Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Seiberddiogelwch am ddim

Dwy fenyw ar liniaduron mewn sesiwn hyfforddi
Llun gan ProMo Cymru

Ym mis Chwefror eleni gallwch gymryd rhan mewn hyfforddiant Ymwybyddiaeth Seiberddiogelwch am ddim i mudiadau trydydd sector yng Nghymru.

Cyflwynir yr hyfforddiant gan Ganolfan Seibergadernid Cymru (WCRC) mewn partneriaeth â menter PATH Seiber arloesol Grŵp y Ganolfan Seibergadernid Genedlaethol (NCRCG) (Saesneg yn unig), sy’n cael prifysgolion y DU, yr heddlu a’r sector preifat i gydweithio i ddarparu hyfforddiant.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn cynyddu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o risgiau seiberddiogelwch a sut i’w lliniaru yn eich mudiad. Bydd yr hyfforddiant hwn yn rhoi strategaethau syml ac effeithiol i chi i rwystro seiberdrosedd, ac yn cynyddu eich hyder i herio pan na fydd rhywbeth yn edrych yn iawn.

Dyddiadau ac amseroedd y sesiynau:

6 Chwefror 2024 | 2.00 pm – 4.30 pm | Ar-lein

neu

21 Chwefror 2024 | 2.00 pm – 4.30 pm | Ar-lein

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu