Ffyrdd syml o ddangos effaith drwy ddefnyddio datrysiadau digidol

Llun o morthwyl
Photo by iMattSmart / Unsplash

Mae gallu dangos effaith y gwaith rydych chi’n ei wneud yn bwysicach nag erioed i fudiadau trydydd sector – boed hynny’n rhoi tystiolaeth i gyllidwyr o sut mae rhaglen wedi cyflawni ei nodau neu ddangos i ddarpar noddwyr pam y bydd eu harian yn gwneud gwahaniaeth. Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyflwyniad i chi ar sut i ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau digidol i gasglu data am y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud a’i gyflwyno mewn ffordd hawdd ei deall sy’n dangos i’ch rhanddeiliaid allweddol pa mor bwysig yw’r gwaith rydych chi’n ei wneud.

Dangos effaith drwy ddefnyddio datrysiadau digidol – Cyflwyniad i fudiadau trydydd sector

Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â’r canlynol:

  • Pa fath o ddata a gwybodaeth y gallech chi ystyried eu casglu er mwyn adrodd eich effaith
  • Adnoddau defnyddiol ar gyfer casglu data, a beth allwch chi ei wneud â’r data pan fyddwch chi’n ei gael
  • Adnoddau a thechnegau ar gyfer cyflwyno data
  • Defnyddio adnoddau digidol i gyflwyno storïau ac ystyriaethau allweddol o ran eu casglu a’u cyflwyno.

Cynnwys:

1.0 Beth ydych chi’n ei fesur – allbynnau a chanlyniadau.

2.0 Sut i gasglu data effeithiol.

3.0 Ffyrdd syml o gyflwyno a chyfathrebu effaith.

4.0 Adrodd storïau pwerus gan ddefnyddio adnoddau digidol.

5.0 Enghreifftiau o arferion da ar y we, ac ar fformatau cymdeithasol ac adroddiadau.

Crynodeb

Rhagor o wybodaeth


1.0 Beth ydych chi’n ei fesur – allbynnau a chanlyniadau

I gael y mwyaf o’r canllaw hwn, bydd dealltwriaeth o ‘ymarfer effaith’ a fframweithiau canlyniadau yn fuddiol. Am ragor o wybodaeth, gallwch chi ddarllen ‘Dangos effaith gadarnhaol eich mudiad’ ar wefan CGGC).

Gall mudiad gasglu amrywiaeth o ganlyniadau ac allbynnau i ddangos effaith ei waith. Gallai rhai o’r rhain elwa ar ddefnyddio adnoddau digidol i gasglu’r wybodaeth:

  • Cyrhaeddiad – Nifer y bobl sydd wedi cael eu helpu’n uniongyrchol, wedi gweld gwybodaeth, clywed am y rhaglen, wedi cyrchu adnodd ac ati.
  • Maint y ddarpariaeth – Nifer y bobl sy’n dod i ddigwyddiad, derbyn cymorth, cwblhau cwrs, edrych ar ddarn o wybodaeth.
  • Ansawdd y ddarpariaeth – Mesuriad o fetrigau cytunedig cyn ac ar ôl ymyrraeth neu raglen (fel adborth cadarnhaol, a chyflawni dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs)).
  • Profiad y buddiolwr – Storïau am brofiadau unigolion gyda’r mudiad, lluniau a fideos, dyfyniadau ac arolygon o ddangosyddion canlyniadau.
  • Cost – adenillion o fuddsoddi, newidiadau o flynyddoedd blaenorol.

Bydd y canllaw hwn yn dangos rhai adnoddau a phrosesau da ar gyfer casglu gwybodaeth, a sut gall adnoddau digidol eich cynorthwyo i gasglu storïau neu astudiaethau achos i ddangos effaith gwaith eich mudiad.


2.0 Sut i gasglu data effeithiol

Gall adnoddau digidol fod yn amhrisiadwy mewn helpu i gasglu data o ffynonellau wedi’u hawtomeiddio a chan unigolion sydd wedi cael budd o’ch rhaglen neu wedi cymryd rhan ynddi. Mae rhai o’r adnoddau a ddefnyddir amlaf yn y tabl isod - efallai bod gennych chi fynediad at rai o’r rhain eisoes.

Dadansoddeg

Beth mae'n ei wneud?

Fel arfer, mae gan bob gwefan neu gymhwysiad ar-lein (e.e. Facebook, YouTube) swyddogaeth ddadansoddi. Mae hon yn monitro sut mae pobl yn defnyddio’r wefan/cymhwysiad ac yn casglu gwybodaeth amdanynt. Gall hyn wedyn gyflwyno adroddiadau ac ystadegau a fydd yn rhoi mewnwelediad i chi i’ch helpu i wneud gwelliannau.

Math o wybodaeth a gesglir

Faint o bobl ymwelodd â safle neu ddarn penodol o gynnwys. Am ba hyd y gwnaethant edrych ar dudalen neu wylio fideo. Faint o weithiau mae darn o gynnwys wedi’i lawrlwytho. Pryd maen nhw’n gadael y wefan.

Nodweddion ychwanegol

â safle neu ddarn penodol o gynnwys. Am ba hyd y gwnaethant edrych ar dudalen neu wylio fideo. Faint o weithiau mae darn o gynnwys wedi’i lawrlwytho. Pryd maen nhw’n gadael y wefan.

Gall meddalwedd ddadansoddi roi gwybodaeth fwy manwl ar ddemograffeg cynulleidfa eich gwefan neu gymhwysiad, gan gynnwys ble maen nhw’n cyrchu eich gwefan, y math o ddyfais y maen nhw’n ei ddefnyddio, a hyd yn oed eu hoedran a’u rhywedd o bosibl.

Enghreifftiau o feddalwedd (gwefannau Saesneg yn unig)

Ffurflenni

Beth mae'n ei wneud?

Gellir llunio ffurflenni ar-lein i gasglu darnau penodol o wybodaeth, fel casglu adborth, llunio arolygon, neu gasglu manylion cyswllt. Rydych chi’n nodi’r cwestiynau rydych chi eisiau eu gofyn, ac yn penderfynu ar ba fformat rydych chi eisiau’r atebion, er enghraifft, testun rhydd, blychau ticio neu raddfa rhwng 1-10. Caiff y ffurflen wedyn ei rhannu ar-lein a gallwch chi lawrlwytho’r ymatebion cyfunol a/neu’r ymatebion unigol a gasglwyd.

Math o wybodaeth a gesglir

Gwybodaeth ddemograffig am gyfranogwyr, fel oedran neu statws cyflogaeth. Cwestiynau sy’n ymwneud â chanlyniadau – er enghraifft, a yw eu llesiant wedi gwella ers y rhaglen? Casglu dyfyniadau ar gyfer astudiaethau achos. Cyflwyno lluniau ar-lein.

Nodweddion ychwanegol

Gall ffurflenni gael eu trosi’n gyflym i siartiau a graffiau er mwyn dangos y data mewn modd haws.

Enghreifftiau o feddalwedd (gwefannau Saesneg yn unig)

Typeform, SmartSurvey, Google Forms, Microsoft Forms

Recordio ar ffôn symudol

Beth mae'n ei wneud?

Gall ffonau modern dynnu lluniau, a recordio sain a fideo. Gydag ychydig o hyfforddiant ar sut i dynnu llun da a’r tiwtorialau ar apiau, gallwch chi gymryd cyfoeth o luniau, fideos a recordiadau sain amrywiol yn hawdd i gefnogi eich adroddiadau effaith.

Math o wybodaeth a gesglir

Lluniau o raglenni. Lleisiau buddiolwyr. Cyfweliadau.

N0dweddion ychwanegol

Gellir lanlwytho cyfryngau’n gyflym o’ch ffôn a’u hymwreiddio yn y mwyafrif o feddalwedd swyddfa neu becynnau dylunio graffeg.

Enghreifftiau o feddalwedd (gwefannau Saesneg yn unig)

Amherthnasol – bydd apiau sydd wedi’u cynnwys ar y ddyfais yn perfformio’n dda.

Fideogynhadledda

Beth mae'n ei wneud?

Gallwch chi ddefnyddio galwadau fideo neu feddalwedd gynadledda i gyfweld â phobl a’u recordio er mwyn trawsgrifio’n hawdd a hyd yn oed rhannu fersiwn wedi’i golygu (gyda chaniatâd) fel rhan o’ch adroddiadau effaith.

Math o wybodaeth a gesglir

Lleisiau buddiolwyr. Cyfweliadau.

Nodweddion ychwanegol

Gallwch chi ddefnyddio’r swyddogaeth trawsgrifio awtomatig, sydd ar gael ar lawer o gymwysiadau, i lunio capsiynau yn Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill.

Enghreifftiau o feddalwedd (gwefannau Saesneg yn unig)

Zoom, Microsoft Teams, Google Meet (Noder – Mae gan Zoom a Teams gyfieithydd byw os oes angen



sgrinlun o dudalen google Analytics wefan
sgrinlun o dudalen Google Analytics wefan
sgrinlun o dudalen Google Forms yn dangos arolwg
sgrinlun o dudalen Google Forms yn dangos arolwg


Sut gallwch chi ddefnyddio’r wybodaeth hon?

Unwaith y bydd wedi’i chasglu, gall yr wybodaeth hon ddarparu’r data craidd i ddangos nifer o allbynnau a chanlyniadau yn erbyn metricsau cytunedig a dangosyddion perfformiad allweddol (KPIs) – a gellir ei throi’n ddeunyddiau deniadol yr olwg er mwyn cyfathrebu’r effaith sydd wedi’i chreu yn hawdd.

Astudiaeth achos - Malio Sir Gaerfyrddin

Mae Malio Sir Gaerfyrddin yn rhoi grantiau i deuluoedd ledled Sir Gaerfyrddin brynu dodrefn i’r cartref. Fel rhan o’u hadroddiad blynyddol, roedden nhw eisiau dangos:

  • Faint o deuluoedd roedden nhw’n gallu eu cynorthwyo
  • Sut gwnaethant godi ymwybyddiaeth o’r rhaglen
  • Ble y darparwyd y cymorth hwn
  • Y canlyniadau a hunan-adroddwyd yn sgil yr help hwn

Gwnaeth arweinydd y rhaglen gasglu gwahanol fathau o ddata i helpu i ddangos hyn. Gwnaeth y sawl a oedd yn gyfrifol am gyllid gyflwyno adroddiad ar ffurf taenlen o’r holl grantiau a wnaed yn yr ardal, gan gynnwys y math o eitem, y cod post a’r gwerth. Defnyddiodd arweinydd y rhaglen y daenlen hon, gan hidlo’r wybodaeth i gynhyrchu graffiau a siartiau a oedd yn dangos:

  • Faint o bob math o eitem a ddosbarthwyd
  • Cyfanswm gwerth y grantiau a wnaed, wedi’u dadansoddi
  • Cymariaethau o’r ddau o un flwyddyn i’r llall i ddangos newidiadau

Gwnaethant hefyd ddefnyddio’r data cod post yn y feddalwedd fapio i greu map a oedd yn dangos ble roedd y grantiau wedi’u gwneud. Gwnaethant ddefnyddio gwybodaeth ystadegol o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) i greu ‘map gwres’ o ardaloedd incwm isel fel y gallai’r darllenydd weld yn glir sut oedd y grant a ddarparwyd yn croestorri â’r angen tebygol yn yr ardal honno.

Defnyddiodd arweinydd y rhaglen wybodaeth o gyfuniad o Google Analytics (ar gyfer y wefan), Mailchimp (ystadegau e-bost), a Facebook ac Instagram (rhaglenni dadansoddi wedi’u cynnwys yn y rhain) fel rhan o’r adroddiad. Gwnaeth hyn ganiatáu iddynt gynnwys ystadegau ar faint o bobl oedd wedi ymweld â gwefan yr elusen, neu wedi gweld rhywbeth am y rhaglen grantiau drwy sianeli’r mudiad. Bu modd i’r arweinydd hidlo’r data ar gyfer gwybodaeth ddemograffig, fel ei bod dim ond yn cyfeirio at y rheini a oedd wedi’u cadarnhau fel rhai yn yr ardal ddaearyddol gywir ar gyfer eu mudiad.

Roedd arweinydd y rhaglen eisoes wedi anfon negeseuon e-bost gyda dolenni i ffurflenni ar-lein i deuluoedd eu llenwi fis ar ôl iddyn nhw dderbyn eu grant, yn gofyn iddyn nhw ymateb i gwestiynau ar raddfa, a oedd yn ymwneud â’r gwahaniaeth yr oedd y grant wedi’i wneud iddyn nhw, e.e. ‘A yw’r eitem wedi caniatáu i’ch teulu wneud pethau na allech chi eu gwneud o’r blaen?’, ‘A yw’r eitem wedi lleihau’r straen yn eich cartref?’. Pan nad oedd teulu wedi darparu cyfeiriad e-bost, gwnaeth tîm rhaglen eu ffonio i fynd drwy’r holiadur dros y ffôn.

Trwy ddefnyddio’r wybodaeth hon, bu modd i arweinydd y rhaglen lunio siartiau a oedd yn dangos pa mor llwyddiannus oedd y grantiau, yn ôl yr hyn a adroddwyd gan deuluoedd, o ran cefnogi’r canlyniadau cytunedig. Roedd y ffurflenni hefyd yn cynnwys meysydd heb destun i deuluoedd ychwanegu unrhyw sylwadau cyffredinol am y grant ac atodi lluniau os oeddent yn hapus i wneud hynny, a nodwyd hefyd sut byddai’r rhain yn cael eu defnyddio. Defnyddiwyd y dyfyniadau a’r lluniau hyn i gyflwyno elfen o ‘lais y teulu’ i’r adroddiad.


3.0 Ffyrdd syml o gyflwyno a chyfathrebu effaith

Taenlenni

Beth yw ef?

Mae rhoi data a dderbynnir drwy adnoddau eraill i mewn i daenlen yn fan dechrau da ar gyfer defnyddio adnoddau digidol i ddangos effaith. Gweler y pwnc Meddalwedd Swyddfa.

Math o wybodaeth weledol a gynhyrchir

Trosi data yn siartiau a graffiau, defnyddio mewn tablau

Nodweddion ychwanegol

Gallu defnyddio nodweddion dadansoddi i hidlo ac archwilio.

Enghreifftiau o feddalwedd (gwefannau Saesneg yn unig)

Microsoft Excel, Google Sheets

Adnoddau golygu lluniau

Beth yw ef?

Mae adnoddau golygu lluniau sylfaenol eisoes ar ael mewn cymwysiadau meddalwedd swyddfa fel prosesyddion geiriau a chyflwyniadau. Gall datblygu sgiliau mewn adnoddau ar-lein fel Canva eich helpu i gynhyrchu lluniau o ansawdd uwch yn haws.

Math o wybodaeth weledol a gynhyrchir

Cyfuno dyfyniadau a lluniau i gyflwyno astudiaethau achos mwy diddorol. Tocio lluniau i ffitio cyflwyniadau.

Nodweddion ychwanegol

Gyda mwy o hyfforddiant, gellir defnyddio technegau animeiddio a thrawsnewid sylfaenol.

Enghreifftiau o feddalwedd (gwefannau Saesneg yn unig)

Canva, Photoshop Express, Pixlr

Ffeithluniau

Beth yw ef?

Mae ffeithluniau yn debyg i siartiau neu graffiau, oherwydd maen nhw’n cyflwyno data mewn modd deniadol i’r llygad. Ond fel arfer, maen nhw’n rhoi mwy o naratif nag un siart, ac yn aml yn cynnwys lluniau, data a chyn lleied â phosibl o destun i gyfleu syniadau. Dyma enghraifft weddol syml gan elusen yn Sunderland (Saesneg yn unig).

Math o wybodaeth weledol a gynhyrchir

Creu cyflwyniad holistaidd neu trosfwaol o effaith. Creu stori ar gyfer rhaglen neu elfen o ddata.

Nodweddion ychwanegol

Gallu dechrau’n syml iawn gydag ychydig o destun a diagramau syml, a datblygu i graffiau a lluniau mwy cymhleth

Enghreifftiau o feddalwedd (gwefannau Saesneg yn unig)

Canva, Venngage, Piktochart, Microsoft Power BI

Mapio

Beth yw ef?

Gall meddalwedd fel Google Maps gysylltu â geogod taenlen neu ddata cod post i gynhyrchu map a dangos cwmpas daearyddol eich gwaith.

Math o wybodaeth weledol a gynhyrchir

Lleoliad gwaith. Trosolwg o’r gwaith yn erbyn metricsau eraill, e.e. mynegeion amddifadedd.

Nodweddion ychwanegol

Gellir creu cod lliwiau ar gyfer gwybodaeth map i amlygu’r amrywiaeth o waith.

Enghreifftiau o feddalwedd (gwefannau Saesneg yn unig)

Google Maps, Datawrapper, BatchGeo



Sgrinlun o enghraifft o ddefnyddio Google Maps i ddangos data "Shark Spotter Sites and Sightings"
Enghraifft o ddefnyddio Google Maps i ddangos data - o google.com (Saesneg yn unig)

Sgrinlun o daenlen google enghreifftiol sy'n dangos sut y gallwch ddefnyddio tablau a siartiau i arddangos data. Mae'r enghraifft hon yn dangos niferoedd misol y rhoddwyr rheolaidd ac untro.
Enghraifft o sut allwch ddefnyddio Google sheets i arddangos data

4.0 Adrodd storïau pwerus gan ddefnyddio adnoddau digidol

Er mor hanfodol yw ystadegau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ddangos effaith, gall fod yn anodd i ddarllenwyr uniaethu â nhw oni bai eu bod yn cael eu cyflwyno ochr yn ochr â llais a storïau eich buddiolwyr. Mae hyn yn bwysig, nid yn unig er mwyn annog empathi, ond hefyd er mwyn sicrhau bod y bobl hynny yn cael eu cynrychioli a bod eu profiadau o’ch mudiad yn ganolog i unrhyw naratif o’i effaith.

Dim stori heb rifau. Dim rhifau heb stori.

Un o brif fuddion y cnwd presennol o adnoddau digidol yw ei bod hi’n haws nag erioed i bobl rannu eu storïau ar draws cyfryngau amrywiol nawr. Gall buddiolwyr wneud y canlynol:

  • Llenwi ffurflenni ar-lein
  • Anfon negeseuon e-bost
  • Recordio neges sain a’i rhannu’n ddigidol
  • Ffilmio eu hunain neu dynnu llun o’u hunain a rhannu’r rhain yn ddigidol
  • Cymryd rhan mewn fideo neu alwad ffôn wedi’i recordio

Pethau i’w hystyried

Beth sydd angen i’ch stori ddangos?
  • Dylai stori adlewyrchu’r ochr ddynol o’r hyn y mae eich rhaglen yn ei chyflawni a gwneud i’ch cynulleidfa(oedd) ddeall y gwahaniaeth rydych chi wedi’i wneud ac empatheiddio â’r sawl sy’n adrodd y stori. Er y dylai gynnwys y ffeithiau hanfodol ynghylch sut cawsant eu helpu, mae hefyd yn bwysig rhoi cyd-destun ehangach. Gallai’r cwestiynau i’w gofyn gynnwys y canlynol:
  • Pam oedden nhw angen y rhaglen?
  • Faint o bobl yn y teulu gafodd fudd o’r rhaglen mewn un ffordd neu’i gilydd?
  • Beth fyddai wedi digwydd pe na bai nhw wedi gallu cael cymorth?
  • Pa wahaniaeth wnaeth hyn iddyn nhw?
  • Sut gwnaeth hyn wneud iddyn nhw deimlo?
  • Beth yw’r effaith barhaol ar eu bywydau?
Pwy sy’n adrodd y stori?
  • Eich buddiolwyr yw eich cefnogwyr mwyaf pwerus, ond mae angen i chi ystyried nifer o ffactorau cyn dewis eu storïau i’w rhannu’n ehangach:
  • Gwnewch yn siŵr eu bod mewn hwyliau priodol ac mewn sefyllfa lle na fydd rhannu eu stori’n gyhoeddus, lle gallai pobl y maen nhw’n eu hadnabod ei gweld, yn eu rhoi mewn perygl, neu mewn sefyllfa anghysurus. Os nad ydych chi’n siŵr, ewch at rywun arall.
  • Ydych chi neu rywun yn y mudiad eisoes yn eu hadnabod? A ydych chi, neu’r unigolyn arall yn teimlo y gallent siarad neu ysgrifennu’n dda am eu stori?
  • Ystyriwch yr hyn rydych chi’n ei wybod amdanynt a’r cymorth y maen nhw wedi’i dderbyn. A yw’n adlewyrchiad o’r rhaglen? A oes ganddyn nhw stori gymhellol sy’n seiliedig ar eu cefndir a pha wahaniaeth y mae’r rhaglen wedi’i wneud?
  • Gallai sgwrs gychwynnol fod yn ddefnyddiol i gael ymdeimlad o a fyddent yn gallu, ac yn fodlon, adrodd stori lawn am eu profiad.
  • Os yw’n briodol i’ch anghenion, rhowch y cyfle iddyn nhw fod yn ddienw.
Sut gallwch chi sicrhau cydsyniad ar sail gwybodaeth?
  • Bydd helpu pobl i ddeall sut bydd eu stori yn cael ei defnyddio, ac ymgynghori â nhw drwy gydol y broses, yn sicrhau ymddiriedaeth gan y ddwy ochr, a’u bod yn teimlo mewn rheolaeth ac yn fwy cysurus i gymryd rhan. Bydd hyn hefyd yn werthfawr os byddwch chi eisiau gweithio gyda nhw eto yn y dyfodol:
  • Eglurwch o’r cychwyn cyntaf sut a ble bydd eu stori yn cael ei defnyddio.
  • Gwnewch yn siŵr y gallant adolygu a chymeradwyo eu stori cyn iddi gael ei chyhoeddi.
  • Ewch ati i lunio ffurflen gysyniad hawdd ei darllen sy’n amlinellu’r holl wahanol ffyrdd y bydd yn cael ei defnyddio yn blwmp ac yn blaen, ac sy’n gwahanu’r defnydd o destun a lluniau/fideos, rhag ofn eu bod yn gysurus ag un cyfrwng ond nid y llall. Dylai’r ffurflen hefyd nodi am ba hyd fyddwch chi’n defnyddio’r stori.
  • Os yw’r stori am blentyn neu rywun ifanc, rhaid i’w riant a gofalwr gael eu cynnwys yn llawn yn y broses a rhoi cydsyniad ar ei ran.
Sut gallwch chi helpu pobl i adrodd stori mor lawn â phosibl?
  • Sicrhewch fod gennych chi nifer o gwestiynau safonol wrth law i gipio’r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen arnoch, ond byddwch yn barod i ddilyn i fyny â chwestiynau – naill ai mewn sgwrs neu drwy e-bost – er mwyn cael manylion penodol.
  • Gofynnwch iddyn nhw egluro unrhyw elfennau o’r stori nad ydynt yn glir, neu na fyddai, o bosibl, yn glir i rywun nad yw eisoes yn eu hadnabod nhw na’r rhaglen.
  • Os yw pobl yn stiff neu’n nerfus ynghylch siarad, gofynnwch iddyn nhw ddisgrifio’r hyn a ddigwyddodd fel pe bai nhw’n ei egluro i ffrind.
  • Ceisiwch annog pobl i siarad/ysgrifennu am gyn hired ag y dymunant.
  • Recordiwch y sgwrs os ydych chi’n ysgrifennu eu stori er mwyn sicrhau eich bod yn nodi popeth yn gywir.

Casglu a rhannu eich storïau

Gallwch chi hefyd recordio neu dynnu ffotograffau o’ch buddiolwyr gan ddefnyddio cyfarpar eich mudiad. Os oes gennych chi sgiliau neu gyfarpar uwch, fel camerâu neu ficroffonau proffesiynol, byddai hynny’n fanteisiol, ond bydd hyd yn oed ffôn clyfar syml yn rhoi canlyniadau da i chi - a gallai arddull cyflwyno ‘di-lol’ neu ‘heb hidlydd’ hyd yn oed fod yn fuddiol os caiff ei fframio’n briodol.

Wrth gasglu lluniau, fideos, sain a dyfyniadau i’w defnyddio, bydd angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan yr unigolion neu eu gwarcheidwaid i’w defnyddio.

Mae’r adnoddau hyn yn ei gwneud hi’n hawdd cael amrywiaeth o ddeunyddiau i stori pob unigolyn. A thrwy ddefnyddio templedi sydd eisoes yn bodoli (os nad oes gennych chi fynediad at adnoddau dylunio graffeg pwrpasol), gallwch chi gyflwyno’r deunyddiau craidd mewn modd deniadol i’r llygad. Bydd hyd yn oed meddalwedd swyddfa sylfaenol fel PowerPoint yn caniatáu i chi roi dyfyniad dros lun (gweler yr enghraifft isod), neu gallwch chi ddefnyddio templedi o feddalwedd am ddim fel Canva (Saesneg yn unig).

Gallech hefyd ddewis cyflwyno elfennau o’ch adroddiadau effaith ar-lein - a fydd yn eich galluogi i fanteisio i’r eithaf ar unrhyw asedau sain neu fideo rydych chi wedi’u derbyn wrth geisio casglu storïau. Gall tudalen we syml gyda’r holl wybodaeth mewn un lle fod yn ategyn defnyddiol neu’n opsiwn gwahanol i PDF neu ddogfen arall.

Sut bynnag y byddwch chi’n cyflwyno’r stori, meddyliwch am y gynulleidfa/cynulleidfaoedd sydd angen ei gweld a sicrhewch eich bod yn defnyddio’r fformat a fydd yn fwyaf hygyrch iddyn nhw.

Delwedd o astudiaeth achos hirach o Dance Syndrome. Mae'r ddelwedd yn dangos Becky Rich, arweinydd dawns DanceSyndrome, yn dawnsio, gyda dyfyniad ganddi sy'n darllen "You're dancing and you don't realise you're in another world. I've turned it into a passion and keep going. There is no obstacle from disabilities.". Llun trwy garedigrwydd Scott Wishart.
Darn o astudiaeth achos hirach - o dancesyndrome.co.uk

5.0 Enghreifftiau o arferion da ar y we, ac ar fformatau cymdeithasol ac adroddiadau (gwefannau Saesneg yn unig)

Charity Water: mae gwefan Charity Water yn gwneud defnydd da o’r wybodaeth ddiweddaraf am nifer y prosiectau y maen nhw’n eu cefnogi a faint o bobl y maen nhw wedi’u helpu. Maen nhw’n cyflwyno lluniau a chyfesurynnau GPS ar gyfer pob prosiect ac yn defnyddio meddalwedd mapio i ddangos lleoliad eu prosiectau yn fyd-eang.

Girls Who Code: Mae’r adroddiad blynyddol hwn gan y mudiad o’r Unol Daleithiau yn cyflwyno ffigurau allweddol mewn modd cyffrous, a llawer o ffotograffau diddorol i’w hategu, o fewn naratif sy’n pwysleisio cyrhaeddiad a chyd-destun canlyniadau. Er ei fod wedi’i ddatblygu gan dîm â sgiliau dylunio helaeth, mae rhai syniadau y gellir eu benthyg o hyd o ran y cyflwyniad a defnyddio llawer o luniau gyda thestun byrrach a mwy bachog.

Tableau Foundation – Er nad yw’n arbennig o ‘fywiog’ o safbwynt gweledol – mae adroddiad blynyddol y Tableau Foundation yn adnabyddus am fod yn adroddiad blynyddol byw, lle caiff y data ei ddiweddaru bob wythnos, gan ddangos diweddariad newidiol o sut mae eu gwaith yn mynd rhagddo. Pan fyddwch chi wedi paratoi eich templedi, ac os gellir cyrchu’r data’n hawdd, gellir efelychu hyn o bosibl ar raddfa lai. Gallech hyd yn oed ei wneud bob mis, neu bob yn ail fis os yw bob mis yn gofyn gormod.




Crynodeb

Chi a ŵyr orau am yr hyn sydd angen i’ch cynulleidfa a’ch cyllidwyr ei wybod am eich gwaith, ond trwy ddefnyddio’r adnoddau digidol a amlinellwyd yma, gallwch chi wneud yn siŵr eich bod yn cyflwyno amrediad ehangach o wybodaeth mewn modd haws a mwy effeithlon.

Mae’r rhan fwyaf o’r adnoddau a chymwysiadau sydd wedi’u rhestru yn y canllaw hwn yn syml i’w defnyddio ac yn gallu cynhyrchu data a gwybodaeth i chi gydag ychydig iawn o hyfforddiant. Ond, bydd cymryd yr amser i ddysgu sut i ddefnyddio rhai o’r nodweddion uwch yn eich helpu i wella’ch gwaith o gasglu data, ac yn rhoi amrywiaeth o ffyrdd deniadol a diddorol i chi gyflwyno’r wybodaeth honno i gynulleidfaoedd â diddordeb.

Er y gall y data a’r wybodaeth ychwanegol y gellir eu casglu gan ddefnyddio adnoddau digidol fod yn werthfawr i ddarparu cyd-destun ehangach ar gyfer dangos effaith, cofiwch am bwysigrwydd parhau i ddefnyddio storïau, dyfyniadau, lluniau a chyfryngau eraill gan y rheini y mae eich gwaith wedi’u cefnogi. Mae adnoddau digidol yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i bobl rannu eu storïau a’u profiadau, a phan ddefnyddir y rhain fel rhan o gynllun ymgysylltu â buddiolwyr, gall sicrhau nad yw elfen ddynol eich effaith yn cael ei anghofio.


Rhagor o wybodaeth

Darllen pellach

Information is Beautiful – Mae’r wefan hon yn ffynhonnell ddefnyddiol o ysbrydoliaeth ar gyfer ffyrdd gwahanol o gyflwyno data mewn modd cymhellol a ‘phrydferth’.

Charity DigitalChwe adroddiad effaith i’ch ysbrydoli chi – Casgliad defnyddiol o adroddiadau effaith blynyddol ar fformat gwe a dogfennau gan elusennau gwahanol a all roi syniadau newydd i chi ar gyfer cyflwyno eich gwaith.

NCVO – Effaith a gwerthuso – Adnoddau a chanllawiau i’ch cefnogi i ddatblygu arferion effaith a gwerthuso effeithiol yn eich mudiad

Venngage – Sut i wneud ffeithlun mewn pum cam – Mae’r canllaw hwn gan y cwmni meddalwedd Venngage yn ddefnyddiol ar gyfer cynllunio a chreu ffeithluniau, ond mae hefyd yn cynnwys egwyddorion a fyddai’n dda eu cynnwys yn eich arferion effaith yn gyffredinol.

Geirfa

Allbynnau – Allbynnau yw canlyniadau meintiol gweithgaredd – y pethau sy’n cael eu cynhyrchu. Er enghraifft, allbwn rhaglen hyfforddi fyddai nifer y bobl sydd wedi cwblhau cwrs neu ennill cymhwyster.

Ansoddol – Term a ddefnyddir i gyfeirio at wybodaeth sy’n ddisgrifiadol ei natur, ac sydd fel arfer yn cyfeirio at bethau fel cofnodion o brofiadau a safbwyntiau pobl neu ddadansoddiad. Defnyddir ef i roi lliw a chyd-destun ochr yn ochr â data ystadegol neu ‘feintiol’.

Canlyniadau – Canlyniadau yw’r newid sy’n digwydd o ganlyniad i weithgaredd. Er enghraifft, efallai mai canlyniadau rhaglen hyfforddi yw bod cyfranogwr wedi magu hyder mewn pwnc, wedi gallu ymgeisio am swyddi mewn disgyblaeth berthnasol neu wedi adrodd cynnydd yn ei lesiant.

Dadansoddeg - Darn o feddalwedd sy’n cysylltu â gwefan, platfform neu sianel cyfryngau cymdeithasol i fonitro ymddygiad defnyddwyr a chynhyrchu adroddiadau a data. Mae rhai o’r rhaglenni dadansoddeg hyn yn cyflwyno nodweddion pellach sy’n caniatáu i chi ddadansoddi’r data a gynhyrchir.

Map gwres - Techneg fapio yw hon sy’n defnyddio troshaen o liwiau ar draws map safonol i nodi gwerthoedd gwahanol ar draws amrediad. Er enghraifft, gallech chi gael map o ddinas, gyda gwahanol liwiau ar sbectrwm sy’n amrywio o liwiau tywyll i golau i gynrychioli gwerth eiddo, gyda’r lliwiau tywyllach yn dangos ardaloedd mwy drud a’r lliwiau mwy golau yn dangos ardaloedd rhatach. Weithiau, defnyddir y dechneg hon hefyd wrth ddadansoddi gwefan, er mwyn gweld gweithgarwch defnyddwyr ar dudalen.

Meddalwedd mapio - Cymhwysiad meddalwedd sy’n caniatáu i chi ychwanegu nodiadau neu haenau ychwanegol at fap cyfredol. Gall hyn gynnwys marcwyr i ddangos pwyntiau o ddiddordeb, neu haenau neu linellau lliw i wahaniaethu rhwng gwahanol ardaloedd ar fap. Er enghraifft, gallech chi liwio rhai ardaloedd fel ‘map gwres’, i ddangos ble gwnaethoch chi gynnig gwasanaethau, a defnyddio marcwyr i ddangos ble gwnaethoch chi eu darparu.

Meintiol – Mae hwn yn cyfeirio at ddata y gellir ei fesur a’i ‘feintioli’, fel arfer yn seiliedig ar rifau.


Ysgrifennwyd y canllaw hwn gan Brightsparks.



Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu