Dylunio Gwasanaethau Digidol gyda Phobl: Sesiynau Digidol Newid

Dylunio Gwasanaethau Digidol gyda Phobl: Sesiynau Digidol Newid
Ymunwch â ni ar yr 2il o Ragfyr ar gyfer y Sesiwn Ddigidol Newidnesaf, yn ymwneud â gwneud i wasanaethau digidol weithio i bobl.

Gwrandewch ar sut y gwnaeth Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu, elusen sy’n hyrwyddo hawliau pobl ag anabledd dysgu yng Ngogledd Cymru, ddefnyddio Dylunio Gwasanaeth i wneud i'w systemau digidol weithio’n well ar gyfer staff a’r bobl maent yn eu cefnogi. 

Byddwch hefyd yn dysgu sut mae dechrau ar raddfa fach, profi syniadau a dylunio gyda phobl, nid ar eu cyfer, yn arwain at wasanaethau digidol gwell.  

Yr hyn a gewch o’r sesiwn

  • Cyflwyniad i ddylunio gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr 
  • Dylunio gwasanaeth ar waith yn Cyswllt Conwy  
  • Sesiwn holi ac ateb lle cewch ofyn cwestiynau a rhannu eich profiad eich hun 
  • Ystafelloedd neilltuol opsiynol ar gyfer rhwydweithio a thrafodaeth â chyfoedion 

Pam ein bod yn siarad am ddylunio gwasanaethau digidol 

Pan fydd technoleg yn cael ei dylunio’n wael, mae’n creu rhwystrau ac yn gwastraffu adnoddau. Ond pan fydd technoleg yn cael ei defnyddio’n dda, mae'n gwneud gwasanaethau’n fwy cynhwysol, yn arbed amser ac arian ac yn meithrin ymddiriedaeth gyda'r bobl yr ydym yn eu cefnogi. 

Byddwn yn edrych ar yr egwyddor Dylunio Gwasanaeth o ddechrau ar raddfa fach, profi syniadau’n gynnar yn y broses, a sut y gall dysgu gan ein defnyddwyr ein helpu i symud oddi wrth y meddylfryd “rydym ni’n meddwl mai dyma mae pobl ei angen’ tuag at “rydym yn gwybod bod angen hyn gan fod proses ymchwil a phrofi gyda defnyddwyr wedi profi hyn”.  

 

Gwrandewch ar Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu 

Yn y sesiwn hon, byddwn yn clywed gan Cyswllt Conwy, a ail-ddychmygodd eu defnydd o ddeunyddiau digidol i reoli gwybodaeth am aelodau a chefnogi eu cymuned. 

Bydd Leanne yn rhannu beth â’u harweiniodd i wneud newid, sut y gwnaethant gynnwys aelodau, staff a phartneriaid yn y broses o siapio dull newydd, a’r gwersi a ddysgwyd ar hyd y daith, yn enwedig o ran hygyrchedd a chynhwysiant.  

Mae’n gyfle i weld sut mae elusen arall wedi mynd i’r afael â heriau o’r byd go iawn, wedi profi syniadau ac wedi creu system sy’n gweithio’n well i bawb. P’un a ydych megis dechrau neu eisoes yn arbrofi gyda newid digidol, byddwch yn dysgu gwersi ymarferol y gallwch eu defnyddio yn eich sefydliad eich hun. 

 

Ar gyfer pwy mae’r sesiwn hon?

  • Elusennau a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru 
  • Cwmniau Buddiant Cymunedol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol 
  • Unrhyw un sy’n gyfrifol am agweddau digidol, darparu gwasanaeth, cyfathrebu neu weithrediadau 
  • Pobl sydd ond newydd dechrau gydag agweddau digidol, a rhai sydd eisoes ar eu taith 

Beth am roi’r gorau i ailddyfeisio’r olwyn? 

Beth am weithio mewn ffordd fwy clyfar, nid caletach. Drwy rannu’r hyn sy’n gweithio, gallwn ni i gyd adeiladau gwasanaethau gwell, cyrraedd mwy o bobl a threulio mwy o amser yn gwneud yr hyn sy’n cyfrif.  

Cadw ar flaen y newydd  

Er mwyn dysgu mwy ynghylch y sesiwn nesaf, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr. Byddwch y cyntaf i glywed am y Sesiwn Digidol nesaf, hyfforddiant rhad ac am ddim, ac adnoddau sydd wedi’u dylunio ar gyfer y trydydd sector.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu