Cwrs Cynllunio Gwasanaethau Digidol: Medi 2026
Gwneud i'ch gwasanaethau weithio'n well yn ddigidol.
Bydd ein cwrs Dylunio Gwasanaethau Digidol am ddim yn rhoi'r sgiliau ymarferol a'r hyder i chi archwilio sut gall digidol wella'r ffordd y mae eich sefydliad yn gweithio - p'un ai yw hynny'n gwneud eich gwasanaethau yn haws i bobl gael mynediad atynt, yn gwella profiadau ar gyfer y bobl yr ydych yn eu cefnogi, neu'n symleiddio prosesau dydd i ddydd eich tîm.
Dros 10 wythnos, byddwch yn cael eich arwain drwy'r dull Darganfod, Diffinio, Datblygu, gan ddysgu sut i ddeall anghenion pobl, profi syniadau'n fuan a datblygu datrysiad ymarferol i her wirioneddol yn eich sefydliad.
Lluniwyd y cwrs ymarferol hwn yn benodol ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru, gydag arweiniad arbenigol, cefnogaeth mentor a gweithgareddau ymarferol y gallwch eu rhoi ar waith ar unwaith.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych:
- Sgiliau dylunio gwasanaeth ymarferol y gallwch eu defnyddio ar draws eich sefydliad.
- Prototeip wedi'i brofi, wedi'i ddatblygu o amgylch her sefydliadol go iawn.
- Dealltwriaeth ddyfnach o anghenion y bobl sy’n defnyddio’ch gwasanaeth, eich tîm, neu'r bobl yr ydych yn eu cefnogi.
- Y cymhwysedd i wneud cais ar gyfer y rownd nesaf o'r Cynllun Grantiau Bach yn Hydref 2026.
Mae mynychwyr cynt wedi dweud
"Rwyf wastad yn gwella bob rhan o'm diwrnod gwaith wrth feddwl sut gallaf roi'r hyn a ddysgais ar waith."
"Mae hud yn yr ystafell yma"
"Mae'r agwedd sgrialfwrdd o bethau ddim yn gorfod bod yn berffaith yn syth wedi gwir newid fy meddylfryd yn broffesiynol ac yn bersonol."
"Mae angen i bob sefydliad trydydd sector wneud hyn"
Strwythur y cwrs
Dros yr 10 wythnos, bydd angen cadw tri dyddiad yn rhydd yn eich calendr.
Cyfnod Darganfod
1. Gweminar Cyflwyno: 23 Medi 10 am - 1 pm [AR-LEIN].
- Bydd y cwrs yn dechrau gyda gweminar hanner diwrnod lle byddwch yn cael eich cyflwyno i'r fethodoleg dylunio gwasanaeth, sut beth yw'r broses, a sut i ddeall anghenion defnyddwyr yn well.
- Yna bydd gennych bedair wythnos i gwblhau darn o ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall ble y gallech fod yn arbed amser
Cyfnod diffinio
2. Gweithdy Prototeipio: 28 Hydref, 9.30-4.30pm, Caerdydd [WYNEB YN WYNEB].
- Yn ystod y gweithdy rhyngweithiol wyneb yn wyneb yma, byddwch yn cael eich arwain drwy weithgareddau i ddylunio prototeip digidol newydd o'ch gwasanaeth.
- Byddwn yn darparu cinio a lluniaeth. Byddwn yn ad-dalu costau teithio.
Cyfnod datblygu
Bydd gennych bedair wythnos i brofi eich ateb a chasglu canlyniadau.
3. Gweminar Olaf: 8 Rhagfyr, 10 am - 1 pm [AR-LEIN].
- Ar ddiwedd yr 10 wythnos, byddwch yn cymryd rhan mewn gweminar i rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu drwy gydol y cwrs a byddwch yn dathlu’r hyn rydych wedi’i gyflawni.
Tasgau hunan-astudio
Rhwng y sesiynau, byddwch yn cael eich arwain drwy gyfres o weithgareddau y gallwch eu cwblhau yn eich amser eich hun.
Rydyn ni’n argymell eich bod yn caniatáu 2-3 awr yr wythnos ar gyfer y cwrs.
Cyfarfodydd mentora gyda hyfforddwyr
Byddech chi hefyd yn cael 2 (neu fwy os hoffech) cyfarfod mentor awr o hyd gyda'r hyfforddwyr i sicrhau eich bod chi ar y trywydd cywir ac i'ch cefnogi gyda'r prosiect.
Ar gyfer pwy mae’r cwrs yma?
Mae’r cwrs yma ar gyfer sefydliadau trydydd sector sydd wedi’u lleoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yng Nghymru.
Anogir dau berson o bob sefydliad i fynychu'r cwrs, er nad yw'n hanfodol. Mae angen i bob person gofrestru'n unigol.
Gwybodaeth bwysig
- Cymhwysedd: Mae’n rhaid i chi fod yn rhan o Sefydliad Trydydd Sector sydd wedi’i leoli yng Nghymru neu sy’n darparu gwasanaethau yma.
- Iaith: Cyflwynir y sesiwn yn Saesneg.
Edrychwch beth mae sefydliadau trydydd sector eraill wedi cyflawni ar y cwrs
- O ragdybiaeth i fewnwelediadau - ailfeddwl cymorth i rieni
Clywch sut mae'r tîm Kidscape wedi defnyddio ymchwil defnyddwyr i ailgynllunio eu gwasanaethau a diwallu anghenion teuluoedd yn well. - Cadw'r cyffyrddiad dynol wrth fynd yn ddigidol
Darganfyddwch sut y defnyddiodd Cyngor Gwirfoddol Sirol (CGS) adnoddau digidol i gyfathrebu'n fwy effeithiol â'i aelodau a gwella ymgysylltiad. - Symleiddio cofrestru gydag awtomeiddio
Dysgwch sut y defnyddiodd Cymdeithas Tai godau QR ac awtomeiddio i annog mwy o bobl i gofrestru ar gyfer eu gwasanaethau a lleihau tasgau gweinyddol swyddfa gefn ailadroddus.
Am unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch â megan@promo.cymru os gwelwch yn dda.
Like this post? Click below to share: