Sesiynau Digidol Newid: Gofod i’r Trydydd Sector i’w Rannu

Sesiynau Digidol
Cyfres o ddigwyddiadau newydd ar gyfer sefydliadau trydydd sector yng Nghymru. Ymunwch â gweithdai ar-lein, a chael clywed gan arbenigwyr a rhannu beth sy’n gweithio. Beth am roi’r gorau i ailddyfeisio’r olwyn. 

Beth ydyn nhw? 

Rydym yn lansio cyfres ddigwyddiadau newydd o’r enw ‘Newid: Sesiynau Digidol’, sydd wedi’u cynllunio ar gyfer sefydliadau trydydd sector yng Nghymru. P’u a ydych chi’n rhan o elusen, grŵp cymunedol, CIC neu fenter gymdeithasol, mae’r gyfres hon yn rhoi lle i chi: 

  • Ddysgu gan arbenigwyr digidol a chyfoedion 
  • Cysylltu ag eraill sy’n gweithio yn y sector 
  • Rhannu eich heriau a’ch datrysiadau eich hun 
  • Arbed amser drwy ddysgu beth sydd eisoes yn gweithio 

Bydd y sesiynau hyn yn cynnwys sgyrsiau gan arbenigwyr a chyfoedion a bydd lle ar gyfer trafodaethau agored. Lle bynnag y bo’n bosib, byddwn yn recordio’r digwyddiadau a’u gwneud ar gael ar-lein ar gyfer rhai nad ydynt yn gallu mynychu’n fyw. 

 

Pam mynychu’r digwyddiad? 

Yn llawer rhy aml, mae elusennau’n dweud eu bod yn “ailddyfeisio’r olwyn”, yn gorfod datrys yr un problemau ar eu pen eu hunain, gydag ychydig iawn o welededd o ran beth sy’n gweithio mewn llefydd eraill yn y sector. Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle i chi dorri’r cylch hwnnw. 

Drwy ddwyn ynghyd sefydliadau trydydd sector, byddwn yn rhannu straeon digidol ymarferol, ysbrydoledig oddi mewn i’r sector fel y gallwch ddysgu’n gynt, osgoi ailadrodd yr un camgymeriadau, teimlo’n fwy hyderus yn yr hyn rydych chi’n rhoi cynnig arno nesaf, a gwneud rhai cysylltiadau gyda gweithwyr proffesiynol yn eich sector. 

Ar gyfer pwy maen nhw? 

Mae’r gyfres hon o ddigwyddiadau yn berffaith ar gyfer: 

  • Elusennau a grwpiau gwirfoddol yng Nghymru 
  • Cwmniau Buddiant Cymunedol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau cymunedol 
  • Unrhyw un sy’n gyfrifol am agweddau digidol, darparu gwasanaeth, cyfathrebu neu weithrediadau 
  • Pobl sydd ond newydd dechrau gydag agweddau digidol, a rhai sydd eisoes ar eu taith 

 

Sut allwch chi gymryd rhan? 

  • Cofrestru ar gyfer ein cylchlythyr: Byddwch y cyntaf i glywed am y cyfarfod nesaf a hyfforddiant a chefnogaeth arall  
  • Mynychu sesiwn: Ymunwch yn fyw neu gwyliwch y recordiad 
  • Awgrymwch bwnc neu her: Byddwn yn llunio’r gyfres o amgylch yr hyn rydych chi ei angen 
  • Rhannwch eich dysgu: Os ydych wedi rhoi cynnig ar rywbeth digidol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi

Beth am Roi’r Gorau i Ailddyfeisio’r Olwyn 

Beth am weithio mewn ffordd fwy clyfar, nid caletach. Drwy rannu’r hyn sy’n gweithio, gallwn ni i gyd adeiladau gwasanaethau gwell, cyrraedd mwy o bobl a threulio mwy o amser yn gwneud yr hyn sy’n cyfrif. 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu