Sut y daeth gwefan WRC yn ddarllenadwy mewn 100 o ieithoedd
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC) yn darparu cymorth rheng flaen hanfodol i geiswyr lloches a ffoaduriaid ledled Cymru. P’un a yw’n helpu gyda thai, swyddi neu gyngor cyfreithiol, eu cenhadaeth yw helpu pobl i adeiladu bywyd newydd.
Yn y fideo hwn, mae Athina Summerbell, Pennaeth Cyfathrebiadau, Ymgysylltu a Pholisi, yn egluro sut y gwnaethant eu gwefan mor hygyrch a defnyddiol â’u tîm cymorth wyneb yn wyneb.
Y broblem: Rhwystrau i gymorth wyneb yn wyneb
Mae’r WRC yn gwybod bod y rhan fwyaf o bobl maent yn eu cynorthwyo eisiau cyrchu gwybodaeth yn gyflym neu wyneb yn wyneb. Fel gydag unrhyw wasanaeth rheng flaen, mae eu gallu i ddarparu wyneb yn wyneb yn gyfyngedig. Felly roeddent yn gwybod bod y digidol yn faes lle roeddent wirioneddol eisiau ei ddatblygu.
Darganfod a Diffinio: Dysgu gan ddefnyddwyr
Dechreuwyd drwy siarad â phobl oedd yn defnyddio eu gwefan. Cynhaliodd y WRC grwpiau ffocws gydag arbenigwyr, staff a gwirfoddolwyr â phrofiad bywyd. Hefyd, defnyddiwyd arolwg ar-lein i gasglu adborth gan eu partneriaid a’u cyllidwyr.
Canfu’r tîm ddau rwystr sylweddol:
- Iaith oedd y prif rwystr: Roedd pobl yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu â’r wefan os nad oedd y wybodaeth yn eu hiaith gyntaf.
- Roedd cyfeirio yn allweddol: Roedd staff a gwirfoddolwyr rheng flaen angen offer digidol y gallent gyfeirio pobl ato’n hyderus i arbed taith i’r swyddfa.
Y prototeip: Gwefan mewn 100+ o ieithoedd

Ychwanegodd y WRC feddalwedd o’r enw Recite Me i’w gwefan.
Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr:
- Gyfieithu’r wefan gyfan i dros 100 o ieithoedd
- Gwrando ar y testun yn cael ei ddarllen yn uchel
- Newid y ffordd mae’r wefan yn edrych er mwyn ei gwneud yn haws i’w darllen
Yr effaith: cyrchwyd mwy o wybodaeth
Gwelodd y tîm gynnydd yn y nifer o bobl yn defnyddio eu gwefan, gan dreulio mwy o amser yn edrych ar wahanol dudalennau. Maent wedi gweld newid sylweddol yn sut mae pobl yn cyrchu gwybodaeth, lle’n union maen nhw arni a beth sy’n iawn iddyn nhw.
Cyngor i elusennau eraill
Dechreuwch gyda newidiadau cynyddrannol bach. Mae’n ymwneud â phob un o’r camau bach hyn yn dod â chi’n agosach at le rydych chi am fod, ac rydych yn gwneud gwahaniaeth ar hyd y ffordd hefyd.
Ymunwch â’n cwrs nesaf
Eisiau dysgu sut i wneud eich gwasanaethau’n fwy hygyrch? Ymunwch â’n Cwrs Dylunio Gwasanaethau Digidol. Rydym yn helpu elusennau i brofi syniadau newydd a defnyddio offer digidol i wella eu gwasanaethau.
Darllen pellach
Adnoddau
- Beth Rydym yn ei Olygu Wrth Siarad am Gynllunio Gwasanaeth
- Sut gall sgrialfwrdd a beic modur eich addysgu am Gynllunio Gwasanaethau Digidol
Astudiaethau Achos
- Sut y bu i Scope ddefnyddio dylunio cynnwys ac adeiladu cymuned ar-lein er mwyn gwella cysylltiad ar gyfer rhieni i blant anabl
- Sut mae Cyswllt Conwy ar gyfer Anableddau Dysgu wedi defnyddio Tripetto i rymuso eu haelodau ac i wneud y broses gofrestru yn haws
- Y ffordd aeth Kidscape ati i ddefnyddio VideoAsk i gefnogi rhieni mewn angen, hyd yn oed pan oedd eu llinell gymorth ar gau
Like this post? Click below to share: