Dewch i ni Drafod Digidol: Cyfarfodydd Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS)

Dewch i ni Drafod Digidol: Cyfarfodydd Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS)
Lle i rannu arfer ddigidol dda, ymchwilio i anghenion y sector a thynnu sylw at adnoddau, datrysiadau a chyfleoedd defnyddiol ar gyfer hyfforddi a datblygu. 

Beth ydyw? 

Trwy ein gwaith darganfod gyda Chynghorau Gwirfoddol Sirol ar draws Cymru, clywsom fod angen am fwy o le i rannu syniadau, heriau a chyfleoedd yn y byd digidol. Mewn ymateb, rydym yn creu man pwrpasol ar gyfer sgyrsiau agored, parhaus am y math o gefnogaeth ddigidol a fyddai fwyaf gwerthfawr i Gynghorau Gwirfoddol Sirol. 

Mae’r cyfarfodydd hyn wedi’u dylunio i ddod â phobl ynghyd i gysylltu, dysgu gan ei gilydd a phwysleisio beth sy’n gweithio’n dda yn y sector. 

Cynllun peilot sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr 

Prototeip yw hwn ac mae'n rhan o’n dull o gefnogi'r sector sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr. Mae hynny’n golygu ein bod yn rhoi'r syniad ar brawf ac yn ei addasu’n weithredol ar sail eich adborth. Ar ôl bob sesiwn, byddwn yn gofyn beth weithiodd, beth na weithiodd a beth y gallwn ei wneud yn wahanol y tro nesaf. 

Yn y pen draw, y nod yw i agendâu’r dyfodol adlewyrchu'r blaenoriaethau a’r heriau sy’n eich wynebu. 

Rydym am i hwn fod yn lle i chi, a byddwn yn parhau i'w ddatblygu gyda’ch mewnbwn chi. 

Darllenwch fwy am yr hyn a glywsom gan Gynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru

 

Ar gyfer pwy?

Mae'r cyfarfodydd hyn yn agored i unrhyw un sy’n gweithio mewn Cyngor Gwirfoddol Sirol ac sy’n awyddus i arbrofi gyda dulliau digidol a chysylltu ag eraill sy’n gwneud gwaith tebyg. Os ydych chi’n gyfrifol am rannu gwybodaeth ddigidol gyda’ch sefydliad neu gymuned ehangach, mae’r cyfarfodydd hyn ar eich cyfer chi. 

Mae croeso ichi ymuno hyd yn oed os yw rhai eraill o’ch sefydliad yn mynychu hefyd. Rydym yn gwybod y gall argaeledd amrywio, ac rydym eisiau cadw’r lle’n hyblyg ac yn gynhwysol. 

Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu hwyluso gan y tîm Newid, ond cânt eu llywio gan yr hyn yr hoffech chi ei archwilio.

Pa mor aml fyddwn ni’n cyfarfod? 

Rydym yn dechrau gyda cyfarfodydd ar-lein chwarterol. Gall hyn newid ar sail yr hyn fyddwch chi'n ei ddweud wrthym sydd ei angen arnoch.

Sut i gymryd rhan 

Ymunwch â’n rhestr bostio i glywed am sesiynau sydd ar y gweill. I gael gwybod am ein holl hyfforddiant a chyfleoedd rhad ac am ddim diweddaraf, cofrestrwch ar gyfer cylchlythyr Newid.

Welwn ni chi yno!

Like this post? Click below to share: