Beth yw testun amgen, a pham y dylech chi ei ddefnyddio fel sefydliad Trydydd Sector

Darllenwr Braille wedi’i gysylltu â gliniadur.
Photo by Elizabeth Woolner / Unsplash
Yn yr erthygl hon, byddwn yn trafod beth yw testun amgen a pham ei fod yn bwysig, gan roi pum awgrym defnyddiol a dwy enghraifft i chi. 

 

Mae cynhwysiant wedi’i wreiddio yn y ffordd y mae sefydliadau Trydydd Sector yn rhedeg. Mae sicrhau bod eich cyfathrebiadau digidol yn gynhwysol yn hanfodol, ac mae ysgrifennu testun amgen yn ffordd hawdd o ddechrau gwneud hynny.

Beth yw testun amgen?  

Testun amgen (neu Alt Text) yw disgrifiad ysgrifenedig byr o ddelwedd. Mae’n galluogi pobl nad ydynt yn gallu gweld y ddelwedd i wybod beth sy’n cael ei ddangos, a’r cyd-destun pam ei fod yn cael ei ddefnyddio. Nid yw’n weladwy ar dudalen we neu neges ar y cyfryngau cymdeithasol, ond bydd yn cael ei ddarllen gan raglen darllen sgrin neu’n cael ei ddangos pan nad yw delwedd yn llwytho ar wefan. 

Gan ei fod yn cael ei ddarllen does dim rhaid i chi gynnwys pob manylyn bach. Dylai fod yn frawddeg fer sy’n cynnwys 125 neu lai o nodau.  Dylai’r hyn rydych chi’n ei gynnwys fod yn bwysig yn gyd-destunol a helpu i baentio llun o’r ddelwedd ym meddwl rhywun.  

Pam ei fod yn bwysig?  

  1. Hygyrchedd  

Mae testun amgen yn rhoi cyfle i bobl sy'n ddall neu sy'n byw gyda nam arall ar eu golwg i gael mynediad at eich cynnwys gweledol. Mae’n adnodd hygyrchedd hynod bwysig sydd wedi’i ddylunio i helpu pobl i lywio drwy’r rhyngrwyd yn haws. Mae peidio â’i ddefnyddio yn dieithrio’r 2 filiwn o bobl yn y DU sydd â nam ar eu golwg. Ar ben hynny, mae cynnwys testun amgen yn faen prawf ar gyfer bodloni’r fersiwn gyfredol o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We. 

  1. Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO) 

Gall cynnwys testun amgen yn eich gwefan a’ch negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd helpu safle SEO eich gwefan/cyfryngau cymdeithasol oherwydd mae’n helpu peiriannau chwilio i ddeall pa ddelwedd rydych chi’n ei dangos, ac a yw’n berthnasol i’r hyn mae rhywun yn chwilio amdano.  

 

Awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu testun amgen 

1. Byddwch yn glir ac yn gryno: Disgrifiwch y ddelwedd gan ddefnyddio manylion sy’n helpu i ddeall beth sy’n digwydd. Cadwch eich disgrifiadau’n fyr ac yn gryno, gan ganolbwyntio ar y manylion hanfodol. 

2. Mae cyd-destun yn allweddol: Meddyliwch pam mae’r ddelwedd yno, a pha werth mae’n ei hychwanegu at eich neges ar y cyfryngau cymdeithasol neu dudalen we. Yr arfer gorau yw cadw testun amgen yn fyr. Ond, os yw’r cynnwys yn canolbwyntio’n bennaf ar y ddelwedd neu’r emosiwn sy’n cael ei gyfleu, gallwch ddewis cynnwys disgrifiad manylach o’r ddelwedd. Chi, yn rôl yr awdur, sy’n penderfynu pa un sy’n fwy priodol.  

 

3. Peidiwch â bod yn rhy ddisgrifiadol: Cofiwch, mae’n cael ei ddarllen yn uchel felly gall disgrifiadau hir fod yn rhwystr i ddefnyddwyr sy’n defnyddio rhaglenni darllen sgrin. Y rheswm am hyn yw bod pob delwedd yn ychwanegu amser darllen ychwanegol. Cadwch at wybodaeth sy’n disgrifio ac agweddau mwyaf perthnasol y ddelwedd.  

💡
Os ydych chi'n meddwl y gallai eich testun amgen fod yn rhy hir, rhowch gynnig ar ei ddarllen yn uchel. A yw popeth rydych chi wedi ei hysgrifennu yn berthnasol i ddeall y ddelwedd? Os nad yw’n berthnasol, mae’n well cwtogi’r frawddeg.

4. Defnyddiwch atalnodi arferol: Gwnewch yn siŵr bod eich testun amgen wedi’i atalnodi’n gywir gydag atalnodau llawn a chomas. Mae defnyddio atalnodi yn ei gwneud yn haws i raglenni darllen sgrin a defnyddwyr i ddeall yn yr un modd ag y mae darllen yn uchel.  

5. Peidiwch â dechrau gyda’r geiriau “Delwedd o: Mae rhaglenni darllen sgrin yn cyhoeddi bod delwedd yn ddelwedd yn awtomatig. Hynny yw, pe bai eich testun amgen yn “Ddelwedd o goeden” byddai’n cael ei ddarllen yn uchel fel “Delwedd, delwedd o goeden.” Eithriad i hyn yw pe bai’r ddelwedd rydych chi’n ei ddisgrifio yn baentiad neu’n llun sy’n berthnasol i’r cyd-destun. Yna, byddai’n werth ei gynnwys yn y testun amgen. 

Enghreifftiau o destun amgen da 

Drwg: Ci, siwmper, ci mewn siwmper, anifail anwes. 

Nid yw testun amgen fel hyn yn ddefnyddiol ac ni fydd yn helpu i Optimeiddio Peiriannau Chwilio. 

OK: Ci yn eistedd. 

Mae’n iawn, ond gall fod yn well.  

Da: Ci tarw Ffrengig, cysglyd, yn gwisgo siwmper. 

Mae’n rhoi darlun clir o’r hyn sydd yn y ddelwedd heb gynnwys manylion amherthnasol. 

Drwg: Llaw, papur, nodyn post-it, modrwy, beiro. 

Nid yw testun amgen fel hyn yn ddefnyddiol, a chyfeirir ato fel pentyrru allweddeiriau

OK: Llaw yn ymestyn ar ddarn o bapur. 

Mae hyn yn iawn, ond nid oes cyd-destun i’r ddelwedd yma ac nid yw’n helpu i egluro pam fod y ddelwedd hon wedi cael ei defnyddio. 

Da: Llaw menyw wen yn cyfeirio at nodyn post-it ar bapur gwyn sydd â’r pennawd ‘ Sut gallwn ni...’ 

Dyma ddisgrifiad clir o’r ddelwedd. Mae cynnwys y testun ar y papur yn rhoi mwy o gyd-destun i’r ddelwedd heb ychwanegu unrhyw fanylion diangen. Nid oes eu hangen i ddeall y ddelwedd. 

Os hoffech weld rhagor o enghreifftiau, mae Accessible Social wedi creu deuddeg enghraifft o destun amgen gan egluro pan fod y ddelwedd wedi cael ei defnyddio. Mae’n adnodd defnyddiol iawn i’ch helpu i ddeall sut mae cyd-destun delwedd yn newid y ffordd y dylech ysgrifennu testun amgen.   

 

 

A ddylwn i ddisgrifio lliw croen neu rywedd unigolyn?  

Efallai bod disgrifio lliw croen neu rywedd unigolyn yn teimlo’n od i chi, ond mae’n chwarae rhan bwysig iawn.

Yn ei herthygl ‘The Case for Describing Race in Alternative Text Attributes’, mae’r arbenigwraig hygyrchedd Tolu Adegbite yn ysgrifennu “Os nad ydym ni’n disgrifio rhywedd unigolyn mewn delwedd, rydyn ni’n gwthio’r naratif mai’r hyn y mae ein cymdeithas yn ei ystyried yn ddiofyn ydyw (person gwyn fel arfer). Rydyn ni’n eithrio pobl eraill ac yn eu gwneud nhw’n anweledig.” 

Os nad ydych chi’n siŵr sut mae rhywun yn gweld ei hun, yna mae’n well peidio â rhagdybio. Yn hytrach, dewiswch derm niwtral fel ‘person’ yn hytrach na dyn neu fenyw. Os ydych chi’n adnabod y person yn y llun cysylltwch â nhw. Eglurwch eich bod am eu cynrychioli nhw a’u hunaniaeth yn gywir.  

Gall ysgrifennu testun amgen ymddangos yn frawychus i ddechrau oherwydd dydych chi ddim eisiau ysgrifennu unrhyw beth ‘anghywir’, ond mae’n bwysig ceisio gwella wrth i chi fwrw iddi!

 

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu