Sesiynau hyfforddi am ddim yn ystod mis Chwefror a Mawrth

Sesiynau hyfforddi am ddim i fudiadau trydydd sector yng Nghymru ym mis Chwefror a mis Mawrth.

Ffotograff o sesiwn hyfforddi sgiliau digidol yn cael ei chynnal.
Credyd llun: Big Learning Company

Gallwch chi gael sesiynau hyfforddi am ddim ar bynciau digidol gwahanol ym misoedd Chwefror a Mawrth eleni. Mae’r sesiynau hyn wedi’u cynllunio i helpu mudiadau trydydd sector i ddefnyddio digidol i arbed amser, dangos eu heffaith, a’u cefnogi i ddarparu eu gwasanaethau.

Mae’r sesiynau yn cael eu darparu gan Big Learning Company, sydd â 15 mlynedd o brofiad yn datblygu a chyflwyno rhaglenni dysgu digidol ar draws pob sector yng Nghymru.

Bydd y sesiynau yn edrych ar offer digidol amrywiol sydd naill ai ar gael am ddim, yn rhad, neu sydd eisoes ar gael trwy becynnau swyddfa.

Cydweithio a chyfathrebu digidol

Dydd Iau 29 Chwefror 2024 | 10am – 1pm | Ar-lein | Sesiwn Saesneg

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn edrych ar y dulliau ac offer i wella cyfathrebu a chydweithio yn y gweithle. Byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol ar gyfer cydweithio’n effeithiol o fewn amgylcheddau rhithwir, gan feithrin gwaith tîm a chyfathrebu mwy effeithlon yn y gweithle digidol.

Gweithio’n fwy effeithlon gydag offer a thechnoleg ddigidol

Dydd Mercher 6 Mawrth 2024 |10am – 1pm | Ar-lein | Sesiwn Saesneg

Yn ystod y cwrs hwn byddwch chi’n cael gwybodaeth am offer digidol fel Microsoft Teams, Miro, a Microsoft Visio, ymhlith eraill, ac yn dysgu sut gallant symleiddio a gwella eich gwaith, a helpu i reoli prosiectau.

 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu