Marchnata i Staff sy’n ‘Gwisgo Amryfal Hetiau’

Hyfforddiant marchnata rhad ac am ddim ar gyfer staff elusennau bach sy’n delio â chyfathrebu ‘yn niffyg dewis amgen’, 26ain Mawrth 10am – 1pm

A woman writing on an A3 piece of paper during a workshop.
Llun gan ProMo Cymru
Bydd y sesiwn hyfforddiant ymarferol, rhad ac am ddim hon yn helpu staff mewn microelusennau ac elusennau bach yng Nghymru sy’n rheoli gwaith cyfathrebu (y cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau, y we a mwy), ochr yn ochr â gwneud rolau eraill.
  • Pryd: Ar-lein, dydd Iau 26ain Mawrth, 10am – 1pm 
  • Iaith: Cyflwynir y sesiwn trwy gyfrwng y Saesneg 
  • Hyfforddwyr: Cyflwynir y sesiwn gan ProMo Cymru 

Y realiti sy’n perthyn i “wisgo amryfal hetiau” 

A ydych yn teimlo mai “rhywbeth arall eto i’w wneud” yw marchnata a chyfathrebu, yn ychwanegol at lu o dasgau eraill?

Nid chi yw’r unig un i deimlo hyn.

Mae’r sesiwn hyfforddiant ymarferol a dymunol hon wedi’i llunio ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn elusennau bach ac yn sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru – pobl sy’n ysgwyddo cyfrifoldeb dros y cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyrau neu gyfathrebu (ochr yn ochr â nifer o rolau eraill yn aml).

Efallai eich bod eisoes yn postio o dro i dro, yn anfon negeseuon e-bost neu’n diweddaru eich gwefan pan fo amser yn caniatáu... ond efallai nad ydych yn teimlo bod y gwaith yn cael ei wneud yn effeithiol bob amser, ac efallai fod amser wastad yn brin.

Ni fydd y sesiwn hon yn eich cynghori i fod ar bob platfform na chreu rhagor o gynnwys. Yn hytrach, byddwn yn canolbwyntio ar enillion cyflym, a’r modd y gallwch wneud llai, yn well.


Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu 

  • Diffinio eich diben: Sut i gyrraedd y bobl iawn ar y platfformau iawn heb i hynny fod yn dreth ar eich amser. 
  • Presenoldeb digidol effeithiol: Sut i fod yn weladwy i gyllidwyr a rhanddeiliaid trwy gael presenoldeb ar-lein diogel a phroffesiynol. 
  • Peidio ag ofni metrigau: Arweiniad cyflym a hawdd ar ddeall dadansoddeg, gan wahanu’r pethau y mae angen i chi adrodd amdanynt oddi wrth y pethau y mae angen i chi eu dysgu
  • Offer ar gyfer sicrhau effeithlonrwydd ac enillion cyflym: Cyflwyniad i offer syml a phrosesau ‘cam wrth gam’ a all eich helpu i ailddefnyddio cynnwys a symleiddio eich llwyth gwaith. 
  • Hanfodion cyfathrebu dwyieithog: Awgrymiadau ymarferol ar gyfer rheoli cyfathrebu dwyieithog yn effeithiol yn y trydydd sector yng Nghymru.

Cewch dystysgrif ar ôl cwblhau’r hyfforddiant, ynghyd â thempled marchnata rhad ac am ddim.


Ar gyfer pwy y mae’r hyfforddiant hwn?

Mae’r hyfforddiant hwn yn berffaith ar gyfer y canlynol: 

  • Microsefydliadau a sefydliadau bach yn y trydydd sector yng Nghymru 
  • Arweinwyr, rheolwyr, ymddiriedolwyr, arweinwyr prosiectau, neu bwy bynnag sy’n gyfrifol am gyfathrebu “yn niffyg dewis amgen” 
  • Sefydliadau nad oes ganddynt rôl bwrpasol yn ymwneud â chyfathrebu neu’r cyfryngau cymdeithasol 

Beth ydy Newid? 

​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo CymruCwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol.


Cadw ar flaen y newydd  

Os hoffech chi glywed am hyfforddiant a digwyddiadau am ddim yn y dyfodol, tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr Newid

Like this post? Click below to share: