Teithiau Cefnogwr Digidol

Llun o fenyw yn eistedd ar ymyl bryn, yn edrych ar lwybr oddi tani, yn ymestyn i'r pellter
Photo by Vlad Bagacian / Unsplash
Ar ddiwedd y canllaw hwn, byddwch yn:
Deall pwysigrwydd adnabod pwy yw eu cynulleidfa.
Gwybod sut i ymgysylltu â rhoddwyr a’u cadw.
Gallu llunio strategaeth i ymgysylltu â’r cynulleidfaoedd a ffafrir.


Beth yw taith rhoddwr digidol?

Dyma’r llwybr y mae rhywun yn ei dilyn i ddod yn rhoddwr ar-lein. Mae’n dechrau gyda sut mae’n darganfod eich mudiad, gan arwain at sut rydych chi’n ei ddarbwyllo i roi, ac nid yn unig i gadw ei gefnogaeth ond i’w annog i ddod yn llysgennad dros eich gwaith. Mae’n ymwneud â meithrin cydberthynas ddigidol â’ch rhoddwyr a fydd yn cymryd amser i’w datblygu; anaml iawn y bydd rhywun yn cyflwyno rhodd ar ei gysylltiad cyntaf â mudiad.


Ble i ddechrau?

Cyn i chi ddechrau cynllunio taith eich rhoddwyr, ystyriwch yn gyntaf pwy fydd eich rhoddwyr. Mae’n demtasiwn dweud eich bod yn targedu pawb, ond mae pobl o wahanol ddemograffeg yn defnyddio’r rhyngrwyd a chyfarpar digidol mewn ffyrdd gwahanol ac yn ymateb yn wahanol i ddulliau gweithredu gwahanol. Hefyd, bydd gan bob demograffeg lefelau amrywiol o incwm gwario a haelioni.

Er enghraifft

  • Mae menywod rhwng 45–64 oed yn fwy tebygol o roi a rhoi’r mwyaf o arian, ond y rheini sy’n lleiaf tebygol o roi yw dynion rhwng 16–24 oed
  • Pobl o Gymru yw’r rhai mwyaf tebygol o roi, a phobl o Lundain yw’r rhai lleiaf tebygol o roi

(https://www.cafonline.org/about-us/publications (Saesneg yn unig))

I gael cymaint o effaith â phosibl, mae angen i chi baru eich rhoddwr targed gyda’r daith gywir i roddwyr.


Pwy yw eich cynulleidfa?


Gallwch chi edrych ar ddadansoddeg ar eich gwefan neu gyfryngau cymdeithasol i weld pwy sy’n ymweld â’r safle a cheisio denu mwy o bobl debyg. Neu, efallai eich bod eisiau denu demograffeg wahanol, fel pobl â diddordebau a hobïau penodol, neu bobl mewn lleoliad penodol ac ati.

Beth bynnag y byddwch chi’n penderfynu ei wneud, ystyriwch ddewis 3 neu 4 demograffeg a nodi sut rydych chi eisiau ymgysylltu â nhw. Peidiwch â meddwl am roddion yn unig, efallai yr hoffech chi recriwtio mwy o wirfoddolwyr hefyd, neu ddatblygu cydberthnasau â busnesau.

Penderfynwch ar:

  • Eich cynulleidfa darged
  • Pam y grŵp targed hwn
  • Pa ganlyniad yr hoffech ei weld

Unwaith y byddwch chi’n gwybod pwy yw eich cynulleidfaoedd, gallwch chi ddechrau cynllunio eu taith.


Cam 1 – Gwneud yn ymwybodol

Mae taith eich rhoddwr yn dechrau pan maen nhw’n darganfod eich bod yn bodoli, a beth yw eich nodau. Gall hyn fod drwy droedyn e-bost, postiad ar gyfryngau cymdeithasol, erthygl papur newydd, poster, hysbyseb wedi’i dalu amdano ar gyfryngau cymdeithasol, neu bob math o gyfryngau ar-lein ac all-lein. Mae’n bwysig bod y ffynonellau gwahanol hyn yn cyfleu’r un negeseuon er mwyn osgoi drysu eich brand.

Gall y broses negeseuo hon gael ei datblygu’n barhaus i helpu cynulleidfaoedd newydd i’ch darganfod ac atal dilynwyr presennol rhag diflasu â’ch neges. Pan fyddwch chi’n gwneud newidiadau, cofiwch olrhain yr effaith er mwyn gallu gweld beth sy’n gweithio orau.

Os nad yw pobl yn gwybod bod eich mudiad yn bodoli, ni all eu taith ddechrau. I roi’r siawns orau i’ch mudiad gael ei ddarganfod, gallech roi cynnig ar y pethau canlynol:

  • Optimeiddio eich gwefan ar gyfer peiriannau chwilio.
  • Bod yn weithredol ar sianeli cyfryngau cymdeithasol (defnyddiwch y sianelu sy’n cael eu defnyddio gan y grŵp rydych chi eisiau ei dargedu).
  • Ewch ati i ryngweithio â phostiadau perthnasol pobl eraill, yn ogystal â chynhyrchu eich cynnwys eich hun. Bydd hyn yn caniatáu i’ch enw cael ei weld gan ddefnyddwyr eraill.
  • Diweddarwch eich gwefan gyda’ch cyflawniadau, eich gweithgareddau diweddar a’ch cynlluniau i ddod.
  • Gwnewch y cynnwys yn berthnasol i gefnogwyr newydd.
  • Ystyriwch dalu am hysbysebion - gall y rhain eich helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd targed penodol iawn sy’n cyd-fynd â phroffil eich rhoddwyr.

Yn bwysicach na dim, peidiwch â rhoi llwyth o geisiadau am arian; mae angen i bobl ddeall pam eich bod yn bodoli a sut rydych chi o fudd i bobl cyn cael ceisiadau am arian. Gall gormod o geisiadau edrych yn ddesbrad, a bydd hyn yn gwneud iddyn nhw feddwl ddwywaith cyn eich dilyn i ddechrau.


Cam 2 - Darbwyllo

Unwaith y mae rhywun yn gwybod eich bod yn bodoli, eich her nesaf yw ei ddarbwyllo i ddod yn gefnogwr. Bydd angen i chi roi rhesymau iddo gefnogi gwaith eich mudiad, a gellir gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd drwy:

  • Ddangos ffeithiau a ffigurau ynghylch eich gwaith a’ch effaith
  • Dangos pwy arall sy’n cefnogi eich gwaith
  • Dangos ansawdd eich gwaith drwy Farciau Ansawdd neu unrhyw wobrau am gyflawniadau
  • Rhannu’r hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud am waith eich mudiad
  • Sicrhau bod eich gwefan yn hygyrch i bawb – er enghraifft, ieithoedd gwahanol, neu bobl â nam ar eu golwg.

Meddyliwch am sut rydych chi’n cyflwyno’r wybodaeth hon; nid yw pobl yn debygol o fod eisiau darllen tudalennau o astudiaethau academaidd. Gallwch ddefnyddio ffeithluniau, astudiaethau achos am bobl rydych chi wedi’u helpu, neu dystlythyrau gan bobl rydych chi wedi’u helpu. Ym mhob achos, gwnewch yr wybodaeth yn berthnasol ac yn dryloyw.

Gallwch chi ddysgu mwy am sut i ddangos eich effaith gan ddefnyddio adnoddau digidol yn ein canllaw Ffyrdd syml o ddangos effaith drwy ddefnyddio datrysiadau digidol.

💡
AWGRYM – Canolbwyntiwch ar agweddau cadarnhaol eich gwaith; er y gallech fod yn ymdrin â phynciau emosiynol ac anodd, mae pobl eisiau darllen am y pethau da rydych chi wedi’u cyflawni ac maen nhw’n llai tebygol o roi i storïau trist.

Mae pwy sy’n rhannu’r wybodaeth am eich mudiad hefyd yn bwysig. Mae pobl yn llawer mwy tebygol o gael eu darbwyllo i ddod yn gefnogwr os mai ffrind neu gyswllt iddyn nhw sy’n rhannu’r wybodaeth, yn hytrach na rhywbeth a ddaw o’r mudiad yn uniongyrchol.

Mae ymchwil wedi dangos bod y bobl hynny sydd â diddordeb mewn rhoi yn darllen gwybodaeth tan iddyn nhw gael eu darbwyllo i roi. Mae gwybodaeth ar-lein yn berffaith ar gyfer hyn gan fod y gost o roi deunydd ar-lein am ddim neu’n rhad. Gallwch chi ennyn diddordeb gyda ffeithiau a straeon bach byr, ac i’r rheini sydd eisiau gwybod mwy, gallwch chi rannu dolenni i’w dilyn i gael gwybodaeth fwy manwl. Cofiwch osod dolenni i bwyntiau rhoi o fewn y testun; peidiwch â’u gadael tan y diwedd.



Cam 3 - Argyhoeddi

Y cam nesaf yw argyhoeddi’r cefnogwr neu unigolyn â diddordeb i ddod yn rhoddwr. Gallwch chi barhau i’w golli’n hawdd ar y pwynt hwn os na fyddwch chi’n dangos bod y llwybr rhoi’n eglur, yn gyflym ac yn ddibynadwy.

💡
AWGRYM – Dau beth i’w hosgoi:
Ffurflenni wedi’u lawrlwytho y mae’r rhoddwr yn eu llenwi â llaw ac yn eu dychwelyd – mae hyn yn cymryd yn rhy hir, ac mae’n rhoi gormod o gyfleoedd i rywbeth dynnu sylw’r rhoddwr a gwneud iddo anghofio cyflwyno’r rhodd.

Defnyddio tudalennau rhoi heb frand sy’n edrych yn wahanol iawn i’ch tudalen we neu gyfryngau cymdeithasol eich hun. Gall hyn wneud i’r rhoddwr deimlo nad yw’r dudalen yn ddibynadwy.

Gall sylw pobl gael ei wrthdynnu’n hawdd wrth bori, e.e. trwy ddilyn dolenni at hysbysebion neu bynciau eraill. Felly, sicrhewch eich bod yn cyfyngu nifer yr hysbysebion a ddangosir ar eich tudalennau pan rydych chi’n gofyn i rywun roi arian. Ar ôl gweithio’n galed i wthio rhywun i’r pwynt hwn, y peth olaf rydych chi am ei wneud yw ei golli ar y cam olaf.

Sicrhewch y gellir dod o hyd i’ch tudalen roi yn hawdd. Rhychwant sylw byr iawn sydd gan bobl ar wefannau; dim ond am ryw wyth eiliad y maen nhw’n canolbwyntio. Felly, gwnewch yn siŵr bod y dudalen roi yn hawdd ei chwilio mewn dewislenni ac ystyriwch gael botwm ‘rhoi nawr’ amlwg y gellir ei weld ar bob tudalen o’ch gwefan.

Graffeg o fotwm cyfrannwch nawr ar dudalen we

Bydd ychwanegu’r ‘nawr’ yn helpu i greu ymdeimlad o frys er mwyn cynyddu’r tebygolrwydd y bydd rhywun yn rhoi.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ddatblygu gwefan yn ein canllaw Cyflwyniad i Ddatblygu Gwefan.

Mae lliaws o wefannau rhoi pwrpasol, fel PayPal, Just Giving a Local Giving. Fel arfer, mae’r rhain yn codi tâl am gasglu’r rhodd a/neu’n codi ffi flynyddol. Y budd o ddefnyddio’r rhain yw eu bod yn wefannau adnabyddedig, dibynadwy y mae rhoddwyr yn eu defnyddio’n hyderus. Yn aml, maen nhw’n cynnig adnoddau a dadansoddeg rhoddion ychwanegol i’ch helpu chi i ddeall ymddygiad eich rhoddwyr. Mae nifer o wefannau am ddim, ond yn aml, mae’r rhain yn talu am eu hunain drwy hysbysebion a all dynnu sylw’ch darpar roddwyr oddi wrth eich prif nod o gael arian. Wrth ddewis platfform rhoi, sicrhewch ei fod yn cynnig yr hyblygrwydd y mae eich mudiad ei eisiau – e.e. meintiau amrywiol o roddion, rhoddion untro a rheolaidd, ac yn rhoi’r data sydd ei angen arnoch.

Wrth osod y symiau rhoi, bydd gan roddwyr yr opsiwn i drefnu rhodd ailadroddol yn ddiofyn. Dyma’r rhodd rydych chi eisiau ei dderbyn (mae rhoddion rheolaidd, ailadroddol yn rhoi incwm dibynadwy i chi y gallwch chi ei gynnwys mewn rhagolygon a chyllidebau). Ceisiwch roi tua phedwar opsiwn i’ch rhoddwyr, a ‘swm arall’ a fydd yn rhoi’r hyblygrwydd i bobl osod maint eu rhoddion eu hunain. Wrth feddwl am faint y rhoddion i’w gosod fel y prif opsiynau, ystyriwch yr hyn rydych chi’n ei wybod am eich rhoddwyr tebygol a’u lefelau o incwm gwario.

Dangoswch beth allai rhodd ei brynu a sut byddai’n helpu. Mae rhodd o £25 i fudiad â throsiant o £100,000 yn teimlo’n swm pitw, ond byddai gwybod y byddai’r £25 hwnnw’n prynu 30 munud o gwnsela i blentyn yn gwneud iddo deimlo’n llawer pwysicach.

Mae hefyd yn bwysig dangos mwy o werth am arian ar gyfer rhoddion mwy. Er enghraifft, peidiwch â dweud y gallai rhodd o £2 am dabled malaria arbed bywyd, a gallai £100 gyllido awr o addysg, gan nad yw hwn yn gwneud i’r rhodd mwy o faint swnio’n werth da am arian mewn cymhariaeth.

Ewch ati i annog pobl i rannu’r hyn y maen nhw wedi’i roi ar broffil eu cyfryngau cymdeithasol. Mae llawer o’r platfformau rhoi yn eich galluogi i wneud hyn, ac mae’n ffordd wych i bobl ddenu eu ffrindiau at eich mudiad.


Gwneud yn Ymwybodol, Darbwyllo, Argyhoeddi.

Dyma dri cham cyntaf taith y rhoddwr, o’i wneud yn ymwybodol o’ch mudiad i wneud rhodd. Mae’r camau nesaf o daith y rhoddwr yn ymwneud â’i gadw a’i annog i weithredu ar eich rhan er mwyn cyrraedd mwy o bobl.


Cam 4 – Gwerthfawrogi

Mewn rhai ffyrdd, mae’r gwaith caletaf yn digwydd pan fydd y rhoddwr wedi gwneud ei rodd gychwynnol, oherwydd mae angen i chi gynnal ei ddiddordeb nawr a, gobeithio, ei annog i roi eto, a gwell fyth, i hyrwyddo eich mudiad i bobl eraill.

Sicrhewch eich bod bob amser yn diolch i bob rhoddwr am ei gefnogaeth a rhoi gwybod iddo sut bydd yr arian yn cael ei wario. Mae pobl yn rhoi arian am eu bod yn hoffi’r hyn rydych chi’n ei wneud, a byddan nhw eisiau gwybod sut mae eu harian yn eich helpu chi i wneud gwahaniaeth. Un o’r rhesymau pennaf y mae rhoddwyr yn stopio rhoi arian yw am nad oeddent yn gwybod ble roedd eu harian yn cael eu gwario.

💡
Dengys gwaith ymchwil fod rhoddwyr 400% yn fwy tebygol o roi eto os cânt eu diolch o fewn 48 awr i roi, a dywed bron 70% o roddwyr bod deall yr effaith y mae eu harian wedi’i gwneud yn bwysig iddyn nhw. (Guidestar.org (Saesneg yn unig))

I wneud y broses yn haws i’ch mudiad, lluniwch e-bost awtomatig i negeseuon pobl mor gyntaf ag y maen nhw wedi rhoi arian, ac os yn bosibl, gwnewch ef yn bersonol i’w rhodd, yn hytrach na neges “diolch am eich rhodd” generig. Ni fydd hyn yn costio’r un geiniog, ond bydd yn gwneud i’ch rhoddwr deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi mwy ac felly bydd yn fwy tebygol o roi eto.

Os oedd y rhodd i ymgyrch neu brosiect penodol, rhowch wybod iddyn nhw beth fydd y gwaith hwn yn ei gyflawni. Os yw’n rhodd fwy cyffredinol, gallwch roi enghraifft o’r hyn y byddai’r rhodd yn ei ddarparu.

Gallwch chi hefyd gynnig opsiynau i bobl ddal ati i gefnogi mewn ffyrdd anariannol, efallai trwy gofrestru i gael cylchlythyr, neu eich dilyn ar-lein - peidiwch â chael eich temtio i ofyn am arian ar unwaith! Mae ymhél â chefnogwyr gyda chyfathrebiadau parhaus yn ffordd wych o ddatblygu eich cydberthynas a rhoi’r newyddion diweddaraf iddyn nhw ar yr hyn rydych chi’n ei gyflawni.

💡
AWGRYM: Mae pobl sydd wedi rhoi arian unwaith yn llawer mwy tebygol o ailadrodd y rhodd ac yn llawer llai o waith na recriwtio rhoddwr newydd. Mae dal gafael ar roddwyr a chadw eu diddordeb yn bwysig felly i gynyddu eich rhoddwyr.

Unwaith y mae ymgyrch roi wedi’i chwblhau, mae’n werth anfon neges ddilynol i ddiolch i roddwyr eto a rhoi gwybod iddyn nhw beth mae’r prosiect wedi’i gyflawni.

Noder – sicrhewch eich bod yn bodloni holl oblygiadau’r GDPR cyn anfon deunyddiau marchnata/codi arian.


Cam 5 – Rhoi hwb

Unwaith rydych chi wedi derbyn eich rhodd ac wedi dechrau meithrin cydberthynas â’r rhoddwr, gallwch feddwl am roi ‘hwb’ i roddwyr roi eto. Gall hwn fod yn rhodd untro arall, neu drwy ddod yn rhoddwr rheolaidd. Mae’r triongl rhoddwr isod yn dangos y categorïau gwahanol o roddwyr, a’r nod yw rhoi ‘hwb’ i fyny’r triongl iddyn nhw.

Meddyliwch am y lefelau gwahanol hyn a pha wybodaeth sydd gennych chi ar eich gwefan a allai annog rhoddwr i symud i fyny’r triongl. A ydych chi’n egluro pa mor bwysig yw rhoddion rheolaidd i roi sicrwydd ariannol i chi? A ydych chi wedi dangos sut mae cymynrodd flaenorol wedi cael effaith? Neu wedi rhannu stori gan roddwr mawr am bâm y mae’n eich cefnogi?

 Diagram o byramid rhoi. Testun o'r top i'r gwaelod. Cymynroddion, prif roddwyr, rhoddwyr mawr rheolaidd, rhoddwyr mawr am y tro cyntaf, rhoddwyr rheolaidd, rhoddwyr am y tro cyntaf, rhoddwyr tebygol.

Er mwyn rhoi ‘hwb i roddwyr blaenorol i roi mwy, ewch ati i’w hatgoffa o’u rhodd blaenorol (cofiwch, mae rhywun sydd wedi rhoi o’r blaen yn llawer mwy tebygol o roi eto) a’r hyn y mae wedi’i gyflawni, yna dangoswch beth allai rhodd ychydig yn fwy ei gyflawni.

Peidiwch â dibynnu ar ailadrodd yr un wybodaeth i annog rhoddion yn y dyfodol. Cadwch gynnwys eich cyfryngau cymdeithasol a’ch gwefan yn gyfredol a pherthnasol. Fel rheol, dylai 80% ohono fod yn wybodaeth am eich gwaith ac 20% ohono’n ymwneud â gofyn am arian. Os byddwch chi yn gofyn gormod, byddwch chi’n ymddangos yn desbrad, ond os na fyddwch chi’n gofyn digon, ni fyddant yn rhoi o gwbl.



Cam 6 - Llysgenhadon

Llysgenhadon yw pobl sy’n gallu cynrychioli eich mudiad, ar-lein ac all-lein. Fel arfer, gwirfoddolwyr yw’r rhain sy’n gefnogwyr gweithredol, yn rhannu cynnwys ar-lein ac yn rhoi sylwadau ar eich gwaith.

Mae cael rhoddwyr i ddod yn llysgenhadon i’ch mudiad yn ffordd effeithiol iawn o gynyddu eich cyrhaeddiad i ddod o hyd i roddwyr newydd. Rydyn ni’n cael ein dylanwadu gan gamau gweithredu ein cymheiriaid a’n ffrindiau, felly pan fyddan nhw’n rhannu gwybodaeth am achos neu brosiect, rydyn ni’n fwy tebygol o weithredu na phan ddaw’r wybodaeth o’r mudiad yn uniongyrchol.

Gallwch chi wobrwyo rhoddwyr o’r fath, drwy roi statws llysgennad, arch-gefnogwr neu statws tebyg iddyn nhw, ac efallai bathodyn hefyd y gallant ei ychwanegu at eu proffil ar gyfryngau cymdeithasol. Efallai y bydd angen i chi roi’r wybodaeth rydych chi eisiau ei rhannu i’ch cefnogwyr er mwyn sicrhau bod y neges yr un fath a’i bod yn gywir. Y peth olaf rydych chi ei eisiau yw llawer o gefnogwyr sy’n dechrau rhannu negeseuon gwahanol neu groes am eich gwaith.

Gallai fod gan eich rhoddwyr ddiddordeb hefyd mewn dod yn godwyr arian, trefnu digwyddiadau neu gynnal digwyddiad wedi’i noddi i godi mwy o arian. Os yw hyn yn rhywbeth rydych chi eisiau ei annog, sicrhewch eich bod yn rhoi’r wybodaeth ar eich gwefan, ac yn ei hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol, i’w helpu i drefnu a chyflawni’r gweithgaredd. Ynghyd a rhoi’r adnoddau i’w helpu, er enghraifft, ffurflenni noddi, rhowch eiriad iddynt am y mudiad, logo ac enw cyswllt iddynt ofyn am help. Gallech hefyd sefydlu grwpiau ar gyfer codwyr arian er mwyn cynnal eu cymhelliant a rhannu syniadau.

Dylai’r cam hwn fwydo yn ôl i’r cam cyntaf, gan eich helpu i wneud pobl newydd yn ymwybodol o’ch gwaith, a bydd y gylchred yn dechrau eto wrth i chi ddechrau tywys y bobl hynny ar eu taith i gefnogi eich mudiad.



Dysgu

Nid oes fformiwla union i roi ar-lein a bydd y canlyniadau’n amrywio rhwng mudiadau. Mae’n bwysig felly i ddysgu beth sy’n gweithio a ddim yn gweithio, o safbwynt eich mudiad chi, ac yna defnyddio’r hyn a ddysgir i wneud gwelliannau.

Gosodwch Ddangosyddion Perfformiad Allweddol (KPI) ar gyfer eich gweithgareddau gwahanol. Dangosyddion yw KPIs y gallwch chi eu defnyddio i fesur cynnydd tuag at eich nodau. Dylech ddewis dangosyddion sy’n hawdd eu cofnodi a’u holrhain. Er enghraifft, gallech chi ddefnyddio ymweliadau unigryw i’ch gwefan i weld a yw eich gwaith ymgyrchu yn eich helpu chi i ymgysylltu â mwy o bobl.

Bydd y rhain yn eich helpu i fonitro eich perfformiad ar-lein, ac yn cynnwys data fel ymweliadau â’r wefan, faint sydd wedi agor y cylchlythyr, ymgysylltiad ar gyfryngau cymdeithasol a ffigurau rhoi. Dylech allu nodi unrhyw gydberthynas rhwng mwy o roddion a rhyngweithiadau â’ch cefnogwyr er mwyn dysgu pa rannau o’ch gwaith ymgyrchu sy’n cael yr effaith fwyaf.

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am sut gallwch chi ddefnyddio data yn fwy effeithiol yn y Canllaw Data ar gyfer Codi Arian, ond ymhlith y pethau syml y gallwch chi eu gwneud yw edrych ar ba adeg o’r dydd y mae postiadau poblogaidd yn cael eu gwneud neu ba erthyglau mewn cylchlythyr sy’n cael eu hagor fwyaf. Gallwch chi hefyd edrych ar ddata’r wefan i weld a yw pobl yn dychwelyd neu’n cael diweddariadau ar eich gwaith a’ch prosiectau. Os nad ydyn nhw, efallai y bydd angen i chi edrych ar eich geiriad a chynnwys neu efallai siarad amdano’n amlach ar gyfryngau cymdeithasol.

Pryd bynnag y byddwch chi’n gwneud newidiadau, ewch ati i adolygu’r effaith fel y gallwch chi ddysgu am beth sy’n gweithio orau. Ceisiwch gadw at un newid ar y tro i weld beth sy’n fwyaf effeithiol.

Hoffi'r post yma? Clicia isod i rannu