Strategaeth ar gyfer Elusennau: Sesiynau Digidol Newid

Dyna pam rydym wedi dewis Strategaeth AI fel pwnc ein Sesiwn Digidol Newid nesaf.
Dyma eich cyfle i feddwl am y darlun mawr
- Pa rôl ddylai AI ei chwarae yn nyfodol eich sefydliad?
- Sut ydych chi’n gwneud yn siŵr ei fod yn alinio gyda’ch gwerthoedd a’i fod yn cael ei ddefnyddio’n gyfrifol?
- Beth mae elusennau eraill yn ei ddysgu am y maes hwn?
Bydd gennych gyfle i glywed gan arbenigwyr AI a thrafod eich profiadau’n defnyddio AI gydag elusennau eraill.
Cefndir y siaradwr: Dr Irina Mirkina
Mae Dr Irina Mirkina yn brif arbenigwr byd-eang mewn moeseg a strategaeth ar gyfer deallusrwydd artiffisial. Mae wedi gweithio gyda Chomisiwn Ewropeaidd, y CU a llywodraethau rhyngwladol, gan helpu sefydliadau i ddeall sut mae mabwysiadu AI mewn ffordd gyfrifol. Mae Irina’n adnabyddus am wneud pynciau cymhleth yn hygyrch, gyda dull ymarferol sy’n cael ei arwain gan werthoedd.
Ynglŷn â’r siaradwr: Arielle Tye
Bydd Arielle Tye, Pennaeth Digidol ProMo Cymru, yn rhannu adnoddau ymarferol i gefnogi llywodraethu Deallusrwydd Artiffisial ac yn tynnu sylw at hyfforddiant a chyfleoedd yng Nghymru i helpu sefydliadau'r trydydd sector i roi strategaeth ar waith yn gyfrifol.
Pam rydym yn siarad am AI
Yn ôl Adroddiad Sgiliau Digidol Elusennau 2025, mae 76% o elusennau nawr yn defnyddio AI, ond dim ond 2% sydd ag agwedd strategol tuag ato. Mae’r rhan fwyaf yn dal i fod yn archwilio neu’n profi adnoddau heb gyfeiriad pendant.
Ar yr un pryd
- Mae 41% o elusennau’n dweud bod eu harweinwyr angen bod â gwell dealltwriaeth o risgiau a chyfleoedd AI.
- Mae 36% yn adrodd bod gan eu Prif Weithredwr ddiffyg hyder yn y maes hwn.
- Mae 22% o elusennau wrthi’n rhagweithiol yn datblygu strategaeth AI
- Mae 48% yn dechrau datblygu polisi AI, sydd yn gynnydd o ddim ond 16% y llynedd.
Mae yna angen amlwg am sgyrsiau ar lefel arweinwyr ynghylch AI. Nid dim ond ynghylch beth sy’n bodoli, ond sut maent yn gallu bod yn rhan o’ch cenhadaeth, sut i’w defnyddio’n gyfrifol, a sut i adeiladu hyder yn fewnol.
Beth i'w ddisgwyl o’r sesiwn
- Prif gyflwyniad gan arbenigwr strategaeth AI Dr Irina Mirkina
- Sesiwn Holi ac Ateb
- Agor trafodaethau gydag elusennau eraill er mwyn archwilio eich heriau a’ch llwyddiannau gyda AI
Ar gyfer pwy mae hyn?
Mae’r sesiwn wedi’i dylunio ar gyfer
- Arweinwyr Hŷn sydd eisiau gosod cyfeiriad a deall goblygiadau AI
- Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r bwrdd sydd angen gofyn y cwestiynau cywir a deall risgiau
- Arweinwyr digidol, arweinwyr cyfathrebu, rheolwyr gwasanaeth neu unrhyw staff Trydydd Sector arall sydd, p’un ai yn ffurfiol neu’n anffurfiol, yn chwarae rhan mewn llywio cyfeiriad digidol
P’un a ydych chi’n chwilfrydig ynghylch AI, yn defnyddio adnoddau ar hyn o bryd, neu’n ansicr ble i ddechrau, bydd y sesiwn hon yn eich helpu i gymryd y cam nesaf yn hyderus.
Cadw ar flaen y newydd
Er mwyn dysgu mwy ynghylch y sesiwn nesaf, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr. Byddwch y cyntaf i glywed am y Sesiwn Digidol nesaf, hyfforddiant rhad ac am ddim, ac adnoddau sydd wedi’u dylunio ar gyfer y trydydd sector.
Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu