Sesiynau hyfforddi am ddim yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr eleni

Sesiynau hyfforddi am ddim i fudiadau trydydd sector yng Nghymru ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr.

Ffotograff o sesiwn hyfforddi sgiliau digidol yn cael ei chynnal.
Credyd llun: Big Learning Company

Gallwch chi gael sesiynau hyfforddi am ddim ar bynciau digidol gwahanol ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr eleni. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i helpu mudiadau trydydd sector i ddefnyddio digidol i arbed amser, dangos eu heffaith, a’u cefnogi i ddarparu eu gwasanaethau.

Mae’r sesiynau hyfforddiant ar gael yn y Gymraeg a Saesneg, a byddant yn cael eu darparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru.

Bydd y sesiynau yn edrych ar offer digidol amrywiol sydd naill ai ar gael am ddim, yn rhad, neu sydd eisoes ar gael trwy becynnau swyddfa.

Gweithio’n fwy effeithlon gydag offer a thechnoleg ddigidol

Dydd Mawrth 14 Tachwedd 2023 |10am – 1pm | Ar-lein | Sesiwn Saesneg

Dydd Mercher 15 Tachwedd 2023 |10am – 1pm | Ar-lein | Sesiwn Gymraeg

Yn ystod y cwrs hwn byddwch chi’n cael gwybodaeth am offer digidol fel Microsoft Teams, Miro, a Microsoft Visio, ymhlith eraill, ac yn dysgu sut gallant symleiddio a gwella eich gwaith, a helpu i reoli prosiectau.

Marchnata digidol a chyfryngau cymdeithasol

Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2023 |10am – 1pm | Ar-lein | Sesiwn Saesneg

Dydd Mercher 22 Tachwedd 2023 |10am – 1pm | Ar-lein | Sesiwn Gymraeg

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn rhoi’r wybodaeth i chi allu defnyddio eich platfformau cyfryngau cymdeithasol fel adnoddau marchnata effeithiol.

Cydweithio a chyfathrebu digidol

Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2023 | 10am – 1pm | Ar-lein | Sesiwn Saesneg

Bydd y sesiwn a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei chynnal ar ddechrau 2024. Cysylltwch ag archebion@wcva.cymru i gofrestru eich diddordeb.

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn edrych ar y dulliau ac offer i wella cyfathrebu a chydweithio yn y gweithle. Byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol ar gyfer cydweithio’n effeithiol o fewn amgylcheddau rhithwir, gan feithrin gwaith tîm a chyfathrebu mwy effeithlon yn y gweithle digidol.

 Cael mwy allan o’ch data: Offer ar gyfer dadansoddi data

Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023 |10am – 1pm | Ar-lein | Sesiwn Saesneg

Dydd Mercher 6 Rhagfyr 2023 |10am – 1pm | Ar-lein |Sesiwn Gymraeg

Yn y cwrs hanner diwrnod hwn, byddwn yn edrych ar sut gallwch chi gasglu, dadansoddi a defnyddio data i lywio eich penderfyniadau. Byddwn hefyd yn edrych ar arferion gorau ar gyfer diogelu eich data.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu