Sut mae Canolfan Cymunedol a Diwylliannol yn defnyddio Zapier i ddiweddaru'u rhestr bostio yn awtomatig

Sut mae Canolfan Cymunedol a Diwylliannol yn defnyddio Zapier i ddiweddaru'u rhestr bostio yn awtomatig
Llun gan ProMo Cymru

Beth oedd y broblem?

Mae Canolfan Cymunedol a Diwylliannol Institiwt Glyn Ebwy (EVI) wedi bod yn ychwanegu i'w rhestr bostio yn defnyddio adnodd e-farchnata Mailchimp. Maent yn defnyddio hwn i gynllunio cylchlythyrau e-bost i ddiweddaru'r gymuned a'u cysylltiadau ar yr holl gyfleoedd, digwyddiadau, dosbarthiadau, a newyddion. Mae hefyd yn caniatáu iddynt dracio faint o bobl sydd wedi agor yr e-bost ac wedi clicio'r ddolen, sydd yn ei wneud yn adnodd defnyddiol iawn i wirio ymrwymiad a thracio data.

Maent wedi bod yn defnyddio Humanitix (llwyfan tocynnau digwyddiadau i sefydliadau dielw) fel bod pobl yn gallu archebu tocynnau i unrhyw ddigwyddiad. Y peth da am Humanitix yw'r opsiwn i gael eich ychwanegu i'r rhestr bostio pan fyddech chi'n archebu tocyn. Roedd hyn yn help mawr i dyfu'r rhestr bostio.

Y broblem oedd, roedd yn broses diflas wrth i chi orfod copïo a phastio pob e-bost i'r ffurflen gofrestru ar y wefan yn unigol os oedd rhywun yn dewis ymuno'r rhestr bostio. Fel y gallech ddychmygu, roedd hyn yn cymryd llawer o amser ac roedd yn dasg ailadroddus iawn i'r staff!

Sut defnyddiwyd digidol i ddatrys hyn

I symleiddio'r broses yma, dechreuodd staff EVI ddefnyddio Zapier i awtomeiddio'r dasg.

Beth yw Zapier?

Mae Zapier yn adnodd awtomeiddio. Mae'n "cysylltu'r holl apiau rydych chi'n ei ddefnyddio ar gyfer eich gwaith fel y gallech chi ganolbwyntio ar yr hyn sydd i ddod nesaf."

Yr hyn y gwnaethant

 Cysylltodd aelod o'r tîm EVI eu cyfrif Humanitix i Zapier, a theipio'r sbardun 'new order on Humanitix’. Yna cysylltwyd y cyfrif Mailchimp ac ychwanegu'r weithred 'add/update subscriber in Mailchimp’ a chyhoeddi'r 'Zap'. Bellach, bob tro bydd rhywun yn ticio i gael eu hychwanegu i'r rhestr bostio ar Humanitix, mae'n cael ei ychwanegu'n awtomatig yn Mailchimp.

Sgrin lun o awtomeiddio ar Zapier. Mae'r sbardun  ‘new order on Humanitix’ yn awtomeiddio'r weithred ‘add/update subscriber in Mailchimp’.

 

Dywedodd Megan, aelod staff EVI, "mae'n gweithio'n berffaith, yn cysoni ac yn tynnu'r ddau lwyfan at ei gilydd, yn rhoi'r e-byst archeb newydd ar ein rhestr bostio yn awtomatig, ac yn arbed llawer iawn o amser. Mae hefyd yn sicrhau nad ydym yn anghofio rhywun ar ddamwain?"

Os ydych chi'n awyddus i roi tro ar awtomeiddio ac arbed amser, mae Zapier yn adnodd gwych i gychwyn.

 

Gwybodaeth ddefnyddiol

 Gallech gysylltu dros 6,000 o apiau gwahanol o fewn Zapier. Mae rhai yn cynnwys Google Sheets, Typeform, Outlook, Facebook, a WordPress. Mae'r wefan Zapier yn llawn canllawiau a blogiau i'ch ysbrydoli gyda'r posibiliadau o'r hyn gallech chi ei wneud.

Cynllun am ddim neu dalu

Mae yna bedwar cynllun sydd yn amrywio o gyfrif am ddim i unigolion i gyfrif tîm sydd yn caniatáu 2,000 o dasgau'r mis. Maent hefyd yn cynnig disgownt os ydych chi'n dewis tanysgrifio am flwyddyn.

Mae Zapier yn cynnig disgownt 15% i sefydliadau dielw. Yr unig beth sy'n rhaid gwneud yw cofrestru am gyfrif Zapier am ddim, yna cwblhau'r cais a darparu dogfennau sydd yn cadarnhau eich statws dielw.

Pum cynllun pris gwahanol ar gyfer Zapier. Am ddim, Cychwynnol £16,23, Proffesiynol £39.79, Tîm £56.02, a Chwmni.

Byddem yn argymell i chi gychwyn gyda chyfrif am ddim fel EVI a gweld os yw'n ddefnyddiol i chi cyn i chi dalu tanysgrifiad.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu