf wrth brynu eitemau, sy’n galluogi’r defnyddiwr i roi arian i’w elusen ddewisol (mae Apiau tebyg yn rhoi’r arian mewn cyfrif cynilo). Fel arfer, bydd y rhain yn cynnwys rhai ffioedd trafodiadau.

Un ap o’r fath i gasglu micro roddion yw Pledjar (Saesneg yn unig) (Pledjar.com), a chaiff ei ddefnyddio gan fudiadau fel Coed Cadw, Amnesty International a CPRE.

Cryptoarian

Dulliau ariannol traddodiadol sydd wedi’u nodi hyd yma, ond mae diddordeb cynyddol mewn cryptoarian, gyda Bitcoin (BTC) yn enghraifft gyfarwydd. Yn wahanol i arian traddodiadol, nid yw cryptoarian yn gysylltiedig â llywodraeth na banc canolog. Yn hytrach, mae’n cael ei reoli gan y bobl sy’n defnyddio’r system ac nid yw wedi’i gyfyngu gan ffiniau rhyngwladol. Maen nhw hefyd yn gwbl dryloyw; mae pob uned yn unigryw, sy’n golygu y gall trafodiadau gael eu holrhain yn ôl drwy’r system fel bod rhoddwr yn gallu gweld yn gwmws ar beth y mae ei rodd yn cael ei wario.

Er y gellir olrhain tarddiad cryptoarian yn ôl i waled ddigidol unigolyn, gall yr union unigolyn y mae’r waled yn perthyn iddo fod yn gudd, felly mae’n bosibl bod rhoddion yn cael eu derbyn gan ffynonellau/roddwyr annymunol.

Mae cryptoarian yn seiliedig ar dechnoleg ‘blockchain’, sef cyfriflyfr cyhoeddus datganoledig a rennir. Gellir cofnodi pob math o asedau ar ‘blockchain’, waeth a ydynt yn ddiriaethol neu’n anniriaethol. Golyga hwn bod gan yr amrediad o roddion y gall elusen ei dderbyn y potensial i ddod yn fwy o lawer, gan y bydd pobl yn gallu rhoi asedau diriaethol ac anniriaethol.

Yn 2019, daeth UNICEF y mudiad cyntaf yn y Cenhedloedd Unedig i dderbyn, cadw ac ailddosbarthu cryptoarian. Ers hyn, mae Cryptoarian UNICEF (Saesneg yn unig) wedi derbyn wyth ‘Bitcoin’ (£25,000 y ‘bitcoin’ fel ag yr oedd ei werth ym Mai 2022), ac yn 2014, penderfynodd yr RNLI dderbyn rhoddion ‘Bitcoin’ i gadw’r gwasanaeth i fynd, ac mae wedi derbyn dros 20 ‘Bitcoin’ ers hynny.


Beth yw buddion defnyddio taliadau digidol?

  • Cael mwy o roddion/rhoddion mwy o faint. Fel arfer, mae rhoddwyr yn rhoi mwy wrth dalu’n ddigidol, gan nad ydynt wedi’u cyfyngu gan yr arian y maen nhw’n ei gario pan holir iddynt am arian. Mae hefyd yn hawdd trefnu rhoddion rheolaidd a chasglu rhodd cymorth drwy daliadau digidol.
  • Mae’n fwy diogel. Bydd mudiadau yn trafod llai o arian parod, ac felly’n lleihau’r cyfle am dwyll a lladrata.
  • Mwy o dryloywder ariannol. Mae’n hawdd gweld o ble y mae arian yn dod a faint o arian sy’n dod o ffynonellau gwahanol, a gall hyn lywio strategaethau cyllido yn y dyfodol.
  • Hawdd i roddwyr. Mae taliadau digidol yn hawdd ac yn gyfleus iawn i roddwyr. Mae’r broses yn gyflym iawn ac, yn aml, wedi’i hawtomeiddio, gyda ffurflenni wedi’u llenwi’n awtomatig neu daliadau yn cael eu hychwanegu at filiau.
  • Arbed arian. Er y gallai fod rhywfaint o gostau ymlaen llaw, caiff y rhain eu gwrthbwyso gan yr arbedion cost-effeithiol (a’r buddion o ran lleihau’r risg o dwyll) o beidio â phrosesu arian ffisegol.
  • Cynaliadwyedd a buddion adnoddau. Mae mwy o daliadau digidol yn lleihau’r ddibyniaeth ar yr angen i bobl deithio i gasglu a rhoddion banc, ac yn gofyn am lai o waith papur.

Platfformau talu digidol

Mae llawer o gwmnïau yn cynnig platfformau talu ar-lein i elusennau. Rhai o’r rhai mwyaf cyffredin yw JustGiving, Enthuse, a Localgiving, (gwefannau Saesneg yn unig) sy’n caniatáu i chi gasglu rhoddion, rheoli ymgyrchoedd codi arian a threfnu taliadau rheolaidd gan roddwyr. Fodd bynnag, dylid pwyso a mesur y penderfyniad hwn yn ofalus ac mae’n werth treulio amser yn ymchwilio’r opsiynau a dod o hyd i’r un sy’n gweddu orau â’ch anghenion - nawr ac yn y dyfodol agos. Rhai pwyntiau i’w hystyried:

Beth sydd ei angen arnoch o’r platfform talu?

A oes angen rhywbeth syml arnoch, fel casglu rhoddion untro neu adnoddau ac opsiynau mwy soffistigedig fel SMS, derbyn taliadau rheolaidd, cyllid torfol, nawdd, digwyddiadau codi arian cymunedol? Cofiwch ystyried hefyd eich anghenion yn y dyfodol a pha mor hyblyg yw’r platfform i’w diwallu.

Pa mor hawdd yw ef i’w ddefnyddio?

I chi a’r rhoddwr. A yw’n bodloni’r rheol tri chlic – dylech allu cyflawni’r weithred y daethoch chi i safle ar ei gyfer o fewn 3 chlic. Pa mor hawdd yw’r rhyngwyneb defnyddiwr i’w ddefnyddio?

Faint bydd yn costio?

Dylech chi ddisgwyl talu rhai ffioedd – symiau misol neu ganran o roddion. A yw’r ffioedd yn gwbl glir a thryloyw (eto wedi’u hegluro i chi fel y mudiad ac i roddwr?). Mae llawer o ddarparwyr yn cynnig proses cymharu prisiau – ond byddwch yn wyliadwrus o’r rhain oherwydd mae’n bosibl y byddant dim ond yn dangos y costau sy’n ffafriol iddyn nhw. Byddwch yn barod i wneud rhywfaint o waith ymchwil eich hun er mwyn gwneud yn siŵr bod y fargen rydych chi’n credu eich bod yn ei chael yn ddilys, heb gostau cudd.

A yw’n rhoi gwybodaeth i chi am y rhoddwr? 

Un o’r ffactorau allweddol wrth godi arian yw gallu meithrin cydberthnasau â’ch rhoddwyr. Fodd bynnag, ni fydd pob platfform yn rhannu’r wybodaeth hon â chi, yn enwedig platfformau am ddim/rhad. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol i ‘brofi’r dŵr’ a gweld pa mor dda y gall y broses roi weithio, ond yn yr hirdymor, byddwch chi eisiau cael yr wybodaeth hon i ddilyn i fyny â’r rhoddwr (o fewn y canllawiau GDPR) er mwyn rhannu gwybodaeth a gwneud apeliadau yn y dyfodol.

A allwch chi reoli’r rhyngwyneb defnyddiwr?

A ydych chi’n gallu brandio’r dudalen roi fel ei bod yn cyd-fynd â’ch delwedd gorfforaethol? Gall rhoddwyr golli awydd os yw’r dudalen i gasglu rhoddion yn edrych yn wahanol iawn i frand gwefan/cyfryngau cymdeithasol y mudiad. A allwch chi addasu opsiynau/symiau talu?

A yw’r platfform yn cydymffurfio â’r gyfraith ac yn ddiogel?

Mae’r rhan fwyaf o byrth dalu yn cydymffurfio â Safon Diogelu Data’r Diwydiant Cardiau Talu (PCI DSS), ond eich cyfrifoldeb chi yw hi o hyd i wirio.

Adnoddau

I gael rhagor o wybodaeth a syniadau am daliadau digidol, mae Charity Digital  yn lle da i ddechrau, gydag adolygiadau o gynnyrch ac adnoddau ar bynciau fel syniadau codi arian, adolygiadau o blatfformau codi arian ar-lein a syniadau ar gynnwys er mwyn hybu rhoddion.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu