Mentora

Fel partner yn y prosiect Newid, mae Cwmpas yn cynnig gwasanaeth mentora sy’n helpu sefydliadau trydydd sector i asesu a deall sut i ddefnyddio technoleg i gyflawni eu nodau.
Bydd ein Mentor yn archwilio arferion a galluoedd cyfredol, yn grymuso ac yn arwain sefydliadau i ddatblygu eu diwylliant digidol, dod o hyd i'r atebion cywir, a nodi ffyrdd ymarferol o'u gweithredu'n llwyddiannus.
Beth yw Cymorth Mentora?
- Edrych ar sut mae eich mudiad yn gweithio ar hyn o bryd a beth yw’r weledigaeth/ uchelgais.
- Help mentora perthnasol i chi. Byddwn yn trafod defnydd ymarferol technoleg i foderneiddio fel mae’r mudiad yn gweithredu.
- Cymorth i ystyried a thrafod ffyrdd gwell o weithio yn y tymor bur ac yn y dyfodol.
- Cefnogaeth i ddatblygu gallu mewnol eich tîm i barhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio.
- Creu cynlluniau clir a syml. Bydd yn helpu eich timau i wneud i newid effeithiol.
Pwy all wneud cais?
I gymryd rhan, rhaid i’ch mudiad:
- Fod yn fudiad trydydd sector cofrestredig sy’n gweithio yng Nghymru, gyda throsiant ariannol yn fwy na £20,000 y flwyddyn.
- Gallu i weithredu newidiadau gydag adnoddau mewnol
- Fod yn barod i fod yn rhan o’r broses mentora am yr holl amser
Y Camau Nesaf
Cysylltwch â Marc Davies marc.davies@cwmpas.coop a Samina Ali samina.ali@cwmpas.coop am ragor o wybodaeth.
Rydym yn wirioneddol werthfawrogi eich diddordeb yn ein mentora digidol, mae'n hadnoddau yn gyfyngedig, ac ar adegau, fydd rhaid cynnwys ymholiadau ar ein rhestr aros. Byddwn yn sicr o gysylltu â chi cyn gynted ag y bydd agoriad ar gael.
Gwerthfawrogir eich dealltwriaeth yn fawr, ac edrychwn ymlaen at eich cynorthwyo.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu