Pedair llinell gymorth yn defnyddio CRM di-god i arbed amse

Cynghorydd llinell gymorth Mynediad at Eiriolaeth Gwent yn siarad ar y ffôn.
Llun gan ProMo Cymru

Beth oedd y broblem?

Llwyddodd ProMo Cymru i symleiddio’r ffordd mae’n rheoli data ac i leihau’r gwaith gweinyddol ar gyfer staff ar draws ei bedair llinell gymorth drwy ddefnyddio Airtable.

Cyn i’r tîm ddechrau defnyddio Airtable, roedd yn defnyddio nifer o systemau CRM ac felly roedd data ac adnoddau wedi’u gwasgaru ar draws gwahanol lwyfannau. Roedd hyn yn golygu bod gormod o gamau diangen a oedd yn creu baich gweinyddol ac yn cynyddu’r risg o wneud camgymeriadau.

Sut gwnaethon nhw ddefnyddio technoleg ddigidol i ddatrys y broblem?

Mae’r tîm bellach yn defnyddio un CRM Airtable ar gyfer ei bedair llinell gymorth, ac mae’n gweithredu fel system rheoli achosion i fewnbynnu a monitro cofnodion achosion. Mae’r tîm hefyd yn ei ddefnyddio i storio gwybodaeth am fudiadau a phrosiectau, ac i gadw golwg ar wybodaeth fonitro.

Prif fantais Airtable yw ei fod yn grymuso staff rheng flaen i newid neu iteru’r platfform yn gyflym heb fod angen gweithio gyda datblygwr; nid oes angen unrhyw brofiad codio. Mae Airtable yn edrych yn debyg i lwyfannau taenlenni adnabyddus fel Microsoft Excel, ond gallwch newid sut rydych yn gweld data fel ei bod yn hawdd ei ddeall, ac awtomeiddio tasgau i arbed amser.

“Er bod taenlenni’n ddigon da ar gyfer olrhain gwybodaeth, mae defnyddio Airtable yn golygu bod modd defnyddio eich data. Yn Airtable, gallwch gysoni, strwythuro a storio data ym mha bynnag ffordd y dymunwch”

Mae aelodau'r tîm wedi nodi bod eu llwyth gwaith yn llai gan fod y rhan fwyaf o’r hyn sydd ei angen arnynt bellach mewn un lle. Mae Airtable hefyd yn eich helpu i gysylltu systemau allanol eraill i wneud gwaith gweinyddol yn haws. Er enghraifft, os bydd aelod newydd yn cofrestru drwy ffurflenni Airtable, gall eu hychwanegu’n awtomatig at eich cylchlythyr os ydych chi’n defnyddio llwyfan fel Mailchimp.

Os ydych chi’n sownd gyda CRM nad yw’n gweithio mwyach, neu os ydych yn ystyried atebion pwrpasol drud i reoli eich data, adnoddau neu dasgau, gallai Airtable arbed amser ac arian i chi.

Rhowch gynnig ar ddefnyddio’r templed CRM Newid

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweld CRM Airtable sydd wedi’i lunio’n bwrpasol ar gyfer y trydydd sector yng Nghymru, gallwch roi cynnig ar y Templed CRM rydyn ni wedi’i greu.

Cynlluniau sydd Ar Gael i Fudiadau Nid-er-elw:

Mae Airtable yn cynnig gostyngiad o 50% i fudiadau nid-er-elw.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu