Cwrs am ddim: Cynllunio Gwasanaethau Digidol

Cwrs am ddim: Cynllunio Gwasanaethau Digidol
Llun gan ProMo Cymru
🚀
Mae cofrestru ar gyfer y cwrs yma wedi cau. Cofrestrwch i'n cylchlythyr i gael gwybod am y cwrs nesaf, neu e-bostiwch lucyp@promo.cymru i fynd ar y rhestr aros.

Mae gennym gyfle cyffrous i sefydliadau trydydd sector Cymru ymuno â ni ar her ddylunio. 

​Byddwn yn edrych ar sut gall digidol wella’r gwasanaeth rydych yn ei ddarparu i’ch defnyddwyr drwy ddilyn y broses Darganfod, Diffinio, Datblygu. 

​

​Nodau  

  • ​Darparu gwybodaeth a sgiliau i'r cyfranogwyr fel y gallant gynllunio gwasanaethau digidol sydd yn canolbwyntio ar y person. 
  • ​Hysbrydoli i gymryd mantais o ddulliau digidol i arbed amser a macsimeiddio'r effaith gymdeithasol. 

​

Deilliannau dysgu 

​Yn ystod y cwrs, bydd cyfranogwyr yn: 

  • ​Cael cyfle i ddatrys her go iawn mae eu sefydliad yn wynebu 
  • ​Neilltuo amser a gofod i brofi ffyrdd newydd o weithio 
  • ​Dysgu pethau newydd am eu heriau a'u hanghenion sefydliadol 
  • ​Derbyn mentora ac arweiniad gan arbenigwyr digidol 
  • ​Dysgu sut i weithredu adnoddau digidol yn effeithiol, gan ddilyn y broses Cynllunio Gwasanaeth 
  • ​Arbrofi gydag adnoddau digidol newydd 
  • ​Cael mynediad at adnoddau  

​

​Strwythur y cwrs  

​Dros yr 8 wythnos, bydd angen cadw tri dyddiad yn rhydd yn eich calendr. 

​

​Cyfnod Darganfod 

​1. Gweminar Cyflwyno: 17 Mehefin 10 am - 1 pm [AR-LEIN]. 

  • ​Bydd y cwrs yn dechrau gyda gweminar hanner diwrnod lle byddwch yn cael eich cyflwyno i'r fethodoleg dylunio gwasanaeth, sut beth yw'r broses, a sut i ddeall anghenion defnyddwyr yn well. 
  • ​Yna bydd gennych bedair wythnos i gwblhau darn o ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ble y gallech fod yn arbed amser

​

​Cyfnod diffinio 

​2. Gweithdy Prototeipio: 17 Gorffennaf, 10 am - 1 pm [WYNEB YN WYNEB], lleoliad i ddilyn. 

​Yn ystod y gweithdy rhyngweithiol wyneb yn wyneb yma, byddwch yn cael eich arwain drwy weithgareddau i ddylunio prototeip digidol newydd o'ch gwasanaeth. 

  • ​Byddwn yn darparu cinio a lluniaeth. Byddwn yn ad-dalu costau teithio. 

​

​Cyfnod datblygu 

​Bydd gennych bedair wythnos i brofi eich ateb a chasglu canlyniadau. 

​3. Gweminar Olaf: 14 Awst, 10am - 1 pm [AR-LEIN

  • ​Ar ddiwedd yr wyth wythnos, byddwch yn cymryd rhan mewn gweminar i rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu drwy gydol y cwrs a byddwch yn dathlu’r hyn rydych wedi’i gyflawni. 

​

​Tasgau hunan-astudio 

​Rhwng y sesiynau, byddwch yn cael eich arwain drwy gyfres o weithgareddau y gallwch eu cwblhau yn eich amser eich hun. 

​Rydyn ni’n argymell eich bod yn caniatáu 2-3 awr yr wythnos ar gyfer y cwrs. 

​

​Cyfarfodydd mentora gyda hyfforddwyr 

​Byddech chi hefyd yn cael 2 (neu fwy os hoffech) cyfarfod mentor awr o hyd gyda'r hyfforddwyr i sicrhau eich bod chi ar y trywydd cywir ac i'ch cefnogi gyda'r prosiect. 

​

Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma? 

​Mae’r cwrs yma ar gyfer sefydliadau trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru.

​Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs, er nad yw'n hanfodol. Mae angen i bob person gofrestru'n unigol. 

​

​Beth ydy Newid?  

​Mae Newid yn hyrwyddo arferion digidol dda ledled trydydd sector Cymru. Cyflawnir hyn wrth ddarparu hyfforddiant, cymorth a gwybodaeth. Mae'n bartneriaeth rhwng ProMo CymruCwmpas a CGGC ac yn cael ei gefnogi gan y Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

​

​Sut mae’r cwrs yma’n cael ei ariannu? 

​Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cwrs yma trwy'r rhaglen Newid

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu