Cynllun Grantiau Bach Newid: Gwneud cais am £500-£3,000 i Ddatblygu Eich Gwaith Digidol
Beth yw’r Cynllun Grantiau Bach?
Mae’r Cynllun Grantiau Bach Newid yn cynnig cyllid rhwng £500 a £3,000 i helpu sefydliadau’r trydydd sector i gymryd y cam nesaf yn eu taith ddigidol. Ar hyn o bryd, mae’r cynllun grant yn rhedeg unwaith y flwyddyn.
Os yw eich sefydliad wedi derbyn cymorth uniongyrchol gan Newid, rydych chi’n gymwys i wneud cais. Mae’r cynllun hwn wedi’i ddylunio i’ch helpu i roi’r hyn a ddysgwyd gennych ar waith drwy ein rhaglenni. Rydym eisiau eich cefnogi drwy ddarparu’r cyllid i droi syniadau a chynlluniau’n weithredoedd go iawn.
Pwy all wneud cais?
Mae’r cynllun ar agor i sefydliadau sydd wedi cymryd rhan mewn cymorth tymor hirach gan Newid.
Gallai hyn gynnwys
- Rhaglenni mentora
- Cyrsiau dylunio gwasanaeth
- Sesiynau hyfforddi diwrnod cyfan
- Cynigion cymorth estynedig eraill
Os ydych wedi bod yn gweithio gyda Newid, rydych yn debygol o fod yn gymwys.
Beth mae’r grant yn gallu ei ariannu?
Mae wedi’i ddylunio i helpu’r grwpiau hyn i adeiladu ar yr hyn maent wedi’i ddysgu, troi syniadau neu gynlluniau o sesiynau cymorth Newid i weithrediadau ymarferol, real.
Gall grantiau gefnogi ystod eang o welliannau digidol, yn cynnwys
- Prynu offer
- Prynu meddalwedd neu danysgrifiadau
- Datblygu staff, megis hyfforddiant neu gynadleddau
- Caffael ymgynghori digidol arbenigol
- Amser staff i gynnal gwelliannau digidol a phrosiectau dylunio gwasanaeth
Sut i wneud cais
Os yw eich sefydliad wedi derbyn cymorth gan Newid, byddwn yn cael eich hysbysu’n awtomatig ynghylch rowndiau’r Cynllun Grantiau Bach yn y dyfodol.
Bydd y rownd nesaf ar agor yn 2026 a bydd aelod o’r tîm Newid yn cysylltu â chi’n uniongyrchol gyda’r manylion ar sut i wneud cais, beth sy’n gymwys, a dyddiad cau cyflwyno ceisiadau.
Nid oes angen gwneud cais nes y byddwch wedi clywed gennym, ond os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, mae’r tîm newid yma i helpu.
Like this post? Click below to share: