Bodloni Anghenion y Gymuned gyda’r Dechnoleg Gywir yng Nghanolfan y Glowyr Caerffili
Yr her
Fel nifer o sefydliadau cymunedol, roedd Canolfan Glowyr Caerffili yn gwybod eu bod am ymestyn eu cefnogaeth ond nid oeddent yn siŵr sut y gallai elfen ddigidol helpu i wneud y gwahaniaeth mwyaf.
Drwy raglen fentora Newid a chwrs AI ac Awtomeiddio, roedd gan dîm y Ganolfan y lle i fyfyrio ar eu gwaith o ddydd i ddydd a meddwl yn strategol ynghylch sut allai technoleg eu helpu i gyflawni eu nodau.
Sylweddolon nhw y gallai offer digidol gwell drawsnewid sut roedden nhw’n gweithredu’n fewnol a hefyd sut roedden nhw’n darparu gweithgareddau ar gyfer eu cymuned.
Drwy’r gefnogaeth, fe wnaethant ganfod dau angen clir:
- Gliniadur dibynadwy i gefnogi cynllunio, cyfathrebu a chydlynu prosiect o ddydd i ddydd
- Taflunydd er mwyn gwella ansawdd a hygyrchedd eu hyfforddiant, gweithdai, digwyddiadau i’r teulu a gweithgareddau dysgu cynhwysol.
Wedi iddynt gwblhau cefnogaeth tymor hir Newid, daethant yn gymwys i ymgeisio am ein Cynllun Grant Bach, a buont yn llwyddiannus.
Beth a ariannwyd
Drwy Gynllun Grant Bach Newid, roedd y Ganolfan yn gallu prynu:
- Gliniadur HP Pavilion SE, sydd nawr yn cael ei ddefnyddio gan ymddiriedolwr er mwyn cefnogi llywodraethu, cydlynu prosiect a mentrau digidol.
- Taflunydd Epsom Full HD, sydd nawr yn cael ei ddefnyddio gyda gweithgareddau a digwyddiadau’r Ganolfan er mwyn gwella darpariaeth a chynyddu cyfranogiad.
Roedd y pryniannau hyn yn gymharol fach ond roedd effaith eu defnyddio yn sylweddol.
Fel y dywedodd un ymddiriedolwr:
“Peidiwch â thanbrisio effaith un gliniadur neu daflunydd. Mae’r offer wedi trawsnewid ein gwaith.”

Sut mae’r offer yn gwneud gwahaniaeth
Mae’r gliniadur newydd nawr yn offeryn creiddiol ar gyfer gweithrediadau’r Ganolfan.
Fe’i defnyddir i:
- Reoli cyfathrebiadau, gan gynnwys diweddariadau a chylchlythyron i aelodau.
- Cefnogi dysgu parhaus yr ymddiriedolwr, gan gynnwys cymhwyso sgiliau AI a enillwyd yn ymarferol drwy gwrs AI ac Awtomeiddio 2024 Newid.
- Cydlynu Cronfa Ddyfeisiadau’r Ganolfan, sydd wedi dosbarthu 16 o liniaduron i bobl sydd mewn angen.
Mae’r taflunydd yn cael effaith ar unwaith o safbwynt sut mae gweithgareddau’n cael eu cyflawni yng Nghanolfan y Glowyr Caerffili.
Fe’i defnyddir yn rheolaidd erbyn hyn ar gyfer:
- Hyfforddiant a gweithdai, lle mae cynnwys gweledol yn helpu cyfranogwyr i ymgysylltu’n haws.
- Arddangos gwaith creadigol, sydd eisoes wedi ysbrydoli lansio dosbarth ffotograffiaeth newydd.
“Gall hyd yn oed un ddyfais unigol rymuso rhywun yn eich tîm ac ehangu eich cyrhaeddiad. Os oes gennych chi gyfle i ddiogelu ariannu ar gyfer technoleg, ewch amdani. Gallai wneud gwahaniaeth anferthol i’r bobl yn eich sefydliad a/neu eich cymuned.”
Cyngor gan Ganolfan y Glowyr Caerffili
“Daliwch eich gafael ar werthoedd dynol. Dathlwch bob buddugoliaeth fach. Ac os ydych chi’n ystyried ymgeisio am gefnogaeth ddigidol ymarferol neu gefnogaeth ariannol gan Newid, ewch amdani. Doed dim rhaid i chi fod yn berffaith, dim ond bod yn angerddol.”
Cynllun Grantiau Bach Newid
Mae Cynllun Grant Bach Newid ar agor i sefydliadau sydd wedi cymryd rhan mewn cymorth mwy hirdymor gan Newid. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch ein cynllun grantiau, ac i weld a ydych chi’n gymwys, darllenwch yr erthygl hon.
Yn y cyfamser, os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cofiwch gysylltu â ni.
Like this post? Click below to share: